Symud i'r prif gynnwys
Cwch gwenyn o'r Theater of Insects

8 Gorffennaf 2024

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i un o brif gasgliadau’r byd am wenyn. Daeth y casgliad i'r Llyfrgell fel rhodd oddi wrth yr International Bee Research Association. Sefydlwyd y gymdeithas gan Dr Eva Crane (1912-2007) yn 1949 er mwyn casglu, trefnu a dosbarthu gwybodaeth a dderbyniwyd drwy ymchwil ac ymarfer da o gadw gwenyn a’u hastudio. Rydym yn parhau i ychwanegu at y casgliad drwy dderbyn a phrynu llyfrau am wenyn.

 

The Theater of Insects

Enghraifft ddiweddar o lyfr a brynwyd gan y Llyfrgell i ychwanegu at y casgliad yw The Theater of Insects gan Thomas Mouffet a gyhoeddwyd yn 1658. Teithiodd Mouffet drwy Ewrop gan wneud nodiadau manwl am y pryfed a astudiodd. Cyhoeddwyd ei ymchwil yn y gyfrol hon gan gynnwys torluniau pren deniadol o'i wrthrychau. Roedd y llyfr yn arloesol a sefydlodd safonau newydd o ran entomoleg (yr astudiaeth o bryfed).

Astudiodd Mouffett y pryfed heb ddefnyddio microsgop a chofnododd ei darganfyddiadau ar lawysgrif. Ar ôl i Mouffett farw prynwyd a chyhoeddwyd y gwaith yn 1634 gan Sir Theodore Turquet de Mayerne o dan y teitl Insectorum, sive, Minimorum animalium theatrum. Cyfieithiad J. Rowland o’r gwaith hwn yw Theater of Insects, ac fe’i hatodwyd i waith Edward Topsell sef History of Four-Footed Beasts and Serpents yn 1658.

 

 

Mae’r bennod gyntaf yn cymharu gwenyn gyda phryfed eraill ac yn dangos pam yr ystyrir hwy mor bwysig i’r ddynoliaeth. Mae’n dechrau gyda:

Of all insects, bees are the principal and are chiefly to be admired, being the only creature of that kinde, framed for the nourishment of man, but the rest are procreated to either to be useful in Physick, or for delight of the eyes, the pleasure of the ears, or the completing and ornament of the body; the bee doth exceed them all in every one of these.

Mae’n ddiddorol fod Mouffett yn sôn am natur y gwenyn a’r pryfed eraill yn ogystal â’u nodweddion. Er enghraifft:

Bees are neither wilde nor tame creatures, but a middle kinde of nature between both, but of all in manner the most serviceable and most profitable.

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Categori: Erthygl