Mae'r rhan fwyaf o archifau'n cynnwys straeon da ond bob hyn a hyn rydych chi'n dod ar draws un sy’n arbennig. Wrth gatalogio cofnodion Grŵp Gweithredu Rheilffordd Arfordir y Cambrian (GGRhyC), darganfyddais fod llawer o gynhwysion ar gyfer ffilm mawr Hollywood yno – David yn erbyn Goliath, ysbiwyr, troeon yn y stori, gweithredwr cudd yn y llywodraeth, digwyddiad Perry Mason, dogfennau cyfrinachol, ffrwydrad ac wrth gwrs, diweddglo hapus.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu cau rheilffyrdd â Bwyell Beeching yn y 1960au, ond roedd lleihau’r rhwydwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn bolisi o ryw fath gan y Llywodraeth mor diweddar a’r 1980au. Dyma oedd y cydestun, pan ar 11 Ionawr 1971, cafodd arwyddion eu gosod mewn gorsafoedd ar hyd y rheilffordd gwledig rhwng Machynlleth a Phwllheli, yn datgan y byddai'r lein yn cau ar 4 Hydref y flwyddyn honno oni bai bod wrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno erbyn 8 Mai.
Dafydd yn erbyn Goliath
Cafodd nifer o wrthwynebiadau eu cyflwyno a threfnodd Cyngor Sir Feirionnydd bod John Morris, y Bargyfreithiwr ac AS Aberafan, yn gweithredu ar ei rhan yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus.
Cododd sawl unigolyn a sefydliad gwahanol bryderon, ond ni fyddai hynny’n ddigon. Felly, gyda £5 wedi’i fenthyg gan ei gangen leol o Blaid Cymru, galwodd John Rogers, athro ysgol o Dywyn, gyfarfod cyhoeddus. Yno cafodd Grŵp Gweithredu Rheilffordd Arfordir y Cambrian ei ffurfio.
Roedd Rheilffyrdd Prydeinig wedi’u synnu gan lefel y gwrthwynebiad a daeth i’r amlwg yn ddiweddarach ei bod wedi anfon “ysbiwyr” i’r cyfarfod!
Arweinodd y GGRhyC ymgyrch llawr gwlad yn erbyn cau’r llinell, gan ddwyn perswâd ar Rheilffyrdd Prydeinig i newid amseroedd trenau fel bod y rhai oedd yn defnyddio trenau yn gallu mynychu’r Ymchwiliad Cyhoeddus.
Roedd yr Ymchwiliad dan ofal Pwyllgor Ymgynghorol Defnyddwyr Trafnidiaeth (PYDT) ac roedd y neuadd yn orlawn gyda gwrthwynebwyr i roi tystiolaeth o bwysigrwydd y rheilffordd i’r ardal leol. Ar ôl yr Ymchwiliad, parhaodd y GGRhyC i drefnu ymgyrch ysgrifennu llythyron a deiseb er mwyn cael cyhoeddusrwydd mewn papurau newydd. Ym 1971 cyhoeddodd y PYDT y byddai cau’r rheilffordd yn achosi cymaint o galedi fel y dylid ei chadw. Buddugoliaeth? Wel, dim ond 30 munud o’r ffilm sydd wedi bod hyd yma.
Troi plot a digwyddiad Perry Mason
’Doedd y Llywodraeth ddim yn hapus â’r argymhelliad yma ac aethant atii roi cynnig arall arni. Rhoesant gyfarwyddyd i’r PYDT gynnal ymchwiliad arall a’r tro yma, roeddent wedi cyflogi Cwmni Bysiau Crosville i ddaparu llwybrau teithio newydd ar hyd y rheilffordd. Pa galedi allai fod i'r ardal anghysbell hon pe bai bysiau yn lle trenau? Ond roedd y GGRHYC wedi paratoi'n dda a thra bod cynrychiolydd Crosville yn egluro'r llwybrau newydd fe ofynnon nhw os oedd gan y cwmni ganiatâd i ddefnyddio pont doll breifat ac os oedden nhw wedi gwirio'r cyfyngiadau pwysau. Mae’r ffilm yn torri i olygfa lle y mae’r dyn Crosville i’w weld, ond nid i’w glywed, mewn blwch ffôn gyda Chastell Harlech yn gefndir, yn gweiddi’n ddig i mewn i’r ffôn.
Ar ôl cinio, roedd yn rhaid i’r dyn Crosville gyfaddef nad oedd gan y cwmni ganiatâd i ddefnyddio'r bont a roedd y bysiau yn rhy drwm beth bynnag. Gotcha! Cafodd y cynllun i gau’r rheilffordd ei wrthod unwaith eto gan y PYDT, a bu tawelwch o swyddfa’r gweinidog.
Gweithredwr cudd, ryddhau dogfennau cyfrinachol a thapio ffôn
Tra’r oedd hyn yn digwydd roedd y GGRHYC wedi gwneud ffrind annhebygol yn Whitehall. Roedd yr ymgyrch wedi gwneud argraff ar yr uwch was sifil Reg Dawson, oedd hefyd yn un o gefnogwyr Rheilffordd Talyllyn yn Nhywyn; felly trefnoddgrant i Reilffyrdd Prydeinig er mwyn rhedeg trenau ar y lein ar ddyddiau Sul yn yr Hâf. Wrth gwrs, fe gynyddodd hyn nifer o deithwyr ar y lein.
