Mae arddangosfa barhaol ddiweddaraf y Llyfrgell, Heddychwyr, yn manylu ar hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru ym 1923. 390,296 o lofnodion gan fenywod Cymru i fenywod America. Nod y Ddeiseb oedd annog yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, gan obeithio atal erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf rhag digwydd eto. Roedd hyn yn adlewyrchu teimlad cyffredin yn y 1920au.
Am y tro cyntaf i arddangosfa yn y Llyfrgell, mae cyfrifiaduron pwrpasol ar gael i chwilio’r casgliad wedi’i ddigido. Mae pob llofnod, o fwy na 6500 o daflenni deiseb, wedi’i drawsgrifio gan wirfoddolwyr dros gyfnod 2024-2025 i greu platfform chwiliadwy. Mae'r gwaith cyfan i'w gael ar dudalen we Deiseb Heddwch Menywod Cymru ynghyd â'n hadnoddau Llyfrgell ddigidol eraill fel Trosedd a Chosb, Ewyllysiau, a Ymrwymiadau Priodas. Gellir cael mynediad at yr holl adnoddau hyn o gysur eich cartref.
Mae'r adnodd Deiseb Heddwch yn cynnig y gallu i chwilio yn ôl enw, cyfeiriad, sir a ward gymunedol. Mae map rhyngweithiol hefyd ar gael ar gyfer chwilio am siroedd a wardiau cymunedol. Rhowch gynnig arni eich hun ar hafan y Ddeiseb Heddwch!
Mae digido’r casgliad hwn nid yn unig wedi darparu mynediad pellach at ddeunyddiau’r Llyfrgell ond mae hefyd wedi lledaenu stori bwysig ar gyfer hanes menywod a hanes Cymru ar raddfa ryngwladol. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gatalogio’r casgliad hwn a’i baratoi ar gyfer digideiddio. Mae gweld lefel y diddordeb gan unigolion, yn lleol ac o bell, wedi bod yn fraint llwyr, yn enwedig gan y rhai sydd wedi llwyddo i ddod o hyd i'w cysylltiadau teuluol yng Nghymru trwy weld llofnodion eu perthnasau eu hunain. Yn anffodus, doeddwn i ddim mor ffodus â phobl eraill gan nad oedd cofnod o'm cyfeiriad cartref!
Mae'r llyfrgell yn parhau i ehangu ei hadnoddau digidol. Gallwch archwilio sefydliad Plaid Cymru ar ein llinell amser arlein, a bydd prosiect newydd yn coffáu 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan ar 21 Hydref 1966. Bydd y prosiect, sy'n rhedeg ar y cyd ag Archifau Morgannwg, yn gweld detholiad o eitemau o'n casgliadau print, archifol, sgrin a sain yn cael eu digideiddio a'u gwneud ar gael ar-lein yn 2026. Bydd y dudalen we hon yn uno'r eitemau wedi'u digideiddio ac yn cyfeirio at ddeunydd ychwanegol o ddiddordeb o gasgliadau'r Llyfrgell a chronfeydd eraill i amlygu ymhellach stori Aberfan a'i chymuned.
Categori: Erthygl
