Gall teuluoedd ddod o bob lliw a llun, a gallen ni ddweud yr un peth am goed teulu. Ymhlith yr archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae gennym lawer o goed teuluol ac un o’r rhain yw coeden teulu enfawr mewn ffrâm sydd tua 2 fetr mewn taldra! Coeden deulu’r Barwniaid Dudley o Gastell Dudley yw hi, ac mae’n dipyn o waith celf! Daeth i’r Llyfrgell drwy ymddiriedolwyr y diweddar FDW Lea-Smith, y 12fed Barwn Dudley, ac mae’n dyddio o 1675. Mae wedi’i darlunio â delweddau gyda lluniau peintiedig yn cynrychioli aelodau o’r teulu, ac mae wedi’i haddurno ag arfbeisiau.
Un o’r delweddau a ddarlunnir yw’r Brenin Harri VII ac Elizabeth o Efrog, gyda’r arwyddlun y tu ôl iddynt wedi’i ffurfio o’r Rhosyn Tuduraidd Coch a Rhosyn Gwyn Efrog yn darlunio diwedd Rhyfel y Rhosynnau.
Mae gan y goeden briodasau adnabyddus eraill gan gynnwys y briodas rhwng y Fonesig Jane Gray (elwir hefyd yn ‘Frenhines y Naw Diwrnod’) a Guilford Dudley.
Mae gennym goed teulu mewn llawysgrifen fel un o goeden deulu Morgan o Ruperra. Beth sy'n braf am yr un yma yw'r gofal a gymerodd rhywun i ysgrifennu'r cyfan a'i gyflwyno mewn ffordd mor brydferth. Ymddengys nad oes unrhyw gamgymeriadau ynddo, fel pe bai'r awdur yn ysgrifennu popeth yn ofalus fel na fyddai'n rhaid iddo groesi unrhywbeth allan.
Mae coeden deulu mwy modern ar ffurf achyddiaeth brintiedig gan George Blacker Morgan, Ionawr 1884, o deuluoedd Morganiaid Llantarnam, Sir Fynwy, a Monasterevan, Sir Kildare. Y cyfan wedi’u teipio ac yn gyflawn gydag arfbais wedi’i harddangos yn falch ar y brig gyda’u harwyddair teuluol ‘Certavi et Vici’ (‘Rwyf wedi ymladd a gorchfygais’).
Ydych chi erioed wedi bod yn chwilfrydig am teulu eich hun? Efallai eich bod wedi llwyddo i ddod o hyd i deulu yn ôl gannoedd o flynyddoedd a chanfod eich bod yn perthyn i Owain Glyndŵr o bell, neu efallai bod Kate Roberts yn drydedd gyfnither i ffwrdd ddwywaith? Efallai eich bod yn perthyn o bell i’r Barwniaid Dudley neu Deulu Morgan.
Os ydych chi wedi bod yn gwylio rhaglen ‘Cyfrinachau’r Llyfrgell’ ar S4C efallai eich bod yn pendroni pa gyfrinachau sydd gan teulu eich hun. Gall fod ychydig yn frawychus pan fyddwch yn dechrau ymchwilio i’ch teulu, ond mae gennym staff hynod wybodus yn LlGC a fydd yn hapus i’ch helpu os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau. Cyn i chi ddod i mewn, efallai yr hoffech chi gael golwg ar ein canllaw defnyddiol a geir yma. Rydym hefyd yn darparu mynediad i ystod o adnoddau y gallwch eu defnyddio yn adeilad y llyfrgell. Mae'r rhain yn cynnwys Ancestry Library, Family Search a Findmypast. Trwy'r olaf gallwch hefyd gael mynediad am ddim i Gyfrifiad 1921 wrth ymweld â'r Llyfrgell, a gallwch weld Cyfrifiadau o 1841-1881 ar feicroffilm, mynegai 1881 ar feicrofiche, a Chyfrifiadau 1891-1901 ar feicroffilm neu feicrofiche. Mynediad ar-lein rhad ac am ddim trwy Ancestry Library a Findmypast o fewn adeilad y Llyfrgell. Mae gennym hefyd ystafell ymchwil ddynodedig yn llawn adnoddau i gynorthwyo gyda'ch ymchwil. Mae yna hefyd lyfryn defnyddiol y gallwch ei godi o'r ystafell ddarllen sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu
Dewch i ddatgloi eich treftadaeth ac archwilio'ch gorffennol eich hun.
Emma Towner
Archifau & Llawysgrifau LlGC
Categori: Erthygl