Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol cefais y fraint o roi sgwrs yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y trysorau gwyddonol yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Cyflwynodd y sgwrs honno 27 o drysorau gwyddonol yn dyddio o’r 11eg ganrif hyd at yr 20fed ganrif gan gynnig blas o’r math o ddeunydd yn ymwneud â gwyddoniaeth sydd gan y Llyfrgell. Bydd y blog hwn yn eich cyflwyno i bedair o’r eitemau hyn, gan ganolbwyntio ar rai gweithiau printiedig allweddol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth o gasgliadau print y Llyfrgell.
Dechreuwn gydag un o’r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn natblygiad syniadaeth gwyddonol, sef Dialogo di Galileo Galilei…: sopra i due massimi sistemi del mondo Tolemaico, e Copernaico (1632) gan Galileo. Yn gwneud achos feirniadol dros ddamcaniaeth Copernicus bod y ddaear yn troi o amgylch yr haul, mae gwaith Galileo ar ffurf deialog rhwng dau athronydd, Saliviati, yn cynrychioli safbwyntiau Galileo a rhagdybiaeth Copernicus, a Simplicio, yn cynrychioli’r safbwynt Ptolemaidd a gefnogir gan yr Eglwys Gatholig, a lleygwr amhleidiol, Sagredo. Arweiniodd cyhoeddi’r llyfr hwn at achos llys Galileo am heresi, ei cyfyngu i’w dŷ am weddill ei oes, ac osodiad y llyfr ar y Mynegai o Lyfrau Gwaharddedig o 1633 hyd at 1835. Yr argraffiad cyntaf a gyhoeddwyd yn Fflorens yn 1632 yw copi’r Llyfrgell.
Daw’r ddau waith nesaf â ni i Gymru ac maent yn gynrychioliadol o weithiau Cymraeg ar wyddoniaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae’r cyntaf, Y Darluniadur Anianyddol (1850) gan Edward Mills, yn un o nifer o lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd a gyhoeddwyd yng nghanol y 19eg ganrif. Teithiodd Mills (1802-1865) ledled Cymru yn darlithio ar seryddiaeth ac fe adeiladodd planedur 66 troedfedd, a ddisgrifiwyd fel un o ‘ryfeddodau’r oes’. Mills a’i fab oedd yn gyfrifol am y torluniau pren yn y Darluniadur.
Yr ail yw Y Gwyddonydd, y cylchgrawn gwyddonol arloesol iaith Gymraeg a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1963 a 1996. Roedd y cylchgrawn yn cynnwys papurau academaidd, erthyglau, adolygiadau a newyddion ar bynciau gwyddonol. Nododd Dr Gwyn Chambers, un o sylfaenwyr y cylchgrawn, fod Y Gwyddonydd “wedi profi addasrwydd y Gymraeg i drafod pynciau gwyddonol o bob math, a hynny mewn ffordd gwbl naturiol.” Gellir gweld holl rifynnau Y Gwyddonydd ar wefan Cylchgronau Cymru.
Daw’r eitem olaf â ni at y presennol a’r angen frys i weithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd mwyfwy difrifol sy’n wynebu’r blaned. Wedi’i gyd-olygu gan y gwyddonydd o Gymru, John Theodore Houghton, roedd yr adroddiad Climate Change a gyhoeddwyd gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd ym 1990, yn un o’r cyhoeddiadau gwyddonol cynnar wnaeth ein rhybuddio am raddfa’r her sy’n ein hwynebu nawr mewn perthynas â newid hinsawdd anthropogenig.
Blas yn unig yw hwn o’r gweithiau gwyddonol sydd yng nghasgliadau printiedig y Llyfrgell. Mae gennym hefyd weithiau pwysig gan Isaac Newton, Francis Bacon, Robert Hooke, gweithiau gan wyddonwyr Cymreig fel William Robert Grove, Lewis Weston Dillwyn, Eirwen Gwynn a Donald Davies, a agraffiad cyntaf o’r Origin of the Species gan Charles Darwin a ddarganfuwyd yn ddiweddar. Mae llawer iawn fwy i’w darganfod, felly beth am galw lan i’r Llyfrgell i chwilio am y gweithiau gwyddonol yn ein casgliadau?
Dr Douglas Jones
Rheolwr Prosiectau Casgliadau Cyhoeddedig
Categori: Erthygl