Symud i'r prif gynnwys
A scan of a the front page of the Radio Times, Oct. 29 1943. Featured on the page is a listing for the Cairo Eisteddfod which is referenced in this blog post.

Ysgrifennwyd gan Lowri Jenkins

6 Tachwedd 2025

Am y flwyddyn diwethaf rydw i wedi cael y fraint o weithio ar brosiect sy’n torri tir newydd wrth archifo casgliadau darlledu y prif ddarlledwyr yng Nghymru sef BBC Cymru, HTV a S4C. Y mae Archif Ddarlledu Cymru yn brosiect archifo digidol arloesol, ac yr un cyntaf o ei fath yn Ewrop. Mae’r prosiect yn ceisio diogelu rhaglenni ddwyieithog a gynhyrchwyd yn y 75 mlynedd diwethaf, ac yn cynnwys rhaglenni newyddion, chwaraeon, drama ac adloniant. Yn ogystal a diogelu y cynnwys yma, fydd y rhaglenni ar gael i ywmchwilwyr a’r cyhoedd trwy modd safle rhyngrwyd Clip Cymru, a hefyd mewn corneli clip ogwmpas Cymru.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r darlledwyr ac mae fy ngydweithwyr yn Aberystwyth wedi bod yn archifo a digideiddio miloedd o rhaglenni. Mae fy rôl i wedi golygu mod i yn gweithio gyda’r tim archif y BBC, yn ei adeilad trawiadol yn sgwar canololg Caerdydd,` i drosglwyddo deunydd answadd uchel o archifau y BBC i’r Llyfrgell. Yn ogystal a hynnu, sicrhau bod yr hawliau priodol y rhaglenni wedi eu clirio cyn eu rhyddhau nhw’n gyhoeddus. Mae’r tim archif yn y BBC sef Emma Lile, Lona Wharton, ac Archifydd sain Miles Orchard wedi bod yn awgrymu perlau o gasgliad y BBC ac mae 1500 wedi eu dewis yn benodol am eu cynnwys arwyddocaol. Mae rhain hefyd yn adlewyrchu rôl annatod y mae’r BBC â BBC Cymru wedi chwarae wrth cofnodi digwyddiadau pwysig yn hanes diwyllianol a chymdeithasol Cymru yn y cyfnod yma. Y mae’r BBC wedi cael mynediad digynsail i digwyddiadau hanesyddol ac i gyfweliadau gyda ffigyrau ystyrlon, yn ogystal a chipio bywyd pob dydd pobl Cymru. Hoffwn rhannu gyda chi y rhaglenni sydd wedi fy nharo i yn rhinwedd fy swydd:

Eisteddfod Cairo 1943

Y mae rhaglenni radio yn atgofus ac mae clywed y llais yn unig yn gallu cael effaith trawiadol ar y grandawr. Yn 1943 roedd y byd yng nghanol perygl rhyfel byd ac yn y rhaglen radio canlynol a recordiwyd gan y BBC, fe glywon ni Eisteddfod yn ei cael ei gynnal yng Nghairo, a drefnwyd gan Cymdeithas Cymrieg Cairo ac agorwyd gan Archesgob Cairo a Sudan a oedd o drais Cymraeg. I’r milwyr yn y gynulleidfa a oedd wedi bod oddi cartref am fisoedd neu falle blynyddoedd yn brwydro, mae’n rhaid bod clywed a chanu yn Gymreig wedi bod yn gysur mewn cyfnod ansicr. 

 

Trebiwt 1962

Mae’r rhaglen yma o 1962 yn canolbwyntio ar gymdeithas amlddiwyllianol Trebiwt yng Nghaerdydd. Roedd yr ardal yn mynd trwy cyfnod o newid arwyddocaol. Roedd ardaloedd yn cael eu dymchwel er mwyn neud lle i gartrefi a fflatiau newydd, ac mae’r bobl lleol yn rhoi eu barn ar y newidiadau yn cyfweliadau yma. Erbyn yr 1960au roedd y mewnlif o lo i dociau Caerdydd wedi lleihau gryn dipyn ond mae’r rhaglen yma yn dangos bod ysbryd y gymuned dal yn gryf.  

Darlledu yn y Gymraeg

Cyn sefydlu y S4C yn roedd rhaglenni a ddarledwyd gan y BBC yn y Gymraeg yn gyfle i siaradwyr Cymraeg clywed cynnwys yn eu mam iaith. Er bod sefydlu S4C rhai degawdau i ffwrdd, yn y pennod yma mae Sam Jones yn trafod darlledu yn y Gymraeg yn y dyddiau cynnar. 

Dim ond rhai clipiau sydd ar gael ar-lein yw'r rhain, ac mae modd cael mynediad i'r clipiau isod hefyd yn un o’r Corneli Clip sy’n lleol i chi:

Teulu Lloyd George - Yn 1963 i gofnodi 100 mlynedd ers genidigaeth David Lloyd George, ac wedi ei farwolaeth, fuodd Hywel Davies yn cyfweld ai deulu gan gynnwys ei ddwy ferch, ei fab, a’i frawd a oedd erbyn hyn yn 97 mlwydd oed. Mae’r cyfweliad yn rhoi mynediad gwerthfawr i deulu agos Lloyd George au fywyd teuluol, yn ogystal a trafod eitemau diddorol hanesyddol a gasglwyd ganddo tra yn Prif Weinidog.

Cŵl Cymru - Roedd y 1990au hwyr yn gyfnod cyffrous i Gymru yn ddiwyllianol gyda bandiau fel Catatonia, Y Manics a’r Stereophonics yn gryf yn y siartiau cenedlaethol. Yn yr un cyfnod roedd gwaith adeiladu wedi cychwyn ar Canolfan y Mileniwm a Stadiwm y Principality. Y mae’r clip yma  yn dangos noswaith agoriadol y ganolfan a’r enwogion a ddaeth i gefnogi. 

Categori: Erthygl