Symud i'r prif gynnwys
Angharad sits at a winding bench inspecting 16mm film. She's wearing a white lab coat.

Ysgrifennwyd gan Wilhelmina Barnden

15 Mai 2025

Ar ôl bron i 3 blynedd, rydym wedi dod i ddiwedd prosiect digido’r Archif Ddarlledu ar gyfer deunydd ITV Cymru Wales. Mae wedi bod yn anodd rhoi stop ar beiriant mor effeithlon a chynhyrchiol, a gallwn yn sicr fod yn falch o’n cyflawniadau.

Ar ben y nifer drawiadol o eitemau yn yr Archif Ddarlledu, mae’r prosiect wedi ychwanegu 5,518 o glipiau ffilm a rhaglenni, a 6,283 o dapiau i’r cymysgedd, i gyd ar gael i’w gweld yn ystafell Archif Ddarlledu’r Llyfrgell Genedlaethol, ac yng Nghorneli Clip ledled Cymru.

Mae datblygiad cyffrous yn golygu hefyd, am y tro cyntaf, y gellir gwylio mwy na 5,000 o glipiau ffilm a rhaglenni ITV, ynghyd â channoedd o glipiau BBC, trwy wefan Clip Cymru ar-lein, yng nghysur eich cartref eich hun.

Mae modd i wylio miloedd o glipiau ar-lein ar Glip Cymru.

Rydyn ni’n sicr yn gobeithio y bydd yr archif rydyn ni wedi’i chreu yn cael ei mwynhau gan bawb, ac yn drysorfa o atgofion, ysbrydoliaeth a gwybodaeth.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at heriau newydd, ond dyma foment i ddiolch i bob un o’r staff ymroddedig sydd wedi gweithio mor galed i wneud i hyn ddigwydd. 

Categori: Erthygl