Bydd Paul Robeson bob amser â chysylltiad agos â Chymru. Hyd yn oed yn y cyfnod modern, mae nifer o lyfrau wedi’u hysgrifennu am ei gysylltiadau, yn ymdrin â’i gyfarfodydd ag Aneurin Bevan, ei ymddangosiadau cyson mewn gwyliau Cymreig, ei weithgareddau gwleidyddol a’i gefnogaeth i lowyr Cymru. Mae cerddoriaeth wedi cael ei dylanwadu hefyd, gyda rocwyr Cymreig y Manic Street Preachers yn canu am ei alltudiaeth wleidyddol o America yn eu cân ‘Let Robeson Sing’ oddi ar eu halbwm yn 2001 ‘Know your Enemy’.


Mae cysylltiad Robeson i’w deimlo’n ddyfnaf yn y ffilm ‘The Proud Valley’ o’r 1940au, a welodd cymeriad Robeson David Goliath yn ymweld â Chymru yn chwilio am swydd. Roedd gan y tyrigolion lleol amheuon ar y dechrau, ond croesawyd David i’w cymuned trwy gân a’i ymdrechion arwrol.
Er mwyn archwilio’n llawn gysylltiadau Robeson â Chymru byddai angen misoedd o ymchwil manwl, ond hyd yn oed gyda chrynodeb byr, bydd y canlyniad cyffredinol bob amser yr un fath. I gofio Paul Robeson.
Ffynonellau arlein dethol
Eitemau dethol o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol
Llyfrau
- Aneurin Bevan a Paul Robeson: sosialaeth, dosbarth a hunaniaeth = Aneurin Bevan and Paul Robeson: socialism, class and identity – ISBN: 9781904773535
- Black is just a colour: responses to the life of Paul Robeson
- Cymanfa Ganu Bevan, Robeson, Cymru 1958
- Gadewch i Paul Robeson ganu!: dathlu bywyd Paul Robeson a thrafod ei berthynas â Chymru – ISBN: 1862250383
- Here I stand – ISBN: 0304703516
- No way but this: in search of Paul Robeson – ISBN: 9781911617204
- Paul Robeson: essays on his life and legacy – ISBN: 0786411538
- Paul Robeson speaks: writings, speeches, interviews, 1918-1974
Cerddoriaeth
- 20 songs & Transatlantic exchange concert
- The best of Paul Robeson
- Deep river: I’m goin’ to tell God all o’ my troubles
- Emperor of song!
- Ol’ man river: Show boat – vocal gems
Ffilm a fideo
- Dilyn Ddoe. Paul Robeson
- Jericho
- The proud valley
Delweddau
- Paul Robeson / Echt Foto
- Paul Robeson [print modern o lun cyhoeddusrwydd o Paul Robeson fel Brutus Jones o ffilm 1933 ‘The Emperor Jones’. Isod mae llofnod Paul Robeson]
- Paul Robeson yn Eisteddfod Glynebwy, 1958
- Robeson / HTV [ffilm yn dilyn mab y chwedlonol Paul Robeson ar ei ymweliad â Chymru]
Ian Evans
Rheolwr Cynllun Catalogio ar y Cyd
Categori: Erthygl