Beth yw eich hoff eitem neu gasgliad yn yr archifau? Holwyd staff Archifau a Llawysgrifau LlGC!
David Moore (Archifydd):
Fel archifydd, fy hoff archif yn aml yw’r un bydda i yn ei chatalogio nesaf. Ar hyn o bryd, gallai hynny fod yn ychwanegiad at bapurau’r arlunydd R.L. Gapper, a fu’n flaenllaw mewn eisteddfodau a maes celf gyhoeddus yng Nghymru’r ugeinfed ganrif, neu bapurau John Carnac, a fu’n arwain byddinoedd yr East India Company wrth i’r cwmni arfer grym masnachol, gwleidyddol a milwrol cynyddol yn India yn y 1760au.
Rob Phillips (Archifydd, Yr Archif Wleidyddol Gymreig):
Fy hoff achif yn y casgliadau gwleidyddol yw ein harchif o effemera ymgyrchu gwleidyddol. Mae’r 200 bocs yn cynwys deunydd ers 1837, er bod y daliadau ers yr 1980au yn llawer mwy cynhwysfawr na’r cyfnod cyn hynny. Mae’n cynnwys posteri, rosettes a thaflenni etholiad rhai o gewri gwleidyddiaeth Cymru; pobl fel David Lloyd George, Jim Griffiths, Aneurin Bevan, Beata Brookes, Ann Clwyd a Gwynfor Evans.
Mae’n gasgliad lliwgar, bywiog ac yn cael ei greu gan degau o wirfoddolwyr ar draws Cymru sy’n casglu’r deunydd etholiad maen nhw’n derbyn a’i postio atom pob etholiad. Mae’n cynnwys straeon ymgyrchoedd eiconig fel Isetholiad Caerfyrddin 1966, Etholiad Cyffredinol 1997 a’r etholiadau cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, referenda datganoli, yr Undeb Ewropeaidd a hyd yn oed cau tafarndai ar y Sul. Mae’n gasgliad democraitaidd iawn – yn cynnwys lleisiau grwpaiau nad ydynt mor amlwg yn ein casgliadau gwleidyddol eraill a’r rhai a gollodd etholiadau ynghyd a’r rhai a ennillodd.
Rydym dal yn ychwanegu at y casgliad ac er bod y rhan fwyaf o’r 200 bocs ar gael dim ond yn yr adeilad, rydym wedi digido y rhan fwyaf o daflenni cyn 1979 ac mae nhw ar gael trw’r dolenni ar y catalog i’w gweld o bell.
Lucie Hobson (Archifydd Cynorthwyol):
Mae cymaint o eitemau rhyfeddol yn ein harchifau mae hi'n anodd cael ffefryn, ond rhywbeth sydd bob amser yn dod â gwên i'm hwyneb yw'r addurniad o lythyrau swomorffig yn y copi hwn o'r 12fed ganrif o'r traethawd gwyddonol De natura rerum gan yr ysgrifenwr enwog canoloesol Bede. Dim ond ychydig ddail o'r copi Cymreig hwn o'r testun sydd wedi goroesi, ond maent yn cadw enghraifft brin o'r math hwn o addurn o Gymru. Mae bob amser yn bleser dod o hyd i'r creadur bach hwn, tebyg i ddraig, yn sbecian allan o'r memrwn, fel y mae wedi'i wneud ers yr 800 mlynedd diwethaf.
Robert Evans (Archifydd Cynorthwyol, Derbyn Digidanedig):
Mae'n rhaid mai Archif Harry Secombe yw’r casgliad y gwnes i fwynhau gweithio arno fwyaf. Mae’n cynnwys papurau personol a phethau cofiadwy proffesiynol sy’n dogfennu gyrfa un o ddiddanwyr mwyaf adnabyddus Cymru.
Cadwodd lyfrau lloffion sy’n cofnodi ei flynyddoedd mwyaf cynhyrchiol yn y byd adloniant (1946-1969). Mae yna gasgliad helaeth o sgriptiau sioeau teledu, radio a theatr gan gynnwys The Goon Show, Pickwick, a The Harry Secombe Show, ynghyd â channoedd o raglenni o cynyrchiadau llwyfan yr oedd wedi perfformio ynddynt. Un o nodweddion y casgliad yw’r cartwnau a'i frasluniau sydd i'w weld drwy'r papurau.
I mi, gellir crynhoi Syr Harry Secombe mewn un llythyr a anfonwyd iddo gan y diddanwr Affricanaidd Americanaidd Sammy Davis Jr., lle mae'n diolch i Harry am y caredigrwydd a ddangoswyd tuag ato yn ystod ei daith o’r DU yn 1961.
