Symud i'r prif gynnwys
Cartwnau prin gan yr artist portread adnabyddus David Griffiths yn dod i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

14 Gorffennaf 2025

Mae 20 o gartwnau doniol a wnaed ddiwedd y 1960au wedi eu rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan yr artist portreadau Cymreig adnabyddus, David Griffiths MBE. Cafodd y cardiau, sydd wedi bod yn gudd ers degawdau, eu gwneud ar gyfer cynyrchiadau teledu BBC Cymru fel rhaglenni Heddiw, Y Tywydd a cherddoriaeth cyn bodolaeth graffeg ar-sgrin gyfrifiadurol.

Mae’r cardiau cartŵn yn brin oherwydd yn arferol bydden nhw wedi cael eu taflu gan gynhyrchwyr ond maen nhw'n helpu i ddweud hanes sut roedd teledu’n cael ei gynhyrchu, a sut y byddai artistiaid yn gwneud bywoliaeth o'u crefft yn ystod cyfnod cynnar eu gyrfa.

Roedd y cartwnau yn cael eu defnyddio i ddangos prisiau stoc ar y newyddion a rhoi cyd-destun doniol i adroddiadau tywydd. Gwnaeth Griffiths hefyd gyfres o gartwnau ar gyfer y rhaglen gerddoriaeth Disc a Dawn a gafodd eu defnyddio fel cefndir i ganeuon Saesneg, gan artistiaid fel y Beach Boys a’r Kinks.

Mae un o'r cartwnau hyn i'w weld ym mhennod Medi 1969 o Disc a Dawn, lle mae Dafydd Iwan yn canu Croeso Chwedeg Nain – cân am arwisgiad y Tywysog Siarl yn 1969. Mae’n bosib gweld hwn yng Nghorneli Clip Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd wedi'u lleoli ar hyd a lled Cymru lle gall unrhyw un gael mynediad at Archif Ddarlledu Cymru.

Aeth David Griffiths, a sefydlodd Oriel Albany yng Nghaerdydd hefyd, ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus iawn fel arlunydd olew, gyda'i bortread o'r Tywysog Siarl ym 1970 yn sbarduno’i yrfa. Ers hynny mae wedi paentio llawer o Gymry nodedig gan gynnwys y cyn Prif Weinidog Mark Drakeford, Shane Williams a'r Fonesig Siân Phillips, sydd i gyd wedi'u cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â phaentio'r Tywysog Siarl, fel yr oedd ar y pryd, am yr ail dro yn 2002.

Cafodd y cartwnau eu cyflwyno i'r Llyfrgell gan Arfon Haines Davies, ffrind i David Griffiths, a golygydd ei hunangofiant.

Meddai Arfon Haines Davies: 
“Rydw i wedi fy nghyfareddu gan y cardiau capsiwn cartŵn hyn sy’n dangos synnwyr digrifwch a dawn David Griffiths fel artist.

Roedd llawer o’r cardiau hyn ar gyfer y rhaglen gylchgrawn Cymraeg poblogaidd Heddiw oedd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Cymru ar nosweithiau’r wythnos. Roedd hyn yn golygu yn aml bod angen i’r artist cwblhau’r gwaith i amserlen dynn. Mae’r ffaith eu bod nhw i gyd mewn du a gwyn yn ychwanegu at yr apêl gan fod hyn ychydig cyn cyflwyno teledu lliw.”

Meddai Morfudd Bevan, Curadur Celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae David Griffiths wedi bod yn gefnogwr brwd i’r Llyfrgell Genedlaethol ar hyd y blynyddoedd, ac rydym yn hynod falch y cartrefir casgliad cynhwysfawr o’i bortreadau o fewn ein casgliad celf genedlaethol. Bydd y cartwnau hyn yn ychwanegiad amhrisiadwy at ein casgliad o weithiau artistig darlunwyr Cymreig a gedwir o fewn ein harchifau.”

Categori: Newyddion