Gyda chymorth grant oddi wrth Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, mae’r Llyfrgell wedi prynu dwy gyfrol wedi’u cyhoeddi yn 1726-8 yn adrodd bywydau nifer o fôr-ladron gan gynnwys dau Gymro. Ganwyd Howel Davis yn Aberdaugleddau tua 1690. Roedd yn gwasanaethu fel mêt ar y llong Cadogan yn cludo caethweision pan gipiwyd hi gan fôr-ladron yn 1718. Ymunodd Davis gyda nhw a chael ei wneud yn gapten y llong. Ar ôl gyrfa llawn o ddigwyddiadau yn parhau llai na blwyddyn cafodd ei saethu’n farw mewn rhagod ar ynys Príncipe.
Chwech wythnos ynghynt roedd Howel Davis wedi cipio’r llong Princess gan gymryd yr ail fêt Bartholomew Roberts yn garcharor. Un arall o Sir Benfro oedd Roberts, ac ar ôl marwolaeth Davis cafodd ei ethol yn gapten y llong. Cafodd yrfa dreisgar a llwyddiannus ond fe'i laddwyd ar y 10fed o Chwefror 1722 mewn brwydr yn erbyn llong o'r Llynges Brenhinol, a thaflwyd ei gorff i'r môr, a holl wisgoedd gwych y môr-leidr amdano, yn ôl ei ddymuniad.
Mae A general history of the pyrates, from their first rise and settlement in the island of Providence, to the present time gan Gapten Charles Johnson yn cynnwys penodau am y ddau Gymro a llun o Bartholomew Roberts – neu Barti Ddu - gyda’i longau Royal Fortune a Ranger.
Mae’r pwrcas hwn yn ychwanegu at ddaliadau'r Llyfrgell o gyhoeddiadau cynnar am fôr-ladron Cymreig, gan gynnwys argraffiadau 1684 ac 1704 o Bucaniers of America gan Alexandre Exquemelin, sydd yn cynnwys hanes bywyd Henry Morgan (1635?-1688), a rhifyn 1722 o’r cyfnodolyn The political state of Great Britain, sy’n cynnwys disgrifiad o'r frwydr rhwng long Barti Ddu a'r Swallow o dan Capten Ogle lle cafodd y môr-leidr enwog ei ladd, ac un o'r disgrifiadau cyntaf o faner y Jolly Roger.
Categori: Erthygl