Cefais y fraint o gynrychioli'r Llyfrgell eto eleni yn y Brecwast Gweddi Seneddol. Mae'r digwyddiad arbennig hwn, sy'n cael ei fynychu gan aelodau o seneddau dros Ewrop, arweinyddion eglwysi a chapeli, a chynrychiolwyr nifer o fudiadau Cristnogol, yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar y dydd Iau cyntaf ar ôl Gŵyl Ddewi yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, gyda derbyniad yn y Senedd y noson gynt. Mae'r Llyfrgell yn darparu arddangosfa ar gyfer y ddau ddigwyddiad.
Thema'r Brecwast Gweddi eleni oedd "Gobaith i'r Genedl". Canolbwynt yr arddangosfa oedd Cwpan Nanteos. Mae union darddiad y Cwpan yn ddirgelwch mawr, ond ymddengys iddo ddod o Abaty Ystrad Fflur i feddiant teulu Powell Nanteos yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd. Yn unol â'r traddodiad, Cwpan Nanteos yw'r Greal Sanctaidd ei hun, y Cwpan yr yfodd Crist a'i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf. Ers y 19eg ganrif honnir bod grym iacháu goruwchnaturiol yn perthyn i'r Cwpan. Mae'r Cwpan yn parhau yn eiddo i deulu Powell ond yn cael ei arddangos yn barhaol yn y Llyfrgell.
Arddangoswyd hefyd dau Feibl o gasgliadau'r Llyfrgell. Un oedd ein copi gorau o Feibl 1588, sef yr argraffiad cyntaf o'r Beibl cyfan yn Gymraeg, a roddwyd gan ein Llywydd cyntaf, Syr John Williams, yn ogystal â miloedd o lyfrau a llawysgrifau eraill. Y llall oedd ffacsimili o Feibl y Brenin Iago, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1611. Argraffwyd deuddeg copi o'r ffacsimili mewn rhwymiad cain llynedd gan Wasg Prifysgol Rhydychen i ddathlu Coroni'r Brenin Siarl III, a defnyddiwyd y copi cyntaf yn y gwasanaeth yn Abaty Westminster. Roedd hwn yn cyd-fynd gyda Chroes Cymru, a grëwyd ar gyfer y Coroni a'i fenthyg i'w arddangos yn y Brecwast Gweddi.
Eleni mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn dathlu 150 o flynyddoedd ers ei sefydlu yng Nghymru, ac roedd band a chantorion y mudiad yn perfformio yn y derbyniad. Er mwyn nodi hyn dangoswyd nifer o eitemau cynnar yn Gymraeg a Saesneg o gasgliadau'r Llyfrgell yn ymwneud â'i hanes.
Ar ôl i mi roi cyflwyniad am yr arddangosfa, cyflwynwyd copi o lun Salem, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 2019, i Mark Drakeford wrth iddo ymddeol fel Prif Weinidog Cymru. Derbyniodd y Llyfrgell fel rhoddion set o gylchgronau cynnar oddi wrth Fyddin yr Iachawdwriaeth, llyfr gweddi newydd oddi wrth yr Eglwys yng Nghymru, set o dri DVD gyda'r teitl Welsh awakenings: the story of God's work in Wales, a chopïau Cymraeg a Saesneg o'r llyfryn newydd Gobaith i'r Genedl.
Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin
Categori: Erthygl