Tua 25 mlynedd wedi’i chynhyrchu, mae’r ffilm Oed yr Addewid ar y sgrin fawr unwaith eto. Gyda llu o sêr Cymraeg a themâu mor berthnasol ag erioed, dyma ychydig fwy o gefndir i'r broses o adfywio’r ffilm o’r archif.
Mae’n fis Mawrth 1997 ac, yn dilyn deunaw mlynedd o reolaeth Dorïaid, mae Prydain yn cyrraedd croesffordd wleidyddol. Wrth i William Davies gerdded o’i dŷ un bore, mae’n rhoi cynllun anobeithiol a hurt ar waith a fydd yn ennill y blaen ar y system - yn ei dyb ef. Ond aiff pethau o chwith wrth i’r hen ddyn sylweddoli ei fod wedi gwneud camgymeriad ofnadwy. Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosáu, mae William Davies a’i deulu’n dysgu ambell i wirionedd – am ei gilydd, ac am eu gwir deimladau am eu cartref.
Awdur y ffilm yw Emlyn Williams, fel ei chyfarwyddwr a sgriptiwr. Yn seiliedig ar brofiadau personol, mae’r ffilm wedi’i gwreiddio yng nghymunedau’r gogledd-orllewin, a thirwedd Pen Llŷn yn gymeriad mud ond pwerus drwyddi.
Cafodd y ffilm ei dangosiad cyntaf yng Ngwyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd yn 2000, gyda dangosiadau sinema eraill yn dilyn yng Nghymru yn gynnar yn 2001, a nifer o wyliau ffilmiau yn ei dangos hi yn Ewrop, gan gynnwys Douarnenez, Las Palmas, a Biarritz. Dangoswyd y ffilm ar S4C yn Ebrill 2001, ac enillodd nifer o wobrau BAFTA Cymru yn 2002, gan gynnwys Actor Gorau, Sgript Gorau a Ffilm Gorau.
Pan daeth cyfle i'r Archif Sgrin a Sain ddewis ffilm i'w digido ar gyfer sinemâu, roedd dipyn o waith gwylio ac ymchwil i'w gwneud. Roedd nifer o bethau i'w hystyried, yn aml o safbwynt dangoswyr ffilmiau: hyd y ffilm, perthnasedd i'r gynulleidfa, safon. Hefyd, pethau mwy ymarferol, fel pa ddeunydd oedd ar gael i'w ddigido a beth oedd sefyllfa hawliau’r ffilm.
Yn y pendraw, Oed yr Addewid oedd ein dewis ni, a’r elfennau ffilm gwreiddiol yn cael eu gyrru’n allanol i’w sganio gan R3Store a’u hadfer gan Gorilla. Er fod modd gwneud y fath waith yn fewnol, ar y pryd oherwydd gofynion enfawr digido’r Archif Ddarlledu, bu’n rhaid trefnu i’w wneud yn allanol.
Mae hi’n ffilm sy’n hynod berthnasol ac yn apelgar iawn, yn sicr efallai i gynulleidfaoedd sy’n gyfarwydd â chelfyddyd sgrin Cymraeg. Ymhlith cast y ffilm mae rhai gwir fawrion, gyda bron pob un wyneb yn gyfarwydd i unrhyw un sydd â’r profiad lleiaf o wylio teledu a ffilmiau Cymraeg.
Yn ganolbwynt i'r ffilm yw mae Stewart Jones, sy’n cynnig perfformiad stöic a chynnil fel ‘r hen William Davies, cyn-flaenor a sosialydd sy’n ceisio cael y gorau o system wleidyddol sydd wedi – ac a fydd yn parhau - i’w dwyllo.
Yr un mor ganolog i'r ffilm yw ei blant: Maureen, Alun a John, sy’n cael eu portreadu gan Gwenno Elis Hodgkins, Arwel Gruffydd a Gwyn Vaughan. Mae’r tri yn gymeriadau amrywiol sydd hefyd yn cynrychioli llwybrau cyffredin i drigolion cymunedau gwledig.

