Fel rhan o Sinemaes Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae modd gwylio detholiad o eitemau o’r archif Sgrin a Sain, gan gynnwys o Archif Ddarlledu Cymru, ar nifer adegau drwy wythno yr ŵyl. Mae’r detholiad yn dathlu hanes yr Eisteddfod, wrth i’r ŵyl gyrraedd carreg filltir ei 850-mlwyddiant.
‘Does dim gwerth 850 mlynedd o ddeunydd gyda ni, wrth reswm, ond yn y detholiad mae 7 degawd wedi’u cynrychioli, a rheini’n cynnig blas o’r ŵyl, o’r paratoi a'r cystadlu, i’r mawrion a’r werin bobl; y maes, y miri a'r misdimanars.
Dyma ragor o wybodaeth am y ffilmiau a’r rhaglenni sydd wedi’u cynnwys yn y detholiad, fydd hefyd ar gael i wylio yn Ystafell Peniarth Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Awst. Mae nifer ar gael hefyd i’w mwynhau ar Gwylio a Gwrando - rhai o ar gael o unrhyw le, ond rhai eraill dim ond ar gael yn llawn o fewn ein Corneli Clip ledled Cymru.
Daw’r clip sy’n agor y detholiad o ffilm ddogfen arbennig gan y BBC, Nod Cyfrin (1981). Ynddo mae Gwyn Morgan Lloyd yn cyflwyno hanes Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol, gan dalu sylw arbennig i arwyddocâd cerrig a gwisgoedd yr Orsedd.
Yn ei ddilyn daw clip o Marie Gwalia (Topical Film Company, 1925), sy’n ddogfen o ymweliad arbennig Brenhines Rwmania ag Eisteddfod Pwllheli 1925, gan gynnwys ei derbyniad i’r Orsedd. Gyda hi ar gyfer y fraint hon mae Winifred Coombe Tennant, Meistres y Gwisgoedd, a’r Fonesig Margaret Lloyd George. Mae hi’n ymweld hefyd - yn ei gwisg arferol, grand - â’r Wern ym Mhorthmadog, oedd ar y pryd yn gartref i Richard Metheun Greaves, perchennog chwarel Llechwedd.
Ym Machynlleth Hen Dref Owain Glyndŵr (1937) cawn weld corau ar y maes, yn cael eu tywys gan stiwardiaid mewn siacedi gwynion, yn ogystal â rhai enwogion, gan gynnwys David Lloyd George. Unwaith eto mae’r Orsedd yn cael dipyn o sylw, wrth i ni gael gweld seremoni wrth gerrig yr Orsedd, a’r orymdaith i’r seremoni cadeirio. Cynhyrchwyd y ffilm hon yn arbennig er mwyn ei dangos yn y ‘Powys Cinema’ a oedd yn arfer sefyll ar Heol Powys, cyn ei ddymchwel.
Golygfeydd tebyg sydd i’w gweld o Eisteddfod Abertawe, 1925, yn Dear Cambria (British Screen Productions Ltd., 1926). Yn ogystal â golygfeydd o’r dref ac o’r Orsedd yn gorymdeithio, cawn weld Dug a Duges Efrog – nes ‘mlaen yn Frenin Siôr VI a Brenhines Elizabeth – yn cael eu derbyn i’r Orsedd dan eu henwau barddol, ‘Albert o Efrog’ a ‘Betsi o Efrog’.
Ffilm deithio arall yw Spotlight on Wales (Rayant Pictures, 1949), sy’n rhoi’r sbotolau ar Eisteddfod Dolgellau 1949. Gwelwn dorfeydd o bobl yn cyrraedd y maes o orsaf trên Dolgellau, yn ogystal â cheir a bysus yn cael eu tywys i feysydd parcio ger y maes.
Digwyddiad arwyddocaol yn Eisteddfod 1949 oedd premiere y ffilm nesaf, sef Yr Etifeddiaeth (John Roberts Williams). Mae’n ffilm wladgarol am etifeddiaeth Cymru sy'n cael ei chydnabod fel clasur o'r cyfnod. Trosleisir y ffilm gan Cynan, ac yn y clip yma mae’n cyflwyno’r gwylwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol - gan gynnwys tueddiad eisteddfodwyr i weld digon o bobl maent yn eu hadnabod ar y maes!
Daw’r golygfeydd o Aberystwyth o ffilm bersonol Evan Caradoc Roberts, Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Aberystwyth (1952), lle mae’r dorf frwdfrydig yn ymgynnull ym mharc a choedlan Plascrug, lle lleolir y maes. Roedd Roberts yn gyfrifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac roedd o wedi ennill y wobr gyntaf am waith coed yn Eisteddfod 1947 am ei fodel o’r Llyfrgell, a gymerodd 5 mis i’w adeiladu!
