Symud i'r prif gynnwys
A compilation of still images from the films mentioned in the associated article - The Sheep Stealer, Y Chwarelwr, Mam, Blue Kenny and Oed yr Addewid.

Ysgrifennwyd gan Nia Edwards-Behi

19 Mehefin 2026

Ar Fehefin 19 mae ffilm newydd yn y Gymraeg, Effi o Blaenau, yn cyrraedd y sgriniau mawr ar draws y wlad, a hynny’n dilyn rhagddangosiadau llwyddiannus dros ben dros y misoedd diweddar.

Mae hi’n ffilm wedi’i lleoli’n ddofn ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn adrodd hanes Effi, merch ifanc sy’n cynrychioli gwytnwch y gymuned. Mae’r ffilm yn seiliedig ar ddrama lwyfan Gary Owen, Iphigenia in Splott, sydd ei hun yn tynnu ysbrydoliaeth o drasiedïau Groegaidd. Yn yr erthygl hon, dyma ni'n cymryd cyfle i feddwl hefyd am dreftadaeth ffilm Effi o Blaenau, o ddyddiau cynharaf y cyfrwng hyd y 21ain ganrif.

The Sheep Stealer (William Haggar, 1908)

Yn y ffilm hon mae dyn diobaith yn dwyn dafad o’i chae er mwyn ceisio bwydo’i deulu. Mae’r ffarmwr, a’i gi, a bugail, a phlismon yn ei erlid o’r ffarm yr holl ffordd  yn ôl at ei dŷ, lle maen nhw’n wynebu ei wraig a ddau blentyn llwglyd. Mae’n codi cwestiwn o drugaredd, a chefnogaeth gymunedol, ar ddiwedd y ffilm, sy’n densiwn presennol iawn yn Effi o Blaenau hefyd.

Y Chwarelwr (Ifan ab Owen Edwards, 1935)

Y Chwarelwr oedd y ffilm iaith Gymraeg gyntaf, wedi’i threfnu a’i chreu gan Syr Ifan ab Owen Edwards wedi iddo’i ysbrydoli ar ôl gweld ffilm ym Mhortiwgaleg. Ffilmiwyd hi ym Mlaenau Ffestiniog, gan gynnig portread o fywyd caled y gymuned ddiwydiannol yno a’r caledi a wynebai rhieni cefnogi dyfodol eu plant. Mae’r hanes diwydiannol yma’n gefndir trawiadol i Effi o Blaenau, wrth gwrs, a’r themâu o aberth a gofal yn ganolog i’r ddwy ffilm.

Mam (Red Flannel Productions, 1988)

Mae Mam yn bortread-drwy-ffilm o rôl hanfodol menywod, yn enwedig mamau, ym meddylfryd Cymru. Gan archwilio’r syniad o’r ‘fam Gymreig’ dyma ffilm sydd heb os yn pwysleisio aberthau mamau er mwyn cynnal y cymdeithasau diwydiannol a gwrywol o’u gwmpas. Mae Effi o Blaenau’n cynnig golwg ffuglennol o thema digon tebyg, gyda gogwydd mwy gogleddol ac ôl-ddiwydiannol o brif ffocws Mam.

Blue Kenny (Keir Alexander, 2000)

Ffilm fer a gynhyrchwyd fel rhan o gynllun cyllido ‘Screen Gems’ Sgrin Cymru ar dro’r 21ain ganrif, mae Blue Kenny yn adrodd hanes bachgen ifanc sy’n aflonyddgar yn yr ysgol ac yn wynebu dim ond dicter a sbeit gan ran helaeth ei athrawon. Ond mae un athro ifanc, newydd i’w gyrfa, yn gyfle i newid ei ffawd. Mae Effi o Blaenau yn troedio tir digon tebyg wrth iddi fynd yn ei blaen, gyda’r ffrindiau, cymdogion a theulu o’i chwmpas yn gorfod penderfynu sut - os – i’w chefnogi.

Oed yr Addewid (Emlyn Williams, 2001)

Campwaith o ffilm Gymraeg, sydd hefyd yn adrodd hanes am dlodi, methiannau mewn gofal gwladol, dibyniaeth, a phwysigrwydd ail-gysylltu. Cymeriad canolog y ffilm yw William Davies, dyn oedrannus sy’n ceisio cymryd mantais o system wedi’i gynllunio yn ei erbyn. Y  cawr o actor, Stewart Jones, sy’n llenwi’r rôl, ac yn ôl ei droed daw Leisa Gwenllian, sydd wedi derbyn sylw a chlod enfawr am ei phortread llachar o Effi.

Eisiau gweld y ffilmiau? Gallwch chi ofyn i'ch sinema leol gysylltu gyda ni i’w archebu! Neu, gallwch wylio pob un o’r ffilmiau yma ar ein gwefan Gwylio a Gwrando o fewn un o Gorneli Clip LLGC sydd ledled Cymru. Mae dwy ffilm, Y Chwarelwr a Blue Kenny hefyd ar gael i’w gwylio ar wefan BFI Replay.

Mae Effi o Blaenau yn cael ei dangos ledled y DU o Fehefin 19 ymlaen, gyda nifer fawr o ddangosiadau ar draws Gymru. Ymwelwch hefyd â Film Hub Wales i ddysgu mwy am dymor Dyma Ffilmiau Cymru, sy’n dathlu 130 mlynedd o sinema yng Nghymru.
 

Categori: Erthygl