Ysgolfeistr gyda diddordeb arbennig mewn cerddoriaeth, canu ac eisteddfodau oedd Ieuan Ddu (John Thomas, 1795-1871) ac roedd yn arloeswr ym Merthyr Tudful o ran canu corawl. Yn 1845 cyhoeddodd Y Caniedydd Cymreig, a oedd yn cynnwys 104 o alawon Cymreig, y llyfr caneuon rhad cyntaf i'w ddefnyddio ym myd canu corawl, ac mae copi ohono yn y Llyfrgell.
Mewn erthygl o’r enw ‘Recollections and Records No. XVIII’ yn y Merthyr Telegraph yn 1861 mae llenor dienw yn rhoi bywgraffiad o Ieuan, gan honni mai ef yn ‘bendant’ oedd y cyntaf i ddefnyddio cantorion benywaidd mewn eisteddfodau, sy’n ddadleuol, ond bu’n llwyddiannus iawn yn hyn o beth a chafodd llwyddiannau nodedig yn enwedig gyda Morfydd Glantaf, Ddriw Vach, a Eos Vach.
Roedd Eos Vach o ddiddordeb i mi wrth ymchwilio i’m llyfr Women in Welsh Coal Mining: Tip Girls at Work in a Men's World (Pen and Sword, 2023) oherwydd yn ôl yr un erthygl yn y Merthyr Telegraph, un o ferched y tipiau oedd hi. Yn y llyfr fe wnes olrhain hanes Eos Vach a darganfod mai Ann Cornow a aned ar 2 Mehefin 1822 ym Merthyr Tudful oedd hi mae’n debyg a’i bod wedi dechrau canu pan oedd hi tua 14 oed.
Roedd erthygl y Merthyr Telegraph yn rhoi’r manylion sut yr aeth ei rhieni ag Eos Vach at Ieuan i ganu a’i fod ef, ‘wedi’i swyno gan ei llais’, yn benderfynol o roi hyfforddiant cerddorol i ‘ferch fach y tipiau glo’ a dysgodd alawon Cymraeg iddi gan fod Saesneg ‘allan o’r cwestiwn.’ Fodd bynnag, roedd hyfforddi merched ‘mor ifanc, ac mor ddi-addysg ym mhopeth’ yn gryn ymdrech gan:
"nad oedd posibl eu haddysgu’n iawn, ac roedd y cyfan yn ymdrech er eu bod yn weddol fedrus. Y gwir yw, ar y pryd, roedd merched yn edrych ar wers Sol Fa fel y byddent ar gyfres o arwyddion a symiau algebra, a hyd yn oed pan fyddai merched yn fodlon cael eu haddysgu byddai’r rhieni'n gwrthod caniatáu hynny oni bai bod sŵn canmoliaeth a gwobrau’n tincial i’w clywed a byddai’r merched yn llithro’n ôl i'w hen arferion o ran arddull, ac yn anghofio dysgeidiaeth eu meistr, a’r rhieni’n barnu bod y cwbl yn ddiwerth a drud."

Mae agweddau’r rhieni yn ddealladwy. Gallai canu cystadleuol greu incwm defnyddiol i deuluoedd tlawd gan y byddai corau buddugol yn rhannu'r gwobrau a byddai unigolion yn cadw’u gwobrau. Roedd colli, fodd bynnag, yn aml yn golygu colli cyflog er mwyn mynychu cystadlaethau a chostau teithio, felly dim ond mewn cystadlaethau lleol yr ymddangosai llawer o’r cystadleuwyr – mae’r rhan fwyaf o ymddangosiadau Eos Vach wedi’u cyfyngu i’r Fenni a Chaerdydd.
Bron cyn gynted ag yr ymddangosodd Eos Vach, daeth yn boblogaidd iawn a’i hymddangosiad cyntaf y gellir ei olrhain oedd ym mis Rhagfyr 1836 yng Nghymdeithas Cymreigyddion y Fenni lle’r oedd y Llywydd, Syr Benjamin Hall (1802–1867), Barwn 1af Llanofer (awgrymir fod tŵr cloc Big Ben yn Llundain wedi’i enwi ar ei ôl) yn pryderu nad oedd gwobrau wedi'u trefnu ar gyfer y merched, 'pan ganfu nad oedd neb arall wedi cynnig dim i gantorion teg ei wlad, y deuai nodau mor swynol o felys o’u gwefusau,' ac fe roddodd ddwy fedal, un gwerth tair gini i'r gantores orau, ac un werth dwy gini am yr ail safle (roedd gini werth 21 swllt ar adeg pan oedd merched o oed Eos Vach yn ennill tua 6-12s yr wythnos yn y pyllau glo). Ar yr ymddangosiad cyntaf hwn y rhoddodd Hall yr enw barddol, Eos Vach iddi oherwydd ei thebygrwydd i'r soprano enwog, Eos Sweden (Jenny Lind (1820–1887)).
Yn ddiweddarach, rhoddodd Eos Vach ac eraill gyngerdd yng nghartref y Fonesig Charlotte Elizabeth Guest (1812–1895) a adnabyddir hefyd fel Arglwyddes Llanofer, sy’n enwog fel cyfieithydd print modern cyntaf Y Mabinogion (llenyddiaeth ryddiaith gynharaf Prydain). Yn ei dyddiadur ysgrifennodd Arglwyddes Llanofer, ‘Hydref 27 [1837] – gyda’r hwyr cawsom gyngerdd bach. Daeth Eos Vach (merch fach o Ferthyr) i ganu, a daeth â Davis, telynor, i gyfeilio iddi.’ Aiff ymlaen i nodi fod Ioan Tegid (1792–1852) wedi rhyfeddu cymaint at ganu Eos Vach nes iddo gyfansoddi englyn yn ei hanrhydeddu yn y fan a’r lle.
Ym mis Hydref 1838 daeth gyrfa Eos Vach i ben yn sydyn pan oedd hi a’i chydweithwyr yn teithio ar goets y Mountaineer o Ferthyr a gwyrodd yn sydyn ger gwaelod allt serth yn Llanelli, gan eu bwrw i’r llawr ‘gyda’r fath nerth fel bod Eos Fach yn anymwybodol am beth amser wedi hynny ac mae’n parhau i fod yn ddifrifol wael yn y Fenni'.
Gwellodd, a blwyddyn yn ddiweddarach mae'n ymddangos iddi briodi oherwydd o'r dyddiad hwn cyfeirir ati'n aml fel Mrs Ann Rees. Tyfodd ei henwogrwydd, ac erbyn 1849 roedd hi'n brif atyniad cyngherddau gyda geiriau fel 'yr enwog' wrth ei henw ond o'r 1850au ymlaen rhoddwyd yr enw barddol Eos Vach/Fach i sawl merch ond nid yw’n ymddangos mai Ann Cornow/Rees oedd yr un ohonynt.
Gyda dim ond ychydig o wybodaeth ar gael am fywydau menywod a merched tipiau Cymru, braf yw cael cipolwg ar fywyd Eos Vach gyda’i halawon Cymreig syml yn llifo o’i ‘gwddf amrwd.’
Norena Shopland
Categori: Erthygl