Rhys Jones (Curadur Llawysgrifau Cynorthwyol):
Fy hoff archif i yw llawysgrifau a phapurau’r bardd, hynafiaethydd a ffugiwr Edward Williams ('Iolo Morganwg', 1747-1826). Mae’n gasgliad amrywiol iawn, yn adlewyrchu ei ddiddordebau eang, ond mi oedd hefyd yn aruthrol o anniben a dryslyd (‘Carnedd ofnadwy o fân beprynnau’ oedd ei ddisgrifiad o ei hun). Ar ôl ymdrechion ei deulu i drefnu’r cynnwys cafodd yr archif ei gatalogio gan nifer o archifyddion y Llyfrgell dros sawl degawd. Cefais y fraint o gatalogio’r bocsys olaf, gan gynnwys llawysgrifau cerddorol, dyddiaduron taith, nodiadau amaethyddol, barddoniaeth, a nodiadau ar farddas, hanes, crefydd a llenyddiaeth.
Miidong P. Daloeng (Swyddog Prosiect Dad-goloneiddio Archifau):
Un o’r pethau rhyfeddol wnes i ddarganfod yn yr archif yw llawysgrif wedi’i rhwymo â lledr a phren yn Ge’ez dilys (testun Ethiopia) o’r Weddase Marjan (Mawl i Fair); salmydd Ethiopaidd. Des i ar ei draws wrth adolygu rhai disgrifiadau archifol yn ein catalog wedi rhestru o dan “ lawysgrif ddwyreiniol”. Dyma un eitem na fyddwn i erioed wedi dychmygu dod ar ei thraws yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac roedd y darganfyddiad hwn yn arwyddocaol oherwydd fy niddordeb mewn sgriptiau a chariad at ieithoedd. Fe wnaeth gadarnhau ymhellach fy marn fod archifau'n ddiderfyn, a'u posibiliadau'n ddiddiwedd.
Rhys Davies (Archifydd Cynorthwyol):
Wrth feddwl am fy hoff gasgliad, yr un sy’n dod i’r meddwl yn ystod Wythnos Archwilio eich Archif yw Noyadd Trefawr Estate Records, a hynny oherwydd pan yn fyfyriwr, mi ddes i ar draws gweithred a gyfeiriai at fy nghartref oedd yn dyddio i 1583 ymhlith y casgliad. Mae fy chwilfrydedd tuag at archifau wedi parhau ers hynny. Gofynnwch i fi’r wythnos nesaf ac mae’n siŵr y cewch i ateb gwahanol!
Emma Towner (Cynorthwydd Archifau, Casgliad Sgriptiau BBC):
Cyn i mi ddechrau fy ngradd Meistr mewn Archifau, roedd angen profiad ymarferol arnaf gydag archifau eu hunain. Cefnogodd cydweithiwr annwyl Dr Michael 'Mick' Pearson fi a threfnodd i mi gael y profiad. Roeddwn i'n gweithio ar gasgliad Brith Gof a fy nhasg oedd helpu adnabod beth oedd yn y casgliad. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach bûm ar secondiad yn yr adran Archifau a bu’n cynorthwyo gyda chatalogio’r casgliad. Rwy’n gysylltiedig â’r casgliad yma yn bersonol gan fod o wedi agor drws i mi i fyd archifau. Mae hefyd yn gasgliad hynod o ddiddorol gan ei fod yn archif amlgyfrwng sy’n cynnwys deunydd clyweledol ac ysgrifenedig a baneri wedi’u gwneud o ffabrig. Fe wnaeth ysgogi perfformiad gan fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth dan arweiniad Dr Louise Ritchie a berfformiodd eu fersiwn eu hunain o PAX, a gwahoddwyd staff y llyfrgell i gyfrannu at gapsiwl amser lle buom yn ysgrifennu llythyrau at ein dyfodol.
Sian Bowyer (Archifydd Cynorthwyol, Derbynion):
Mae gymaint o bethau gallwn eu dewis am wahanol resymau. Un o’r eitemau mwyaf annisgwyl imi ddarganfod oedd cudyn gwallt yr ymprydferch Sarah Jacob (1857-1869), gyda chyfrol o doriadau papur newydd am yr achos ymhlith casgliad D. Roy Evans. Mae briff ar gyfer yr amddiffyniad yn yr achos yn erbyn ei rhieni hefyd ar gadw yn LlGC.
Meriel Ralphs (Cynorthwydd Archifau):
Archif defnyddiol ’rwy’n troi ato dro ar ôl tro yw Papurau David Thomas (Aberystwyth), cyn arolygydd ysgolion yng Nghymru. Dyma berl cudd o ran gwybodaeth llên gwerin, yn cynnwys traddodiadau ac arferion, chwedlau, diarhebion a hen ddywediadau, argoelion ac ofergoelion, storiâu ag atgofion am hanes cymeriadau lleol i enwi ond rhai yn y drysorfa amhrisiadwy hon. A pham y diddordeb y gofynnwch? Gan fod rhan o’r cynnwys wedi ei ysgrifennu gan blant. Dyma hel atgofion am brosiect cywaith ysgol tebyg bûm ynghlwm ynddo pan oeddwn i'n blentyn ysgol.
Categori: Erthygl