Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch i lansio arddangosfa ddigidol newydd ar y cyd ar hanes ymsefydlu Cymreig ym Mhatagonia o safbwyntiau'r bobloedd Tehuelche, Mapuche a Mapuche Tehuelche yn Chubut.
Mae stori ymsefydlu Gymreig ym Mhatagonia yn aml yn cael ei gyflwyno fel cyfarfod cydseiniol rhwng y bobloedd frodorol, y mewnfudwyr Cymreig a Gwladwriaeth yr Ariannin. Mae’r Llyfrgell yn gartref i nifer o ddyddiaduron, llythyrau a dogfennau eraill sy’n rhoi cip o’r cynlluniau i greu trefedigaeth, y mudo a bywyd pob dydd ymsefydlwyr Cymreig yn Y Wladfa. Fodd bynnag, mae’r hanes sy’n cael ei adrodd yma yn dod o safbwynt hollol Gymreig.
Un o nodau’r prosiect ‘Problemateiddio Hanes: Safbwyntiau brodorol ar ymsefydlu Cymreig ym Mhatagonia’ yw cynnig llwyfan i’r lleisiau brodorol heb gynrychiolaeth ddigonol yn y stori hon. Wedi’i arwain gan Dr Geraldine Lublin o Brifysgol Abertawe, mae’r prosiect wedi gwahodd artistiaid Mapuche Tehuelche i rannu eu myfyrdodau eu hunain ar hanes Chubut ac ymsefydlu Cymreig. Mae’r arddangosfa yn cynnwys pedwar prosiect creadigol ac yn ein hannog i gydnabod pwysigrwydd gwrando ar safbwyntiau gwahanol ar hanes.
Cafodd y prosiect ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’i harwain gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Grupo de Estudios sobre Memorias Alterizadas y Subordinadas (GEMAS).
Categori: Newyddion