Mae prosiect Deiseb Heddwch Menywod Cymru sy’n dathlu deiseb 100 oed sy'n cynnwys bron i 400,000 o lofnodion pobl yn hawlio heddwch byd wedi cyrraedd carreg filltir arall.
Yn dilyn cyfnod o gatalogio’r deisebau mae’r gwaith manwl o ddigido pob tudalen wedi’i gwblhau, ac mae’r ddeiseb gyfan bellach ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Angen rhagor o drawsgrifwyr i gyrraedd y nod
Ond nid dyma ddiwedd y daith. Y cam pwysig nesaf yw parhau gyda ymgyrch genedlaethol i ddenu mwy o bobl i ymuno yn y dasg o drawsgrifio enwau’r llofnodwyr.
Bydd cael trawsgrifiad o’r ddeiseb yn golygu y gall pawb chwilio am enwau eu tai a strydoedd, ond yn fwy pwysig na hyn, y menywod a lofnododd y ddeiseb hynod hon.
Mae criw o wirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n ddiflino ac eisoes wedi trawsgrifio dros 160,000 o’r 390,296 o lofnodion y Ddeiseb.
Rydym nawr eisiau cymorth rhagor o bobl i gyflymu’r broses a chyrraedd y nod o drawsgrifio pob un llofnod, er mwyn ei wneud yn hygyrch i bawb.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cyfraniad at y trawsgrifio, pa bynnag mor fach, ewch i gofrestru ar [wefan Torf y Llyfrgell.
Ond sut i fynd ati i drawsgrifio?
Mae sawl ffordd o gael cymorth gyda gwybodaeth ar y wefan, grwpiau holi cwestiynau ar Zoom, a grŵp Facebook bywiog gyda bron i 500 o aelodau yn helpu ei gilydd.
Mae llawer o straeon rhyfeddol am unigolion a arwyddodd y ddeiseb eisoes wedi dod i’r amlwg, ac fel rhan o waith y prosiect Deiseb Heddwch Menywod Cymru hoffem gasglu’r rhain i’w rhannu ag eraill – os ydych wedi dod o hyd i berthynas, enw neu leoliad cyfarwydd, byddem wrth ein bodd yn coffau hyn.
Ewch i deisebheddwch.cymru/Straeon i ddarganfod sut, neu i ddod o hyd i gyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer defnyddio’r catalog a’r wefan yn eich ymchwil.
Categori: Erthygl