Symud i'r prif gynnwys
Llun o'r Athro Richard Wyn Jones yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda silff o lyfrau yn y cefndir

Ysgrifennwyd gan Rob Phillips

11 Tachwedd 2025

Roedd cyfarfod pwyllgor ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig a’r ddarlith flynyddol wedi dychwelid i’w slot traddodiadol eleni, sef dydd Gwener cyntaf mis Tachwedd ond ei phwnc oedd syniadaeth chwyldroadol tu ôl i hollt can mlynedd ar ôl, roedd wedi ail-osod y drafodaeth am Gymreictod a Phrydeindod a lle Cymru yn y wladwriaeth Brydeinig.
 

Roedd y Drwm yn llawn ac roedd cynulleidfa da yn gwylio ar-lein am ddarlith Yr Athro Richard Wyn Jones “Pam y Sefydlwyd Plaid Cymru?” fel rhan o weithgareddau’r Archif Wleidyddol Gymreig i nodi can mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru yn 1925.
 

Roedd Richard yn dadlau bod nifer o garfannau o gwmpas Cymru yn credu bod angen sefydlu rhywbeth tebyg i Blaid Cymru yn yr 1920au ac er nad oedd llwyddant Plaid Genedlaethol Cymru yn hollol sicr, byddai ymdrech i sefydli rhywbeth tebyg wedi llwyddo.
 

Roedd teimlad fod y fath o genedlaetholdeb Cymreig oedd yn gweld datblygiad a ffyniant Cymru a’i hiaith a’i diwylliant o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig – y meddylfryd Cymru Fydd oedd wedi arwain at sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa cenedlaethol a dad-sefydlu Eglwys Loegr yng Nghymru – wedi methu. Roedd y sefyllfa wedi symud ymlaen yn Iwerddon gyda meddylfryd Sinn Fein yn ymwrthod yn llwyr ar Brydeindod gyda aelodau etholedig y Blaid yn cwrdd yn Dáil Éireann yn lle cymryd eu seddi yn Llundain. Roedd Richard yn dadlau bod y meddylfryd a strategaeth newydd hwn wedi taro deg gyda cenedlaetholwyr Cymreig gyda Saunders Lewis yn nodi yn ei lythyr  at H. R Jones bod angen ymwrthod yn llwyr a’r drefn Brydeinig a thorri pob cyswllt â Senedd a phleidiau Lloegr.
 

Ond er dylanwad mawr Sinn Fein yn gynnar yn oes y Blaid, roedd meddylfryd Cymru Fydd wedi para o fewn y pleidiau Prydeinig, ac roedd cyd-weithio ar y tir cyffredin wedi arwain ar nifer o ddtblygiadau cyfansoddiadol. Yn wir, gyda aelodau Plaid Cymru yn San Steffan – yn y ddwy siambr – yn y tymor hir mae’r Blaid wedi mabwysiadu dulliau yr hen Irish Parliamentary Party. 
 

Fel rhan o’r digwyddiadau roedd arddangosfa dros dro o rai o drysorau Archif Plaid Cymru, gan gynnwys llyfrau cofnodion cynnar ac anerchiadau etholiad o 1929 ac isetholiad Caerffili yn ystafell Summers ac erbyn hyn mae’r testun ar dudalennau gwe'r Archif Wleidyddol Gymreig

Categori: Erthygl