Symud i'r prif gynnwys
Trychineb Aberfan 1966

9 Hydref 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyflwyno Trychineb Aberfan 1966, arddangosfa newydd sy'n archwilio hanes, effaith ac etifeddiaeth Trychineb Aberfan ar 21 Hydref 1966.

Gan dynnu ar gasgliadau unigryw'r Llyfrgell, mae'r arddangosfa'n dod â ffotograffau, archifau, mapiau, gweithiau celf, cyhoeddiadau a thystiolaethau personol ynghyd i ddangos sut y gwnaeth y trychineb effeithio nid yn unig ar bobl Aberfan, ond ar gymunedau ledled Cymru ac ar draws y byd.

Ynghyd â'r cofnodion hanesyddol, mae'r arddangosfa'n archwilio sut yr ymatebodd Aberfan i'r trychineb drwy weithredu ar y cyd, cefnogaeth gymunedol a chofio. Mae'n tynnu sylw at rôl sefydliadau lleol, ymdrechion codi arian a mentrau cymunedol wrth helpu i lunio dyfodol y pentref, gan adrodd stori bwerus o wydnwch a gobaith yn wyneb colled annychmygol.

Bydd ymwelwyr yn gweld ffotograffau trawiadol gan Philip Townsend, David Williams ac I.C. “Chuck” Rapoport, sy'n cofnodi canlyniadau uniongyrchol y trychineb yn ogystal â gwydnwch y gymuned yn yr wythnosau a'r blynyddoedd a ddilynodd. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth o bob cwr o'r byd, cofnodion Cronfa Drychineb Aberfan, cyhoeddiadau sy'n dogfennu'r gwaith o ailadeiladu'r pentref, a deunydd sy'n dangos y cysylltiad parhaol rhwng Aberfan a chymuned Lara yn Awstralia.

Ymhlith yr eitemau nodedig mae'r cynllun tair dalen unigryw gan yr Arolwg Ordnans a gynhyrchwyd ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus, adroddiadau papurau newydd cyfoes o bedwar ban byd, a darluniau pensaernïol ar gyfer Canolfan Gymunedol Aberfan a Chofeb y Fynwent.

Mae uchafbwyntiau'r arddangosfa yn cynnwys deunydd o Archif Karl Jenkins, gan gynnwys ei gopi personol o Cantata Memoria: For the Children – Er Mwyn y Plant (2016). Cafodd y gwaith ei gyfansoddi i nodi hanner canmlwyddiant Trychineb Aberfan, gyda geiriau gan Mererid Hopwood, a'i berfformio a'i recordio gan gast o fri rhyngwladol gan gynnwys Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas a Catrin Finch.

Mae'r arddangosfa hefyd yn rhoi sylw i brosiect diweddar Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfr Coffa Aberfan. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi'i gyflawni mewn partneriaeth ag Elusen Goffa Aberfan, creodd y prosiect gopïau newydd o Lyfr Coffa Bethania Aberfan, gan sicrhau bod cof y 116 o blant a'r 28 o oedolion a gollodd eu bywydau yn cael ei ddiogelu a'i anrhydeddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cynhelir yr arddangosfa yng ngofod arddangos newydd, a fydd yn gartref i raglen o arddangosfeydd tymhorol sy'n newid yn rheolaidd. Bydd y gofod yn creu cyfleoedd newydd i rannu straeon o archifau a chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell, gan ddod â mwy o gof cenedlaethol a threftadaeth ddiwylliannol Cymru i sylw'r cyhoedd.

Drwy ddeunydd unigryw o gasgliadau'r Llyfrgell, mae'r arddangosfa'n cynnig cyfle i fyfyrio ar un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes modern Cymru, tra'n dathlu'r tosturi, y gwydnwch a'r penderfyniad a helpodd i lunio dyfodol Aberfan.

Bydd Trychineb Aberfan 1966 yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ar 10 Hydref. Mae mynediad am ddim.

Categori: Newyddion