Symud i'r prif gynnwys
Mae wyth o bobl yn sefyll tu mewn, pob un yn dal paentiad mewn ffrâm maen nhw wedi’i greu yn ystod gweithdy celf. Mae’r ystafell yn llawn golau ac yn teimlo’n groesawgar, gyda lluniau lliwgar ar y waliau a bwrdd o’u blaen yn llawn paent, siswrn ac offer creadigol eraill—yn dangos ysbryd hwylus a chydweithredol y digwyddiad.

11 Gorffennaf 2025

Fel rhan o’n rhaglen ymgysylltu cymunedol ar gyfer arddangosfa ‘Dim Celf Gymreig’, cafodd amrywiaeth o grwpiau lleol eu croesawu i’r Llyfrgell rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf ar gyfer cyfres o weithdai creadigol wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa.

Roedden ni eisiau gweithio gyda grwpiau gwirfoddol ledled Ceredigion sy’n cefnogi lles, creadigrwydd a chysylltiad cymdeithasol —yn enwedig ymhlith cymunedau sydd efallai ddim wedi ymweld â’r Llyfrgell o’r blaen. Rhai o’r grwpiau gymerodd ran oedd DYMA NI Ray Ceredigion, Hwb Cymunedol Borth, Headway Ceredigion, Credu Carers, a grwp celf a gofal HAHAV.

Derbyniodd pob grŵp daith o ‘Dim Celf Gymreig’, ac yna sesiwn greadigol dan arweiniad hwyluswyr lleol—yn amrywio o symudiad ysgafn ac ymwybyddiaeth ofalgar, i ddarlunio, collage, ffeltio a gwneud printiau. Roedd yr ymatebion yn hynod positif, gyda llawer o gyfranogwyr yn sôn am y croeso cynnes, pa mor ysbrydoledig oedd yr arddangosfa, a faint oedden nhw’n gwerthfawrogi’r lle i fod yn greadigol gyda’i gilydd.

Diolch o galon i’r holl hwyluswyr wnaeth gymryd rhan, ac i’n Cydlynydd Gweithgareddau ‘Dim Celf Gymreig’, Guto Morgan, am gydlynu’r gweithdai a chynnal lle ar gyfer rhaglen mor feddylgar a llawen. Mae wedi bod yn bleser nid yn unig gweld pobl yn cysylltu â’r casgliadau—a chyda’i gilydd—ond hefyd i groesawu cymaint o grwpiau lleol drwy’r drysau am y tro cyntaf.

Categori: Newyddion