Eleni cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon (ARA) yn Belfast rhwng 30 Awst a 1 Medi. Yn ystod y gynhadledd derbyniodd dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydnabyddiaeth am eu gwaith caled yn y sector Archifau.
Cyflwynwyd Gwobr Gwasanaeth Nodedig mewn Archifau i Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes. Cymhwysodd Sally fel archifydd ym 1988 a daeth i weithio yn y Llyfrgell ym 1989, ac mae wedi bod yma ers hynny! Mae Sally wedi gweithio ar bob lefel i helpu i hwyluso cadwraeth a mynediad at archifau, gan ddod yn Bennaeth Gofal Casgliadau yn 2010 ac yn Bennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes yn 2015. Gwelodd Sally archifau a chasgliadau arbennig y Llyfrgell drwy heriau sylweddol, gan gynnwys tân yn 2013 ac yn fwy diweddar y pandemig Covid-19, yn ogystal â sicrhau Achrediad Gwasanaeth Archifau ar gyfer y Llyfrgell a hyrwyddo Cadwedigaeth Ddigidol.
Yn ystod ei gyrfa mae Sally wedi cyfrannu at lawer o gyrff proffesiynol, gan gynnwys Rhanbarth ARA Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a’i Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol, y Gynghrair Cadwedigaeth Ddigidol, Grŵp Penaethiaid Cadwraeth a Gwyddoniaeth, a Grŵp Archifau a Chasgliadau Arbennig WHELF.
Mae Sally wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’r gwaith o gasglu a chadw archifau yma yn y Llyfrgell a hefyd ar draws y proffesiwn archifau ehangach, ac rydym yn siŵr y byddwch yn ymuno â ni i ddymuno llongyfarchiadau iddi.
Llongyfarchiadau hefyd i Julian Evans, Cynorthwy-ydd Cadwraeth, a dderbyniodd ei Dystysgrif mewn Cadwraeth Archifau. Dechreuodd Julian ei Hyfforddiant Cadwraeth Archifau ARA yn LlGC yn 2019, gan weithio ar lawer o wahanol dechnegau a chasgliadau gan gynnwys rhwymo llyfrau, cadwraeth papur, glanhau ac atgyweirio. Mae Julian nawr yn dechrau ar ei yrfa fel Cadwraethwr Archifau cwbl gymwys, gan helpu i gadw sgiliau hanfodol ar gyfer cadwraeth archifau yn y dyfodol.
Lucie Hobson
Archifydd Cynorthwyol
Categori: Erthygl