Rwy’n berson sy’n hoffi ymchwilio a dysgu ffeithiau newydd a diddordol, felly roedd yn bleser o’r mwyaf cael fy mhenodi ar secondiad i fy swydd bresennol, sef Swyddog Prosiect Bywgraffiadur i Blant. Ym mis Medi llynedd derbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru nawdd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno prosiect a fyddai’n cynhyrchu bywgraffiadur i gynulleidfa iau, a dyma ychydig o gefndir i’r cynllun.
Prif nod y prosiect yw addasu rhannau o gynnwys Y Bywgraffiadur Cymreig, er mwyn creu erthyglau sy’n haws eu deall a’u defnyddio gan blant. Mae’r gwaith yma’n cynnwys cwtogi a symleiddio bywgraffiadau ar gyfer 100 o Gymry blaenllaw, yn Gymraeg a Saesneg, ac y mae amodau’r grant yn mynnu fod o leiaf 50% ohonynt yn fenywod, a 10% o’r Cymry yn hanu o grwpiau lleiafrifol tangynrychioledig, er mwyn sicrhau cydraddoldeb ac amrywedd.
Yn ystod y tri mis diwethaf bum wrthi yn dethol Cymry blaenllaw y credaf eu bod yn berthnasol i addysg a diddordebau defnyddwyr ifanc, a chreu crynodeb o uchafbwyntiau gyrfaoedd a bywydau’r unigolion hynny. Wrth gwrs, mae’n amhosib rhagweld yn union pwy fydd galw amdanynt, ond mae’r rhestr yn amrywiaeth o alwedigaethau, cefndiroedd, rhyw, cyfnodau a rhanbarthau. Mae’r gwaith yn gallu bod yn heriol iawn, gan fod mwyafrif helaeth o’r 5,000 o erthyglau yn Y Bywgraffiadur Cymreig yn ddynion croenwyn. Felly roedd rhaid i mi chwilota’n ddiwyd i ddarganfod menywod a’r unigolion o leiafrifoedd tangynrychioledig sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at feysydd amrywiol yng Nghymru. Serch hynny, gyda chymorth staff Y Bywgraffiadur Cymreig rydym ar y trywydd iawn i gyflawni amcanion y prosiect.
Er taw addasu a symleiddio cynnwys y Bywgraffiadur yw fy mhrif orchwyl, mae yna ail ran i’r cynllun. Cytunwyd y byddwn yn gwahodd ysgolion o bob rhan o Gymru i gydweithio gyda’r prosiect wrth gynhyrchu ffilmiau byrion ar Gymry nodedig o’u hardaloedd nhw. Dewisiwyd deg ysgol i gynrychioli gwahanol ranbarthau ar hyd a lled Cymru, ac aethpwyd ati i gydweithio gyda nhw gan wirio eu bod â’r gallu technegol a’r offer angenrheidiol i gyflawni’r gwaith.
Disgwylir y bydd y ffilmiau yn cael eu cwblhau erbyn gwyliau’r haf, yn barod i’w cyfieithu a’u hisdeitlo.
Bydd yr erthyglau a’r ffilmiau yn cael eu gosod ar wefan sydd wrthi yn cael ei chynhyrchu’n arbennig ar gyfer y prosiect, a gobeithiwn y caiff hon fynd yn fyw ym mis Hydref eleni: enwogion.cymru.
Betsan Sion
Swyddog Prosiect Bywgraffiadur i Blant
Categori: Erthygl