Mae tîm o wirfoddolwyr ymroddedig wedi trawsgrifio a digideiddio deiseb gan mlwydd oed a lofnodwyd gan bron i 400,000 o ferched Cymru, ac mae bellach i’w weld ar-lein am y tro cyntaf. Mae'r ymdrech hon yn galluogi pobl i chwilio am lofnodion eu hynafiaid ac archwilio'r darn pwysig yma o hanes.
Yn 1923, yn dilyn dinistr y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd 390,296 o fenywod Cymru - tua 30% o’r boblogaeth fenywaidd - ddeiseb yn cymell merched America i roi pwysau ar yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd a oedd newydd ei ffurfio. Yn cael ei hadnabod fel Deiseb Heddwch Merched Cymru, cafodd y ddogfen hon ei chadw a’i dychwelyd yn ddiweddarach i Gymru fel anrheg gan amgueddfa'r Smithsonian i nodi ei chanmlwyddiant.
Ymgymerodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru â phrosiect helaeth i gatalogio, digido, a thrawsgrifio’r ddeiseb. Gyda chymorth yr Academi Heddwch, lansiwyd ymdrech torfol i drawsgrifio'r holl enwau a chyfeiriadau a restrir ar y ddeiseb. Cyfrannodd gwirfoddolwyr o bob rhan o’r byd at y prosiect hwn, ac mewn dim ond 15 mis, trawsgrifiwyd dros 360,000 o lofnodion yn ofalus.
Bellach, wrth i’r cyfnod trawsgrifio ddod i ben, mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr yn adolygu’r cofnodion i sicrhau cywirdeb cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar wefan Deiseb Heddwch Merched Cymru. Hyd yn hyn, mae mwy na 100,000 o enwau ar gael ar y wefan, gyda mwy yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd. Y nod yw cwblhau’r broses erbyn diwedd 2025.
Mae'r wefan sydd newydd ei lansio yn galluogi defnyddwyr i chwilio am enwau, lleoliadau penodol, a hyd yn oed hidlo canlyniadau fesul sir, ward gymunedol, rhif blwch, neu rif deiseb. Mae map yn darparu ffordd weledol o archwilio llofnodion o wahanol ardaloedd. Gall defnyddwyr hefyd weld llofnodion gwreiddiol mewn llawysgrifen, lawrlwytho copïau, a'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn hanes teuluol, treftadaeth leol, neu actifyddiaeth menywod, mae’r adnodd ar-lein hwn yn amhrisiadwy. Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl heb ymroddiad gwirfoddolwyr, y mae eu hymdrechion wedi sicrhau bod y darn pwysig hwn o hanes yn hygyrch i bawb.
Mae'r wefan yn cael ei diweddaru'n wythnosol, felly rydym yn annog y rhai sy'n chwilio am enwau penodol i ddychwelyd yn rheolaidd wrth i fwy o gofnodion gael eu hychwanegu.
I archwilio’r ddeiseb a gweld a gymerodd eich cyn-neiniau ran yn y mudiad hanesyddol hwn, ewch i https://deisebheddwch.llyfrgell.cymru/.
Categori: Newyddion