Mae Maureen wedi symud mor bell â ‘dre’ yn unig – wedi priodi, magu plant a gofalu am ei rhieni a’i chymdogion gydol ei hoes. I’r gwrthwyneb, mae John wedi ffoi tua’r de a gwneud enw i'w hun ym myd busnes, a phrin yn gyrru gair gartref. Mae Alun, aelod creadigol y teulu, hefyd wedi gadael, ac yn cadw mewn cysylltiad – weithiau. Mae Alun hefyd yn gaeth i alcohol, sefyllfa sy’n dirywio wrth i'r ffilm fynd yn ei blaen.
Serch unrhyw wendidau sydd gan gymeriadau’r ffilm, ‘does ddim beirniadaeth lwyr o’r un ohonyn nhw yma, gan gynnwys cymeriadau cefndirol. Er enghraifft, yr un nyrs ag sy’n rhoi slap i law hen ffrind i William, Robat (Phylip Hughes), sydd, mewn olygfa wahanol, yn rhoi sws bach ar ei ben hefyd. Er fod Bodlondeb yn gartref truenus i'w drigolion, mae’r staff i gyd yn gwneud eu gorau – er unrhyw fethiannau – o dan eu hamgylchiadau personol. Dyma ffilm sy’n dawel bach yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n deall taw system sydd yn bennaf ar fai yma, nid o reidrwydd unigolion.
Nid William yw’r unig un sydd wedi’i fethu gan systemau gwleidyddol a chymdeithasol chwaith. Mae Maureen yn ein hatgoffa ni o’r anghydbwysedd sydd i'w gael rhwng disgwyliadau teuluol ar fenywod o gymharu â dynion. Mae lot fawr o stori Maureen yn digwydd cyn i'r ffilm ddechrau, gydag un olygfa arbennig o deimladwy rhyngddi hi a Catrin Ann (Morfudd Hughes) yn egluro’r cyfan.

Ond gan Alun mae’r cynnydd mwyaf yn ystod y ffilm, wrth iddo ara’ bach orfod ail-gydio yn ei berthynas â’i dad. Mae yno olygfa lle mae’r ddau yn wynebu’i gilydd, ac adlewyrchiad un bron yn uno â chorff y llall, mewn enghraifft o gelfyddyd cynnil y ffilm.
Mae adfywio Oed yr Addewid wedi digwydd yn bennaf diolch i gefnogaeth Canolfan Ffilm Cymru (FHW), corff sydd yn cefnogi dangoswyr ffilmiau o bob math ar draws y wlad, ac yn pwysleisio pwysigrwydd ffilm Cymreig, ffilm annibynnol, a ffilmiau archif o bob math.
Mae cefnogaeth FHW wedi’n galluogi ni i ddigido’r ffilm o’r newydd, ond hefyd i gomisiynu is-deitlau disgrifiadol newydd ar ei chyfer hi, yn Saesneg ac yn Gymraeg, er mwyn ei gwneud hi’n fwy hygyrch nag erioed. Mae sicrhau bod ffilmiau fel Oed yr Addewid ar gael i gynulleidfaoedd o bob math yn ffordd hynod bwysig o ddathlu treftadaeth ffilm Cymru. Mae hefyd yn ffordd o ddod â themâu a phynciau byd-go-iawn yn agosach at bobl, gan greu cyfleoedd pwysig i gymunedau gael eu trin a’u trafod gyda’i gilydd.
Bydd y ffilm yn dangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Ebrill 29 a 30, gyda dangosiadau hefyd yn Galeri, Caernarfon, a Theatr Gwaun, Abergwaun ym mis Mai; ac eraill i'w dilyn yn fuan. Gallwch weld mwy am y ffilm ar wefan FHW, gan gynnwys adolygiad treiddgar gan Diffwys Criafol.
Categori: Erthygl