Symud i'r prif gynnwys
Hanner uchaf tudalen deitl 'De sensu rerum et magia' gan Tommaso Campanella gan gynnwys llofnod Henry Vaughan

Ysgrifennwyd gan Hywel Lloyd

8 Medi 2025

Prynodd y Llyfrgell gopi o’r llyfr prin “De sensu rerum et magia” gan Tommaso Campanella yn ddiweddar. Mae'r gyfrol yn cynnwys pedwar ‘llyfr’ yn Lladin a arferai berthyn i lyfrgell Henry Vaughan, y bardd a’r cyfrinydd enwog o’r ail ganrif ar bymtheg oedd yn byw yn Abehonddu. Mae'n cynnwys llofnod Henry Vaughan ac hefyd gwelir rhai nodiadau ganddo ar dudalennau eraill.

Roedd Tommaso Campanella (1568-1626) yn fynach Dominicaidd, athronydd ac awdur a geisiodd ddiwygio’r eglwys drwy gymodi y dadeni dysg gyda diwinyddiaeth Gatholig. Fe’i arestiwyd nifer o weithiau am wahanol heresiau. Ysgrifennodd ei lyfr mwyaf enwog The City of the Sun yn 1602 tra ei fod yn garcharor yn Sbaen ar ôl chwarae ei ran mewn ymgais i ryddhau Calabria o reolaeth Sbaen. Fe ddilynodd syniadau Bernardino Telesio ac roedd yn rhan o symudiad tuag at ymarferoldeb ac empiriaeth ac i ffwrdd o resymeg damcaniaethol Aristotle. Credai Campanella fod popeth yn y byd yn ymdeimladol i ryw raddau ac felly yn meddu ar ewyllys, empathi a gelyniaeth. Credai fod hyn yn wir am blanhigion, metalau a creigiau hefyd. Mae anifeiliaid yn ymdeimladol i raddau ac felly yn meddu ar emosiynau fel cydymdeimlad a gelyniaeth. Gan fod ymdeimlad o Dduw gan bodau dynol mae llawer fwy o synnwyr a teimladau ganddynt. Yn ôl Campanella, gall yr ymdeimlad yma gael ei ddefnyddio gan bobl ddoeth i wneud triciau hyd a lledrith ‘naturiol’ a disgrifir nifer o enghreifftiau o hyn yn y llyfr De sensu rerum et magia.

Fel bardd metaffisegol, gellir gweld dylanwad Campanella ar Henry Vaughan. Adnabyddir ef yn bennaf am ei farddoniaeth crefyddol Silex Scintillans, 1650-1655 ac roedd hefyd yn awdur, cyfieithydd a meddyg. Fel ei efaill, Thomas (1621-1666), oedd yn glerigwr ac athronydd, roedd ganddo ddiddordeb mewn alcemi (math o hŷd a lledrith). Dewisodd Vaughan y llysenw The Silurist oedd yn cyfeirio at ei edmygedd o’r Silures, sef llwyth Geltaidd o dde Cymru a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid. Mae’r llysenw hefyd yn dangos ei hoffter o ardal Aberhonddu a mynyddoedd y Bannau Brecheiniog.

Mae llyfrau o lyfrgell Henry Vaughan yn brin iawn. Hyd yn ddiweddar dim ond yn y Library Company of Philadelphia y gwyddwyd am eu bodolaeth. Rydym yn falch iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi gallu prynu un ohonynt. Bydd hwn yn adnodd gwerthfawr i'n cenedl drwy alluogi ein defnyddwyr i ddarganfod rhagor am Henry Vaughan a'r syniadau a ddylanwadodd arno ef a'i gyfoeswyr.

Categori: Erthygl