Wedyn rhyddhaodd adroddiad cyfrinachol yn dangos bod gan y Llywodraeth gynllun ar gyfer cau llawer o reilffyrdd, gan gynnwys rheilffordd Arfordir y Cambrian ac aeth yn stori fawr yn y wasg. Aeth yn stori fwy ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod yr awdurdodau wedidefnyddio blacmel a thapio ffôn am eu bod mor benderfynol i ddarganfod pwy oedd wedi rhannu’r adroddiad. Ond er i Reg Dawson chwarae ran ganolog yn yr ymgyrch i achub lein Arfordir y Cambrian arhosodd ei gyfraniad yn gyfrinach tan ar ôl iddo farw yn 2013.
Parhaodd y GGRHYC i ysgrifennu llythyrau a chyda ymdrechion eraill i hyrwyddo’r rheilffordd, ac yna ym mis Tachwedd 1972 trefnodd drên arbennig i Lundain i gyflwyno neges i 10 Stryd Downing er mwyn cadw pwysau ar y Llywodraeth. Roedd yn rhaid aros tan fis Gorffennaf 1974 nes i John Rogers dderbyn telegram yn cadarnhau penderfyniad y Llywodraeth i beidio â chau Rheilffordd y Cambrian. Ond mae 30 munud o’r ffilm ar ôl, felly beth nesaf?
Roedd cwynion diddiwedd GGRHYC am wasanaeth gwael ac ymgyrchoedd am welliannau i orsafoedd, gwell amserlen a mwy o drenau yn dechrau dwyn ffrwyth ac yna….BANG!
Ffrwydrad a mwy o Adroddiadau Cyfrinachol
Ym mis Ebrill 1980 gwnaeth gweithwyr a oedd yn gwneud gwaith cynnal a chadw arferol ar Bont y Bermo, pont trestl bren a oedd yn cario’r rheilffordd am dros hanner milltir dros aber y Fawddach, chwalu eu pontŵn i mewn i un o’r pileri pren a dymchwelodd. Roedd y bont yn cael ei bwyta gan lyngyr llong!
Cafodd y bont ei ddatgan yn beryglus, ond ar ôl ychydig o waith atgyweirio roedd modd i drenau disel ysgafn ei ddefnyddio eto am gyfnod byr. Dywedodd Rheilffyrdd Prydeinig y byddai'n rhaid cau'r lein oni bai bod £5 miliwn yn cael ei wario ar atgyweirio. Ond roedd y GGRHYC yn teimlo bod rhywbeth o’i le a bod Rheilffyrdd Prydeinig yn defnyddio Pont y Bermo fel enghraifft i bwyso am fwy o fuddsoddiad gan y Llywodraeth. Aeth y stori yn fwy rhyfedd fyth pan archwiliodd peiriannydd arall o Rheilffyrdd Prydeinig y bont ac adrodd nad oedd hi mor ddrwg â hynny - byddai’r gwaith atgyweirio yn llawer rhatach a doedd y contractwyr ddim i weld yn gwybod beth oedden nhw’n ei wneud. Roedd stori yn y Cambrian News yn dweud bod y difrod wedi ei achosi gan ffrwydiad!
Oedd rhywun wedi ceisio chwythu Pont Bermo i fyny? Os felly, pwy? A pham? Efallai na fyddwn byth yn gwybod er fy mod i’n siŵr y byddem yn gweld ffrwydrad enfawr yn arwain at gerbyd trên yn hongian yn y bwlch oedd wedi’i adael gan y bom mewn fersiwn Hollywood!
Y diweddglo hapus
Mae’n ymddangos bod y GGRHYC wedi gwneud cymaint o sŵn dros y degawd diwethaf fel nad oedd cau’r rheilffordd yn mynd i fod mor hawdd â hynny, a daethpwyd o hyd i arian i atgyweirio Pont y Bermo. Yna, daeth trenau newydd a chafodd system signalau cyfrifiadurol newydd ei gosod. Gyda gwell marchnata roedd y trenau’n fwy prysur ac mae’r lein yn parhau i fod yn rhan annatod o fywyd ar hyd Bae Ceredigion, er y gallai fod wedi bod yn wahanol iawn. Heb ymdrechion aelodau y GGRHYC, gallai rheilffordd Arfordir y Cambrian fod wedi’i chau, o bosib y cyntaf o nifer yn ei sgil.
Bu un o sylfaenwyr y GGRHYC, John Rogers, mor garedig â rhoi’r archif i’r Llyfrgell yn 2016 fel nad oedd y stori ryfeddol yma yn mynd yn atgof hyd yn oed os nad oes gan Hollywood ddiddordeb. Ond rhag ofn bod ganddyn nhw - dwi'n meddwl y dylai'r archifydd sy'n pacio'r blychau yn yr olygfa olaf gael ei chwarae gan Michael Sheen.
Categori: Erthygl
