(Mae’r blog hwn yn cynnwys themâu marwolaeth a defodau angladdol)
Yn ôl llên gwerin mae Noson Calan Gaeaf yn ‘ysbrydnos’, noson pan fydd ysbrydion yn cerdded yn ein plith a digwyddiadau rhyfedd yn digwydd yn helaeth. Roedd ofergoelion yn gryf yng nghefn gwlad Cymru, ac roedd swynion i gadw salwch ac ysbrydion drwg draw yn gyffredin. Mae cipolwg drwy ein harchifau yn dangos bod gan Gymru ei ofergoelion ei hun ynghylch marwolaeth a byd yr ysbrydion. Fel yr awgrymodd y traethawd 'Hanes Ysbrydion (Ghost Stories)' a ysgrifennwyd gan 'Jupiter' (T. Huws Davies) ar gyfer Eisteddfod Llangeitho ym 1895:
‘Erys llawer dydd yr oedd yr hen bobl yn credu mewn bwciod neu ysbrydion . . . Credent fod ar nos Calangauaf ac ar nos Nadolig fod beddau y fynwent i gyd yn wag a fod ysbryd ar ben pob croesffordd, camfa ac yn ymyl pob boncyff . . . ’
Os yw Calan Mai yn arwydd o ddyddiau hirach a dyfodiad yr haf, yna mae Calan Gaeaf yn nodi dechrau tywyllwch hir y gaeaf. Tua'r adeg hon o'r flwyddyn mae'r nosweithiau tywyllach yn tynnu hen ofergoelion allan, ac un ohonynt yw traddodiad Cymru y 'cannwyll corff', goleuad dirgel a phan welwyd hwy, tybiwyd eu bod yn arwydd o farwolaeth neu anffawd. Yn y 1890au, ysgrifennodd yr athro ysgol David Samuel (1856-1921) o Aberystwyth:
‘Yr wyf wedi gorfod credu erys blynyddau bellach fod y fath beth a goleu corff yn bod – sef yr hwnnw, math o oleuni yn rhagfyned claddedigaeth neu gynhebrwng.’
Nid oedd hwn yn ofergoeliaeth unigryw i Gymru o bell ffordd. Mewn mannau eraill yn llên gwerin Prydain, dywedwyd bod goleuadau ysbrydion y 'will-o-the-wisp' neu'r 'jack-o-lantern' yn aflonyddu corsydd a rhosydd unig, lle byddai eu golau croesawgar yn arwain teithwyr blinedig naill ai at eu tynged neu eu hiachawdwriaeth, yn dibynnu ar y stori (ac ar y teithiwr). Dywedwyd bod y pwca, creadur o'r tylwyth teg, yn cario golau neu lusern gyda'r bwriad o golli teithwyr dryslyd yn llwyr, ac roedd yn ysbrydoliaeth i gymeriad direidus Shakespeare, Puck, yn A Midsummer Night’s Dream.
Yn yr un modd, fel goleuadau fflachio'r pwca, dywedwyd bod y ganhwyllau corff yn anwadal ac yn anghorfforol. Cofnododd T. Huws Davies stori lle cafodd ffermwr lleol ei ddychryn yn fawr:
‘Yn agos i Llangeitho y mae allt o goed ac yn yr hen amser yr oedd bwthyn bach yn ymyl yr allt ac yr oedd hen wr yn byw yno ond yn yr amser y cymerodd yr hanes hwn le yr oedd wedi marw. Un noswaith yr oedd hwsmon wedi colli hwch ac yn ei chwilio yn hwyr y ffordd hon a neidiodd yr hen wr bach allan o’r allt a llusern yn ei law. Aeth yr hwsmon i gymeryd gafael ynddo ond nid oedd yno ddim iw gael nai weled na’i glywed.’
Mae hanesion am y ganhwyllau corff yn aml yn digwydd mewn ardaloedd gwledig neu gerllaw mynwentydd. Ond awgrymodd un cyfarfyddiad y gallent ymddangos yn unrhyw le. Adroddodd David Samuel stori gan ddwy wraig o Lanbadarn Fawr:
‘Yr oedd dwy wraig o Lanbadarn flynyddoedd yn ol yn dychwelyd gartref o’r Capel un noson dywyll yn nyfnder gauaf (ni a alwn un o hwynt yn Mari Pentre’r Odyn) yr oeddynt wedi bod yn y cwrdd gweddi neu rhyw gyfarfod o’r fath yn nghapel yr Anibynwyr a wedi dod i’r ffordd fawr ac yn cyrchu tua chartref ym Mhwllhobi, gwelai Mari ganwyll corff yn dod yn syth i’w cyfarfod a hwythau ar ganol y ffordd fawr.’
Mae hyd yn oed adroddiadau am y canhwyllau corff yn ymddangos y tu mewn i adeiladau. Disgrifiodd llythyr gan Mr Johnes o Ddolaucothi, Sir Gâr, a anfonwyd ym 1881 gyfarfyddiad â'r goleuadau brawychus:
‘Three were seen coming down one of the double staircases into the Hall (a large lofty Hall). They crossed it, and went out of the front door on its north side towards the lawn. That week or the following three maids slept in a room with a charcoal fire & died in consequence. Their bodies were carried down the staircase across the Hall & out through the Northern Entrance, taking the course which the lights were observed to take a few days before.’
Fodd bynnag, stori bellach gan Mr Samuel sydd efallai’n darparu’r hanes mwyaf brawychus ac awyrgylchol, wrth i dri ffrind blinedig gerdded adref:
‘Yr oedd yn noswaith ofnadwy – y gwynt yn chwythu yn uchel, ac yn groch, a’r gwlaw yn dysgyn, yn debyg i ddiwrnod y diluw. Yr oeddem yn ymgom am hyn a’r llall, nes i ni ddod i ymyl y goeden ddrain wyddost. O’r fan hono gwelem oleu yn y pellder draw . . . gwelem mae canwyll noeth ydoedd, a pynem ein tri, sut y medrai neb gadw canwyll noeth i gynneu ar y fath noson. Ond waeth heb siarad felly yr oedd. Yn fuan daethom yn digon agos i weled, fod dyn yn cario y ganwyll. Hen wr gwasgaru ydiedd, a clos penlin, a chot a chwtws fain amdano. Cariai y ganwyll – a chanwyll babwyr ydoedd, rhwng y ddau fys canol ei law dde. Daliai hi gyferbyn ai galon. Cerddai ar hyd ganol y ffordd. Adwaenasom yr hen wr, a dyna sydd yn syndod gwyddem fod yr hen wr hwnw, yn sal ar ei wely, yn ymyl angeu. Pan ddaeth hi’n hymyl, gwelem ond oedd y gwynt na’r gwlaw yn effeithio dim ar y ganwyll . . . ond y noson hono, bu yr hen Ifan farw, ar dydd Iau canlynol, cludwyd yr hyn oedd farwol o’r hen wr, y ffordd hono, iw gladdi yn mynwent y plwyf.’
Felly os ydych chi allan am dro ar noson Calan Gaeaf, byddwch yn ofalus o oleuadau dirgel – ac efallai codi eich het i’r tylwyth teg.
Categori: Erthygl
