Symud i'r prif gynnwys
Prosiect Addysg - Arloesi a Chydweithio

26 Medi 2025

Mae’r Llyfrgell yn yn falch i gyhoeddi ein bod ymhlith y prosiectau llwyddiannus y bydd yn derbyn £5,000 gan Adnodd i archwilio ffyrdd o wella sgiliau llythrennedd dysgwyr. Cafodd Adnodd, corff hyd-braich a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio, cydlynu a chomisiynu adnoddau addysgol dwyieithog, 64 o geisiadau i’r Gronfa Arloesi a Chydweithio, a chafodd y rhain eu hasesu gan banel o 12 arbenigwr.

Rydym yn y broses o ddatblygu “Dihangfan Llyfr-Gell” – profiad digidol ar ffurf Escape Room ar gyfer dysgwyr 13–15 oed. Yn ystod yr haf, daeth tri aelod o dîm Jengyd (athrawon sy’n arbenigo mewn adeiladu Escape Rooms yn yr iaith Gymraeg) i ymchwilio casgliadau’r Llyfrgell. Ar ôl archwilio sawl thema, dewiswyd hanes boddi Cwm Tryweryn fel sail i’r posau.

Mae’r posau’n seiliedig ar eitemau o’r casgliad – fideos, ffotograffau, mapiau, papurau newydd, dogfennau archif, a stori fer gan Caryl Lewis. Maent yn cael eu trosi’n ddigidol ar hyn o bryd, gyda dysgwyr o ysgolion lleol yn dod i’w treialu fis nesaf.

Darllen datganiad

Categori: Newyddion