Wrth ymchwilio Archifau LlGC, fe welwch chi eu bod nhw’n llawn o wahanol ffynonellau sy’n nodi diwrnodau unigol sydd, dros amser, wedi dod yn hanesyddol. Un o’r diwrnodau hyn yw un rydyn ni’n meddwl amdano heddiw, sef Diwrnod VE.
Mae bwletin newyddion y BBC o Fai 7fed 1945 yn dangos y byd yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad yr oeddent wedi bod yn gobeithio ei glywed ers bron i 6 mlynedd. Roedd sibrydion eisoes bod yr ymladd wedi dod i ben, a bod Winston Churchill ar fin cyhoeddi diwedd y Rhyfel.

Mae adroddiad newyddion o ddiwrnod yn ddiweddarach, Mai 8fed, a ddarlledwyd am 5.15 o Gaernarfon, yn sôn am faneri'n cael eu chwifio wrth i Ddiwrnod VE cael ei ddathlu. Roedd pobl yn leinio'r strydoedd a gellid clywed canu. Mae'n sôn am y diwrnod a fydd yn parhau mewn hanes, gan nodi bod paentiad o David Lloyd George yn edrych dros y dathliadau, y dyn a arweiniodd y wlad yn y rhyfel diwethaf:
‘un o’r dyddiau a fyw byw mewn hanes. Y mae’r muriau’r hen gastell, a welodd lawer brwydr, yn edrych i lawr arnom, ac o’u blaen y mae cerflun David Lloyd George, y gŵr a arweiniodd y wlad yn y rhyfel diwethaf.’
(E. Morgan Humphreys, E/215, 8 May 1945)
Cofnododd y ffotograffydd Cymreig Geoff Charles (1909-2002) rai o olygfeydd dathlu diwedd y rhyfel ar gamera. Mae ei archif yn cynnwys delweddau o'r parti heddwch a buddugoliaeth a gynhaliwyd yn y Drenewydd ym 1945, gyda'r delweddau aneglur yn dal egni gwyllt y rhai oedd newydd ddod allan o chwe blynedd o ryfel.


Cipiodd Cymdeithas Ffilm Amatur Casnewydd a’r Cylch ddathliadau’r ddinas. Yn yr orymdaith cynrychiolwyd sefydliadau a gyfrannodd at yr ymdrech llwyddiannus rhyfel a oedd yn cynnwys St. John’s Ambulance Brigade a’r WVS (Women’s Voluntary Service) ymhlith eraill. Cafodd y ffilm ei digideiddio fel rhan o brosiect Datgloi Ein Treftadaeth y BFI a gellir ei gwylio am ddim ar y BFI Player, neu ar Sgrin Peniarth yn LlGC am gyfnod cyfyngedig.

Roedd y nofelydd Berta Ruck (1878-1978) yn byw yn Aberdyfi ar adeg y cyhoeddiad bod y rhyfel yn Ewrop wedi dod i ben. Mae'r llyfrgell yn dal casgliad helaeth o'i llyfrau nodiadau sy'n cynnig cipolwg ar sut y derbyniwyd y newyddion yn ei chornel hi o Gymru, gyda chofnod dyddiedig 8fed Mai 1945 yn darllen:
‘At 3 Churchill proclaimed the official end of war in Europe . . . . . . . Then the ships made a terrific rumpus with sirens & shooting & hooting and the flags fluttered & everything began at long last to seem gaye.’
(Archif Berta Ruck, NLW MS 23744D, 8 Mai 1945)
Roedd yr olygfa ymhellach i'r gogledd yn Llandudno'r un mor llawen. Disgrifiodd papurau J. Haulfryn Williams (1908-1980), a ddaeth yn Ysgrifennydd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn ddiweddarach, yr olygfa yn y dref yn dilyn y newyddion:
‘After hearing the Prime Minister’s announcement at 3.00 that hostilities in Europe had ceased and that terms of unconditional surrender had been signed at 2.41 yesterday morning . . . The town was crowded, everyone in high spirits. A dull morning had changed to a warm sunny afternoon.’
(Papurau J. Haulfyn Williams 18, 8 Mai 1945)
Ar ôl i'r dathliadau ddod i ben, roedd hi'n amser myfyrio. Ar y Sul yn dilyn 'diwrnod V' fel y gelwid ar y pryd, rhannodd y Parch. Gwilym Davies neges yn y Deml Heddwch. Mae'n cofio 'y rhai sydd wedi dioddef oherwydd y rhyfel, y rhai sydd wedi'u torri o ran corff, meddwl ac ysbryd a'r cartrefi yn ein plith wedi'u tywyllu gan dristwch.' Mae'n pendroni beth fydd y dyfodol yn ei ddwyn ac yn rhannu ei feddyliau am heddwch:
‘Will it find us, one by one and day by day, dedicated, humbly and wholly, the winning of the greater victory of the peace?’
(Papurau Y Parch. Gwilym Davies, 13 Mai 1945).
Categori: Erthygl