Symud i'r prif gynnwys
Cyfrinachau’r Llyfrgell: Cyfrinachau Gwleidyddol

17 Medi 2025

Mae un lle yn y Llyfrgell lle mae tipyn o gyfrinachau – cynllwynio, briffio a sgandalau – sef ein casgliadau gwleidyddol. Ond mae llawer mwy na hynny; straeon o bobl yn brwydro am newid mawr, am degwch ac am gyfiawnder. Mae’r straeon hyn yn dangos bod gwleidyddiaeth yn gallu dod a’r gorau mewn cymdeithas i’r amlwg, a bod y sawl sy’n cymodi yn dawel yn gallu cael effaith cystal a’r rhai sy’n areithi’n tanbaid.  

Roedd yn bleser felly i gyflwyno eitemau o’n casgliadau yn dangos gwrthgyferbyniad rhwng dau o gewri’r Blaid Lafur yn Nghymru i gyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn ystod ei ymweliad â’r Llyfrgell i ffilmio Cyfrinachau’r Llyfrgell, sef Aneurin Bevan a Jim Griffiths.
 

Mae Jim Griffiths yn dipyn o arwr i Mark Drakeford, felly roedd anerchiad etholiad cyntaf Griffiths yn 1936 a’i araith gyntaf yn y Senedd fel Aelod Seneddol Llanelli o ddiddordeb mawr iddo ond hyd yn oed mwy diddorol oedd llythyr gan Goronwy Roberts, Aelod Seneddol Llafur Caernarfon yn nodi cyfraniadau Griffiths ar ei ymddeoliad fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru – swydd roedd e wedi ymgyrchu dros sefydlu; 

“When you became the charter Secretary of State for Wales, your place in history was already assured as a social reformer and a colonial emancipator. Now the annals of Wales will record that it was you who won for our country its constitutional recognition as a nation.”

Edrychon ni ar ddogfennau yn esbonio’r wladwriaeth les newydd, rôl Griffiths fel Ysgrifennydd y Drefedigaethau a’i ymgyrchu tawel dros statws yr Iaith Gymraeg. Ym mhob achos roedd arddull pwyllog a thawel Griffiths a’i ddawn i bontio yn dod I’r amlwg. Roedd steil Griffiths yn wahanol iawn i un o gewri gwleidyddiaeth Cymru yr un adeg; Aneurin Bevan.

Roedd ei ddoniau yn hynod ddefnyddiol i gadw’r heddwch o fewn y Blaid Lafur fel Dirprwy Arweinydd mewn cyfnod cythryblus yn yr 1950au. Cawsom gyfle i ddilyn hanes achos disgyblu Bevan yn 1955, gan gynnwys adroddiadau papurau newydd roedd Griffths wedi’u cadw a’i nodiadau o’r pwyllgor disgyblu i’w adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Er cydnabod troseddau Bevan, a’r drwgdeimlad tuag ato, roedd Griffiths dal yn cymodi, gan argymell i gadw Bevan o fewn y Blaid Lafur.

Er eu gwahaniaethau, roedd yn amlwg bod y ddau ddyn yn deall ac yn parchu ei gilydd. Roedd nodiadau Griffiths ar gyfer teyrnged i Bevan yn y Senedd yn drawiadol. Roedd yn arwydd o barch tuag at Bevan a Griffiths ill dau bod Griffiths wedi cael cyfrannu araith at ddadl a fyddai fel arall wedi cynnwys areithiau gan arweinwyr y brif pleidiau yn unig.  

Mae dangos a thrafod y straeon yn ein harchifau gwleidyddol wastad yn bleser, ond mae hyd yn oed yn fwy arbennig pan fod cysylltiad o ryw fath yno – boed yn gysylltiad gwaed neu gysylltiad galwedigaeth. Mae’n amlwg bod y profiad hefyd wedi cyffwrdd a Mark Drakeford gan roi cyfle iddo wneud cyswllt gyda un o gewri’r Blaid Lafur yng Nghymru mewn ffordd newydd. Dyna enghraifft o bŵer ein harchifau i gysylltu pobl dros y cenedlaethau.  

Gallwch wylio rhaglen Cyfrinachau’r Llyfrgell gyda Mark Drakeford AS ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Rob Phillips
Archifydd - Yr Archif Wleidydddol Gymreig

Categori: Erthygl