Symud i'r prif gynnwys
Mapiau twristiaeth a phoblogrwydd beiciau'r 1890au

Ysgrifennwyd gan Ellie King

20 Mawrth 2025

“It would hardly be too much to say that in April of 1895 one was considered eccentric for riding a bicycle, whilst by the end of June eccentricity rested with those who did not ride.” Constance Everett-Green, 1898

Bu i’r cynnydd mewn beicio yn y 1890au drawsnewid y ffordd yr oedd mapiau twristiaeth yn cael eu cynhyrchu. Cynhyrchodd gwneuthurwyr mapiau fwy a mwy o fapiau wedi'u targedu at feicwyr, a oedd yn cynnwys manylion fel amodau ffyrdd a bryniau peryglus, a oedd wedi bod yn absennol o fapiau tan hynny,  a oedd yn bennaf ar gyfer teithwyr rheilffordd. Arhosodd y wybodaeth yma ar fapiau hwyrach gyda’r brand ‘beicio a moduro’, ac er i geir modur ddod yn fwy cyffredin ar ddechrau’r 20fed ganrif, mae’r confensiynau mapio a ddatblygwyd ar gyfer mapiau beicio i’w gweld o hyd ar fapiau ffyrdd.
 

Mae'r rhan fwyaf o feicwyr modern yn canolbwyntio ar rannau o'r llwybr sydd yn  mynd fyny allt, ond roedd beicwyr oes Fictoria yn aml yn dod oddi ar y beic ac yn cerdded i fyny unrhyw lethrau serth. Roedd beiciau'r cyfnod fel arfer yn rhai cyflymder sengl, oedd yn ddelfrydol ar gyfer beicio ar hyd ffyrdd gwastad. Hyd yn oed mewn rasys, doedd gêr ddim yn cael ei ddefnyddio bob tro - roedd Henri Desgrange, a sefydlodd y Tour de France yn 1903, yn ystyried bod reidio beic gyda gêrs yn dwyllodrus, yn addas ar gyfer ‘menywod a hen ddynion’ yn unig! Ond, roedd nodi serthrwydd allt yn cael ei ystyried yn hanfodol ar unrhyw fap beicio da, gan fod angen i feicwyr wybod pryd i ddisgwyl ‘bryniau peryglus’ — bryniau a oedd rhy serth ar gyfer beiciau gyda breciau annibynadwy neu ddim brec o gwbl.

Cynhyrchodd sefydliadau beicio fapiau eu hunain gan nodi ansawdd y ffordd ar gyfer beicio.  Byddai rhain yn aml yn cael eu defnyddio ar gyfer deisebu awdurdodau lleol i wella’r sefyllfa, yn ogystal â rhannu gwybodaeth gyda beicwyr eraill.
 

Cynhyrchodd rhai gwneuthurwyr mapiau ‘lyfrau ffordd’ i fynd gyda’u mapiau, fel yr enghraifft hon o tua 1899, gan Gall & Inglis. Roedd rhain yn cynnwys manylion? cannoedd o lwybrau, a disgrifiadau o'r llwybr ac arwyneb y ffordd. Byddai beicwyr oedd yn seiclo rhwng Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth yn gwynebu ‘ffordd anodd iawn… [gyda] chyfres? cyson o fryniau peryglus’, ac efallai felly yn cael eu temtio i seiclo i Lanymddyfri yn lle hynny, ar ‘ddarn ysblennydd o ffordd’.

Mae hefyd yn nodi pa lwybr i dref benodol yw'r un mwyaf hardd, i feiciwr sy'n dymuno gweld golygfeydd hyfryd ar hyd y ffordd.

 

Mae llyfrau ffordd fel hwn yn dal i gael eu cynhyrchu ar gyfer rasys proffesiynol heddiw. Mae cystadleuwyr yn eu defnyddio i baratoi ar gyfer reidiau, ac mae cefnogwyr yn aml yn eu casglu fel cofroddion o rasys maen nhw wedi'u gweld. Mae nodi wyneb y ffordd dal yn hollbwysig. Mae'r ras Paris-Roubaix, sy’n cael ei chynnal yng ngogledd Ffrainc bob gwanwyn, yn enwog am ei cherrig cobl, neu balmant, ac mae’r enillydd yn derbyn carreg gobl yn seremonïol fel rhan o'u gwobr.

