Symud i'r prif gynnwys
Portread lliw o Harry Secombe a dynnwyd yn y 1990au

Ysgrifennwyd gan Robert Evans

4 Mawrth 2025

Mae Archif Harry Secombe yn cynnwys papurau personol a phethau cofiadwy yn dogfennu gyrfa un o ddiddanwyr mwyaf adnabyddus Cymru.
Yn enedigol o Abertawe, roedd Syr Harry Donald Secombe CBE (1921-2001) yn un o bedwar o blant Gladys a Frederick Secombe. Dechreuodd weithio fel hogyn swyddfa yn Baldwins Limited, Abertawe yn 16 oed. Ym 1939 galwyd ef i'r fyddin, gan wasanaethu gyda Chatrawd 132 y Magnelwyr Brenhinol, yng Ngogledd Affrica a'r Eidal.
Yn ystod y rhyfel y dechreuodd ei yrfa ar y llwyfan, gan berfformio act shafio comedi fel rhan o barti adloniant a oedd hefyd yn cynnwys Spike Milligan yn y band.
Pan ddaeth y rhyfel i ben aeth Harry â'i act i'r Revudeville yn Theatr y Windmill, Llundain.
 

Ar yr adeg hon y cyfarfu Harry â Michael Bentine a gyflwynwyd, trwy ei asiant Jimmy Grafton, i Peter Sellers. Ynghyd â Spike Milligan, byddai'r pedwarawd yn mynd ymlaen i greu The Goon Show. Byddai ei lais Tenor operatig a’i gymeriadau comig yn cael ei ddenu i enwogrwydd, gan berfformio ochr yn ochr ag enwau mawrion ym mysg y byd adloniant.

Mae'r ddau ar bymtheg o lyfrau lloffion 1946-1969, yn cofnodi ei flynyddoedd mwyaf cynhyrchiol yn y byd adloniant.Mae’r archif yn cynnwys nifer o sgriptiau o gynyrchiadau llwyfan, radio a theledu, fel “The Goon Show”, “Secombe and Friends”, “Sunday Night at the London Palladium”, “Pickwick” a llawysgrifau ei lyfrau gan gynnwys ei hunangofiannau “Arias and Raspberries” a “Strawberries and Cheam”, a nofelau comig, “Twice Brightly”, “Goon Abroad” a “Welsh Fargo”.
Trwy gydol ei yrfa lluniodd Harry gasgliad helaeth o raglenni sioeau yr ymddangosodd ynddynt, â llawer ohonynt wedi'u llofnodi gan ei gyd-sêr.
Roedd Harry yn adnabyddus am ei areithiau a'i waith elusennol, cartwnau doniol a gwawdluniau, sydd i gyd yn ymddangos yn y casgliad.
Un o'i eiddo mwyaf gwerthfawr oedd y llythyr oddi wrth y Tywysog Siarl yn ei longyfarch ar ei urddo'n Farchog, ac yn hwn yr anerchir ef fel Sir Cumference.
 

Mae'r casgliad mawr o ffotograffau, gan gynnwys cynyrchiadau o "Pickwick" ac "Oliver!", llawer o sêr byd adloniant, a'r teulu brenhinol wedi'u trosglwyddo i gasgliadau ffotograffeg LlGC. Mae tri phortread wedi'u trosglwyddo i weithiau ffrâm LlGC.

Categori: Erthygl