Heddiw, rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a hoffwn i gymryd y cyfle i ddathlu Mary Silyn Robert a rhannu bach o’i bywyd.
Wnes i ddysgu llawer am Mary gan Angharad Tomos, rhywun sydd wedi siarad un yn angerddol amdani ar y radio ac yn ddarlithoedd lle mae wedi rhannu hanes Mary. Cafodd Mary ei geni Yr Wyddgrug yn 1877, ac er iddi dyfu i fynnu yn Llundain, fe wnaeth hi ddychwelyd i'w gwreiddiau ar ôl priodi gweinidog, Robert ‘Silyn’ Roberts, ym 1905 a chawsant nhw 3 o blant. Graddiodd Mary ym Mhrifysgol Aberystwyth, un o'r menywod cynharaf i wneud hynny. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd hi'n rhan o'r Mudiad Pleidlais i Ferched, a gweithiodd i'r Llywodraeth yn ystod y rhyfel fel trefnydd amaethyddol. Ar ôl y rhyfel, trefnodd hi, ynghyd â Mary Gladys Thoday a Charlotte Price White, orymdaith heddwch o Benygroes yng Ngwynedd yr holl ffordd i Lundain, lle rhoddodd araith yn y Gymraeg yn Hyde Park. Roedd hyn ym 1926, blwyddyn ar ôl sefydlu Cymdeithas Addysg Gweithwyr (CAG) Ardal Gogledd Cymru.
Rwy'n agosáu at ddiwedd prosiect hyd flwyddyn i gatalogio, a darparu mynediad, i Archif Ardal Gogledd Cymru'r CAG. Mae'r archif yn dogfennu yn llawn hanes presenoldeb y CAG yn yr ardal o'i ddechrau, ac yn dangos sut y bu'n gweithredu ar draws Gogledd Cymru o'r cyfnod cyn ei sefydlu ym 1925, hyd at y 1990au. Mae yna bron i 300 o flychau, a thros 1500 o ffeiliau, a rhywle ymhlith y dogfennau mae darnau bach o Mary Silyn Roberts yr hoffwn eu rhannu gyda chi.
Roedd Mary a Silyn yn ymroddedig i helpu'r dosbarth gweithiol, i wella eu bywydau a darparu addysg. Soniais fod Silyn yn weinidog, a wnaeth y ddau sicrhau bod festri'r capel yn cael ei hymestyn er mwyn i roi dosbarthiadau nos. I mi, roedd yn ymddangos yn naturiol ar ôl gwybod yr hanes yma, y byddai Silyn yn estyn llaw i sefydlu Rhanbarth CAG Gogledd Cymru, ac fe fydd yr ysgrifennydd cyntaf y gangen. Roedd hefyd yn ymddangos yn naturiol, ar ôl ei farwolaeth annhymig ym 1930, y byddai Mary yn cymryd yr awenau fel Ysgrifennydd. Mae Angharad Tomos yn aml yn dweud mai Mary yw'r fenyw gyntaf i fod mewn rôl o'r fath yng Nghymru, ac o bosib yn y Deyrnas Unedig. Wnaeth Mary aros fel ysgrifennydd tan 1945.
Roedd ei hymroddiad i gefnogi addysg oedolion yn ddi-baid, ac ym 1939 pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd gweithiodd yn galed i sicrhau na fyddai gwaith y CAG yn dod i be. Yn ystod prinder petrol cafodd y dasg o ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau y gallai tiwtoriaid barhau i deithio i ddosbarthiadau. Fe wnes i ddod ar draws llythyr a ysgrifennwyd ym 1940 lle mae hi'n sôn am yr anrhydedd a'r fraint a gafodd o weithio ym maes Addysg Oedolion. Ar ddiwedd y llythyr, awgrymodd y dylid lleihau ei ffi ysgrifenyddol i leihau'r baich ariannol ar y CAG n ystod y Rhyfel.
Roedd yn amlwg i mi fod Denmarc yn bwysig i Mary, wnes i ddysgu gan Angharad, pan oedd hi'n ferch ysgol, ei bod hi wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i'r wlad. Byddai'n ymweld â Denmarc sawl gwaith yn ei bywyd, weithiau gyda Silyn, ac weithiau wrth ei hun. Fe wnes is ddod ar draws ffotograff o Mary yn Nenmarc, llun dosbarth a dynnwyd yn Silkeborg a phan welais y flwyddyn dechreuais feddwl mwy am yr hyn roeddwn i'n ei wybod am Mary a Silyn.
Yn Haf 1930, aeth Silyn i Rwsia, ac ar ei ffordd yn ôl ymosodwyd arno gan haid o fosgitos. Er ei fod yn sâl iawn, roedd yn ymddangos ei fod wedi gwella a hyd yn oed wedi cynnal dosbarthiadau yn un o'r Ysgolion Haf, a gadawodd Mary i ymweld â Denmarc. Pan oedd hi yn Nenmarc, clywodd fod ei gŵr wedi mynd yn sâl eto, a waeth hi dychwelyd i Gymru cyn gynted â phosibl. Ar ôl iddi ddychwelyd, bu farw Silyn.
Wrth i fi ddod ar draws y ffotograff yma, o’n i fethu rhoi gore i feddwl am y ‘Mary’ yn y llun. Roedd hi wedi cael ei ddal yn foment mewn amser, amser cyn iw bywyd newid am byth. Roeddwn i hefyd yn meddwl amdani hi'n cymryd drosodd fel ysgrifennydd yn ystod yr amser a oedd yn ôl pob tebyg, yr amser anoddaf yn ei bywyd, pan oedd hi'n galaru am ei gŵr ac yn cefnogi ei phlant oedd newydd golli eu tad. Roedd hi wir yn fenyw nodedig, ac rwyf mor falch fy mod i wedi cael y cyfle i ddysgu cymaint amdani.
Diolch yn arbennig i Gronfa Tudor Bowen Jones o Addysg Oedolion Cymru a roddodd y cyllid i’m galluogi i dreulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio ar yr Archif yma ac rwy’n edrych ymlaen at ei rhannu gyda chi.