Y beic ‘diogelwch’

Er bod beiciau wedi bod ar gael mewn gwahanol ffurfiau ers y 1800au cynnar, dim ond yn yr 1880au gyda chyflwyniad y beic 'diogelwch' (siâp cyfarwydd yn debyg iawn i feiciau modern heddiw) yr ehangodd ei rôl y tu hwnt i beth chwarae ar gyfer bonheddwyr cyfoethog.
 

Roedd y beic diogelwch, ynghyd â'r teiar niwmatig a oedd newydd gael ei ddyfeisio, yn gyfforddus, yn hawdd i'w reidio a'i gynnal, ac yn gymharol rhad. Cafodd ei fabwysiadu yn frwd hefyd gan ddynion a merched, er bod cwestiynau moesoldeb am ferched yn beicio. Awgrymodd un colofnydd yn y cylchgrawn merched Queen yn 1896 fod merched a oedd yn beicio hefyd yn anufudd, yn debygol o ysmygu a darllen ‘nofelau peryglus’. Er gwaethaf beirniadaeth o’r fath, mae un amcangyfrif yn awgrymu bod traean o’r archebion beiciau yn 1896 ar gyfer modelau i ferched, ac yn 1880, ymunodd y fenyw cyntaf, Mrs WD Welford,  â’r Bicycle Touring Club (y CTC yn ddiweddarach, bellach Cycling UK), dwy flynedd ar ôl ei sefydlu.

“Where shall we go for our week’s freedom from the town’s oppression?” 

“King of the Road”, writing in The Clarion magazine, June 1897

Mewn cyfnod o ddiwydiannu a threfoli, roedd beicio yn cael ei annog fel ffordd i drigolion y dref ddianc i gefn gwlad, mewn ffordd a oedd yn fforddiadwy ac a oedd yn cynnwys manteision ymarfer corff ysgafnAgorodd beicio ardaloedd gwledig i dwristiaid, gan eu galluogi i archwilio’r dirwedd ar liwt eu hunain, yn hytrach na dibynnu ar amserlenni rheilffordd neu deithiau wedi’u trefnu.

Yn nofel gomig H.G. Wells yn 1896, The Wheels of Chance, mae dilledydd cynorthwyol ar gyflog gwael yn dianc o Putney i ryddid lonydd gwledig ar ei feic: ‘‘Here was quiet and greenery, and one mucked about as the desire took one… [S]omething wonderful, a little, low, red beast with a yellowish tail… went rushing across the road before him. It was the first weasel he had ever seen in his cockney life.’ (The Wheels of Chance, p.48).

Roedd gwibdeithiau beicio yn arbennig o boblogaidd ymhlith y dosbarth canol, a oedd â'r arian a'r amser, ond roedd y mudiad sosialaidd hefyd yn croesawu'r  beic. Fe feiciodd y dramodydd George Bernard Shaw ac arweinydd undeb y docwr, Ben Tillett, i Gyngres yr Undebau Llafur yng Nghaerdydd ym mis Medi 1896, gyda’r cyntaf yn seiclo 40 milltir o gartref ffrind yn Sir Fynwy ar gyfer yr achlysur.

Yn anochel, roedd llawer o gwmnïau am fanteisio ar yr awch am feicio, gan gynhyrchu mapiau beicio llawn hysbysebion fel y map maint poced hwn o Ogledd Cymru, o 1897 gan y cynhyrchwyr wisgi Scotch, Pattisons. Tra bod y map yn plygu’n gyfleus i orchudd llai na 9 cm o daldra, gan ei wneud yn berffaith i’w gadwyn eich poced ar daith feic, yn sicr dydyn ni ddim yn argymell cymryd ei gyngor a mwynhau swig o ‘Pattisons wrth feicio’!

Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau

Categori: Erthygl