Yr artist sy’n enwog am ei baentiadau o fywyd gwyllt, yn arbennig adar, Charles F. Tunnicliffe, sydd tu ôl i’r camera sy’n dal seremoni cyhoeddi’r Eisteddfod ym Mhwllheli, 1955 yn Proclamation 1954: National Eisteddfod in Pwllheli 1955. Yn y ffilm mae’r Archdderwydd, Cynan (Albert Evans-Jones) yn cofleidio’r cyfle i sefyll ar gyfer y camera yn ei wisg seremonïol grand.
O The Royal National Eisteddfod of Wales (Pat Pullen, 1958) daw clipiau o ymarferion dawnsio ac offerynnol gan blant ysgol a golygfeydd o faes a llwyfan Eisteddfod Glynebwy 1958. Cynhyrchwyd y ffilm gan Richard Thomas and Baldwins Ltd., y cwmni dur o Lynebwy; cyfarwyddwyd y ffilm gan Pat Pullen.
R. Alun Evans oedd yn llywio Heddiw Ddoe (BBC, 1982), ac sy’n cyflwyno yma glip o Eisteddfod Y Drenewydd, 1965 a chadeirio W.D. Williams o'r Bermo gan yr Archdderwydd, Cynan. Roedd awdl fuddugol Williams wedi'i hysbrydoli gan daith ei fab Iolo i weld ogofau Lascaux yn Ffrainc.
Y polymath Owain Owain sy’n ffilmio’i deulu yn mwynhau Eisteddfod Y Bala, 1967 yn Teulu Owain Owain: Llanuwchllyn a'r Bala, sy’n cynnwys golygfeydd o stondin Cymdeithas yr Iaith, y mudiad ‘roedd o’n rhan allweddol o’i sefydlu. Mae tipyn o sylw hefyd i’w blant mewn man chwarae ger y babell ‘Celfyddydau a Chrefft’, lle mae hefyd gryn dorf wedi ymgynnull yn yr haul.
Yn Eisteddfod Bangor (John Glyn Jones, 1971) cawn weld golygfeydd o’r maes gan gynnwys golygfa yn y pellter o Gastell Penrhyn, stondinwyr, cadeirio Emrys Roberts, a gorymdaith yr Orsedd – a phrotest gan aelodau Cymdeithas yr Iaith. Mae Dafydd Iwan ymhlith y protestwyr, ac yn yr un flwyddyn caiff ei dderbyn yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd.
Mae’r foment led-dadleuol o gadeirio Alan Llwyd yn Eisteddfod Aberteifi 1976 - yr 800fed Eisteddfod - wedi’r darganfyddiad bod yr enillydd gwreiddiol, Dic Jones, wedi torri rheolau’r gystadleuaeth, yn rhan o A Celtic Celebration (Revel Guest & Euryn Ogwen Williams, 1976). Ceir hefyd olygfeydd o ymarferion adrodd a chorawl, ac adnabyddir gŵyl 1976 fel ‘Eisteddfod y Llwch’ oherwydd ton wres y flwyddyn honno. Bosib taw sefyllfa digon tebyg fydd hi eleni hefyd?
Gweithdy Fideo Chapter gynhyrchodd UB40 - Eisteddfod Abergwaun (1986), darn sy’n holi mynychwyr Eisteddfod Abergwaun 1986 am eu barn ar brisiau mynediad i’r maes, ac a ddylai gostyngiadau fod ar gael i’r ddi-waith. £2.50 oedd pris mynediad i’r maes ar y pryd. Mae’r ‘UB40’ y cyfeirir ato yn nheitl y darn llawn wrth gwrs yn cyfeirio at y cerdyn presenoldeb a roddid i hawlwyr budd-dal diweithdra.
I gloi’r detholiad mae clip o’r 90au sydd wir yn rhoi blas y cyfnod. O rifyn o Eisteddfod iDot (S4C, 1996), mae perfformiad cynnar gan y Super Furry Animals o’u cân ‘Crys Ti’, sy’n daclus iawn yn arwain at montage o grysau-t gan y cwmni eiconig, Cowbois, yn cael eu modelu ar hyd y maes.
O 1925 hyd 1996, mae’r detholiad sydd wedi’i olygu gan yr archif eleni yn gobeithio dal rhywfaint o hynt, helynt a hyd yn oed lledrith yr Eisteddfod Genedlaethol. Er bod y maes, yr Orsedd, a’r seremonïau’n flaenllaw, mae golwg yma hefyd ar bethau eraill: y paratoi, y dadlau, yr hwyl, y diwylliant.
Gallwch wylio’r detholiad yn Sinemaes yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Ystafell Peniarth y Llyfrgell Genedlaethol drwy fis Awst, ac mae nifer fawr o’r clipiau, ffilmiau a rhaglenni ar gael ar Gwylio a Gwrando – ynghyd â thipyn mwy! Pa hanesion Eisteddfodol byddwch chi’n darganfod?
Categori: Erthygl
