Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa Cymru i’r Byd: mapiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd i’w gweld ar hyn o bryd yng ngaleri Glan-yr-Afon, Hwlffordd, tan 24 Chwefror 2024. Bydd pob blog yn canolbwyntio ar ddetholiad o eitemau a gysylltir â thema gyffredin. Y tro hwn, byddwn yn canolbwyntio ar fapiau ar gyfer dysgu a chwarae.
Ers amser maith, defnyddiwyd gemau i helpu plant i fynd i’r afael â daearyddiaeth. Cafodd posau jig-so eu dyfeisio yn gyntaf fel ffordd o ddysgu am fapiau. Cânt eu priodoli’n gyffredinol i John Spilsbury yn y 1760au. Yn wreiddiol, doedd y darnau ddim yr un fath â’r siapiau a geir mewn jig-sos heddiw; yn hytrach, caent eu torri ar hyd amlinellau gwledydd neu siroedd. Yna, gallai’r plant eu rhoi gyda’i gilydd i greu map cyflawn. Yn yr arddangosfa, gallwch weld jig-so, neu ‘fap dyranedig’ fel y’i gelwid yn wreiddiol, sy’n deillio o’r 1890au. Fe’i gwnaed gan William Peacock, a oedd yn wneuthurwr jig-sos mapiau cynhyrchiol. Parhaodd ei gwmni, Peacock & Co., i’r 1930au, ac yna fe’i prynwyd gan Chad Valley.

Nid cartograffwyr mo Peacock & Co.; yn hytrach, arferent ddefnyddio mapiau a oedd eisoes ar gael, gan eu gludo ar fyrddau pren ac yna torri’r darnau. Ar y pos hwn gwelir siroedd Cymru a Lloegr. Yn ddelfrydol, byddai gan bob sir ei darn ei hun, ond gan fod yn rhaid i bob pos gael ei dorri â llaw – gwaith llafurus a chostus iawn – mae rhai darnau’n cynnwys mwy nag un sir. Fel llawer o jig-sos eraill, mae un darn ar goll o’r pos hwn!
Rhywbeth arall a arddangosir yw atlas ysgol a arferai gael ei ddefnyddio yn Ysgol Llanddewi Brefi yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Gwyddom fod hyn yn wir oherwydd ysgrifennodd Mary Davies, merch ysgol, ei henw ei hun ac enw’r ysgol ar y clawr. Bwriad y llyfr hwn oedd cyflwyno’r cysyniad o fap i blant ysgol. Ar ddechrau’r atlas, ceir llun o adeilad ysgol Fictoraidd nodweddiadol mewn lleoliad paradwysaidd yn llawn caeau a bryniau, gyda thrên stêm yn y cefndir. Yna, dangosir yr un olygfa ar fap, gyda’r holl nodweddion wedi’u labelu’n ofalus. Byddai hyn wedi helpu’r plant ysgol i ddeall arferion cartograffeg trwy eu cysylltu â thirlun cyfarwydd.
Mae’r mwyafrif o’r mapiau yn yr atlas yn canolbwyntio ar nodweddion daearyddol, ond ceir un map hanesyddol sy’n dangos ‘y Wlad Sanctaidd yng nghyfnod ein gwaredwr’ – dengys hyn fod crefydd wedi’i ymwreiddio yng nghwricwlwm cyffredinol ysgolion ar y pryd. Mae’r Dwyrain Canol i’w weld hefyd yn un o’r mapiau Cymraeg sy’n rhan o’r arddangosfa.
Cyhoeddwyd Map y rhyfel yng ngwledydd y Beibl ym 1916, a’i fwriad oedd helpu pobl gyffredin i ddeall hynt y Rhyfel Byd Cyntaf trwy ddangos enwau modern y lleoedd ochr yn ochr â’u henwau Beiblaidd cyfatebol. Cyhoeddwyd y map yn Y Darian, sef papur radical o Dde Cymru. Yma, mae Beriah Gwynfe Evans, a greodd y map, yn esbonio’i amcanion wrth un o newyddiadurwyr Y Darian:
“Gwyr pobl Cymru eu Beibl, a’r enwau Beiblaidd – ond ni ch’eir ond ychydig o’r enwau hynny yn y papurau new-ydd, gan fod yr enwau diweddar ar y lleoedd yn wahanol i’r enwau a geir ar y lleoedd hynny yn y Beibl … Gwyr blant yr Ysgol Sul am Sardis, a Philadelphia, ac Elath, Ninifeh – ond pwy ohonynt a gysylltai yr enwau hynny ag ‘Aktisar,’ ‘Alashei,’ ‘Akaba,’ a ‘Mosul’, er engraifft. … A cha’r Cymro ddidordeb newydd wrth ddarllen hanes y brwydro yn y lleoedd dieithr hyn pan wel mai yr un ydynt a’r lleoedd y dysgwyd ef am danynt o dan ryw enw arall yn yr Ysgol Sul.” (Y Darian, 31 Awst 1916)
Yn ddiweddarach, cyhoeddodd y papur lythyr diolch gan fenyw o Sir Benfro a oedd yn dilyn hynt ei chefndryd yn yr Aifft trwy ddefnyddio’u llythyrau a’r map yn Y Darian.

Er mwyn gorffen ar nodyn ychydig yn ysgafnach, dylid crybwyll bod tri o gardiau chwarae â mapiau yn rhan o’r arddangosfa. Crëwyd y cardiau hyn gan William Redmayne yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Ar y pryd, roedd Cymru a Lloegr gyda’i gilydd yn cynnwys 52 o siroedd – ac roedd yna 52 o gardiau i’w cael mewn pac o gardiau safonol. Manteisiodd nifer o wahanol gyhoeddwyr ar hyn, gan greu paciau lle’r oedd pob sir yn ymddangos ar gerdyn gwahanol. Mae’r cerdyn ‘Pembrook-shire’ yn y fan hon yn deillio o argraffiad cyntaf cardiau Redmayne, ac mae’n dyddio i 1676. Argraffwyd y cardiau mewn du a gwyn, a’r arfer oedd stampio siapiau’r siwtiau coch â llaw ar ôl eu hargraffu.
Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd Redmayne ail argraffiad diwygiedig. Yn yr argraffiad gwreiddiol, nodwyd bod Sir Benfro wrth ymyl Sir y Fflint – felly efallai fod hynny wedi cyfrannu at y penderfyniad i ailargraffu! Mewn du a gwyn y cynhyrchwyd yr ail argraffiad hefyd, ond cafwyd gwared â’r arfer drud o stampio’r siwtiau â llaw. Gwahaniaethwyd rhwng siwtiau ‘coch’ a ‘du’ trwy ddefnyddio streipiau ar gyfer y naill a llinellau mân ar gyfer y llall. Mae’r cardiau a welir yn y fan hon ar gyfer ‘Cardigan-shire’ a ‘Caernarvan shire’ yn perthyn i’r ail argraffiad.

Dyma ddetholiad yn unig o’r eitemau sy’n rhan o’r arddangosfa Cymru i’r Byd a welir ar hyn o bryd yng Nglan-yr-Afon, Hwlffordd, tan 24 Chwefror 2024.
Ellie King
Curadur Cynorthwyol Mapiau
Categori: Erthygl