Symud i'r prif gynnwys
Painting of Dr Gaynor Legall by Joshua Donkor

23 Hydref 2025

Y llynedd fe gomisiynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr arlunydd portreadau Joshua Donkor i greu gweithiau celf newydd a oedd yn ymateb i gasgliad portreadau cenedlaethol y Llyfrgell, fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad sylweddol o dros 10,000 o bortreadau, sy’n portreadu ffigurau yng Nghymru ac yn hanes Cymru, yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg nes heddiw. Crëwyd y casgliad pan sefydlwyd y Llyfrgell yn 1907 ac fe dyfodd y casgliad dros y degawdau drwy roddion a phwrcasau.

Fodd bynnag, mae'r casgliad portreadau yn broblematig gan ei fod yn cynnwys delweddau o ffigurau dadleuol yn hanes Cymru gan gynnwys Thomas Picton (1758-1815), llywodraethwr creulon Trinidad a wnaeth elwa yn uniongyrchol o’r fasnach gaethion a oedd hefyd yn cael ei adnabod am ei driniaeth ffiaidd o’r bobl a oedd yn cael eu caethiwo. Prin iawn hefyd ydy’r portreadau sydd yn dathlu pobl o liw a chwaraeodd rôl allweddol yn natblygiad Cymru.

Arlunydd Ghaniaidd-Brydeinig yw Joshua Donkor a raddiodd o Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2020 ac mae ei waith yn defnyddio portreadaeth fel offeryn i danseilio portreadau monolithig o hunaniaeth Du. Mae ei bortreadau’n cynnwys cyfeiriadau gweledol mewn haenau wedi’u creu drwy amryw dechnegau o baentio, printio a haenu sy’n rhoi dyfnder ac ystyr dwys i’w waith.

Wrth i Joshua Donkor ymchwilio casgliad portreadau’r Llyfrgell teimlodd ei fod am ymateb drwy bortreadu pobl o liw sydd yn gwneud cyfraniad arloesol i'r gymdeithas yng Nghymru heddiw. Mae ei bortreadau o June Campbell Davies, y ddawnswraig a’r coreograffydd a Gaynor Legall, yr arweinydd mewn cydraddoldeb hil a hawliau cyfartal i ferched yn gaffaeliadau hynod bwysig i archif bortreadau’r Llyfrgell.

Gellir gweld portread June Campbell Davies yn Arddangosfa Portread a Phŵer, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1.11.25-30.5.26).

Categorïau: Erthygl, Newyddion