Symud i'r prif gynnwys
Detholiad o ddyddiaduron bach oedd yn eiddo i ac yn cael eu defnyddio gan Alfred Janes, 1944-1955

Ysgrifennwyd gan Lucie Hobson

1 Medi 2025

Yn ddiweddar, mae'r Llyfrgell wedi catalogio a rhoi mynediad i bapurau'r artist Cymreig Alfred Janes (1911-1999). Wedi ei eni yn Abertawe, uwchben siop ffrwythau ei rieni yn Sgwâr y Castell, dangosodd ei waith celf addewid yn ifanc ac ym 1928, pan oedd yn ei arddegau, arddangoswyd ei waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Treorci. Daeth yn adnabyddus am ei bortreadau ac ym 1931 cafodd ei bortread o'i gyd-arlunydd o Abertawe, Mervyn Levy, ganmoliaeth fawr, ac yn dilyn hynny enillodd Janes ysgoloriaeth i Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain.

Rhaid bod hud yn yr awyr yn Abertawe yn y 1930au, oherwydd roedd Caffi Kardomah yn Stryd y Castell yn gartref i grŵp o ffrindiau a chydweithwyr a fyddai i gyd yn cael effaith sylweddol ar gelf a llenyddiaeth yr 20fed ganrif, gan gynnwys Alfred Janes, Daniel Jones, Charles Fisher, Mervyn Levy, John Prichard, Bert Trick, Vernon Watkins, a Dylan Thomas. Ymhlith y grŵp hwn o artistiaid, awduron a beirdd, datblygodd Janes ei arddull nodweddiadol ei hun. Mae ei ysbrydoliaeth gan artistiaid eraill yn amlwg i'w gweld o'i gasgliad o doriadau, cardiau post, a ffotograffau o weithiau artistiaid eraill (C3/1), gan gynnwys Georges Braque, Picasso, Gaugin, Ben Nicholson, Paul Klee, Cezanne, Henry Moore, a Van Gogh, ymhlith llawer o rai eraill. Mae copi treuliedig ac annwyl o Simple Rules for Painting in Oils gan A. P. Laurie [?1932] (C2/3), wedi'i lofnodi gan Janes, yn yr archif ynghyd â'i ddyddiaduron (C1), sy'n cynnwys nifer o frasluniau a gweithiau celf bach ymhlith y rhestrau siopa ac apwyntiadau deintydd.

Yng nghanol y 1930au, roedd Alfred Janes yn enwog am rhannu fflat yn Llundain gyda Thomas a Levy, tra roedd yn symud i astudio celf yn yr Academi Frenhinol. Mae tag bagiau a ddarganfuwyd ymhlith ei bapurau yn dwyn eu cyfeiriad ar Redcliffe Road, South Kensington (C4), amgylchedd lle peintiodd Janes ei bortread mwyaf adnabyddus o Dylan Thomas ym 1934. Dychwelodd i fyw yn Abertawe ym 1936 a dechreuodd addysgu yng Ngholeg Celf Abertawe, cyn ymuno â gwasanaeth rhyfel lle cafodd ei anfon i'r Aifft i weithio mewn gwersyll carcharorion rhyfel; yno dysgodd Swahili ac Eidaleg, gyda rhai o'r cyfeillgarwch a wnaeth â'r carcharorion Eidalaidd yn para am weddill ei oes. Mae ei bapurau'n cynnwys llawer o lythyrau a ysgrifennwyd yn Eidaleg.

Mae'r archif hefyd yn dyst i'r hyn a allai fod wedi bod yn un o gynulliadau olaf y 'gang Kardomah'. Mae ffotograff (E2), dyddiedig 1953, yn dangos grŵp difrifol o amgylch bwrdd cegin. Yr achlysur oedd angladd Dylan, a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Martin, Talacharn, ac mae'r rhai yn y llun yn cynnwys Jim Jones (brawd Daniel Jones), John Ormond, John Prichard, Alfred Janes, Irene Jones, Margaret Taylor, Charles Fisher, Mabley Owen, Daniel Jones, Mary Janes, ac wrth gwrs Florence, mam Dylan.
 

Symudodd Janes i Dulwich ym 1963 pan ymgymerodd â swydd ddarlithio yng Ngholeg Celf Croydon, ac mae ei archif yn cynnwys llawer o'i nodiadau darlith (cyfres D1). Roedd ei arddull addysgu yn annog myfyrwyr i edrych yn wirioneddol ar ddyfnder eu pwnc ac i weld y tu hwnt i'r hyn yr oeddent yn ei baentio, teimlad a adleisiwyd hefyd mewn teyrnged i'w ddiweddar ffrind Thomas ym mis Tachwedd 1953:
 

It takes great courage and honesty and faith to tell what one has found, not only in the bright places, but also in the holes and corners of one’s soul’. (AJ, teipysgrif o deyrnged I Dylan Thomas, 17 Tachwedd 1953, D5)

 

Drwy gydol ei yrfa daeth Janes yn adnabyddus am ei bortreadau o’r ‘gang Kardomah’ gan gynnwys rhai o Thomas (a baentiodd dair gwaith, ym 1934, 1953, a 1964), Mervyn Levy (1931, 1935 a 1983), Daniel Jones (1947 a 1949), a Vernon Watkins (1949), yn ogystal â’i weithiau mwy pwerus a meddylgar fel ‘Salome’ (1938) a’i baentiad o Stryd y Castell, Abertawe, a fomiwyd yn sgil y Blitz ym 1941 (1947). Datgelir mewn llythyr gan Janes ym mis Ionawr 1984 (A1/3/3) fod Mr W. J. Johns o fasnachwyr ffrwythau Heol Alexandra, Abertawe, yn ffigwr mewn un o’i bortreadau cynharach heb deitl, sef gŵr bonheddig mewn siaced, gwasgod a thei a baentiwyd ym 1931. Mae'n debyg nad oedd Mr Johns yn sylweddoli ei fod yn dyst i ddechrau gyrfa un o artistiaid mwyaf enwog a pharchus Cymru.
 

Mae pob papur yn y casgliad ar gael i’w pori a’u harchebu drwy gatalog Archifau a Llawysgrifau’r Llyfrgell.

 

Categori: Erthygl