Symud i'r prif gynnwys
Image of Peter Lord

25 Tachwedd 2024

Yn ddiweddar agorodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei harddangosfa newydd, ‘Dim Celf Gymreig.  Arddangosfa yw hon gyda dros 250 o weithiau celf sy'n herio'r myth nad oedd y fath beth â chelf Gymreig yn ein hanes. Yr hanesydd celf Peter Lord yw curadur yr arddangosfa, ond i'r rhai sy'n anghyfarwydd a'r enw dyma gyfle i ddod i'w adnabod a chlywed mwy am yr arddangosfa. 

Dywedwch ychydig wrthym am eich hanes gyda chelf Gymreig.

Dechreuais i weithio ar hanes celf Gymreig yn 1985, sydd dipyn yn ôl nawr! Cyn hynny, roeddwn i'n arlunydd ac yn gerflunydd. Y rheswm i mi droi at hanes celf Cymru oedd oherwydd i mi weld anghyfartaledd ofnadwy ymhlith cydweithwyr, boed yn artistiaid neu’n gerflunwyr a oedd yn gweithio yng Nghymru ar y pryd, yn enwedig artistiaid ifanc. Doedd ganddyn nhw ddim gwybodaeth o gwbl am hanes celfyddyd Gymreig gan nad oedd adnoddau ar gael. Roedd eu haddysg celf ‘mond ar hanes celf Saesneg ac roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn datrys y broblem honno a chreu adnoddau ar gyfer ein hartistiaid ifanc.

Sut oedd y profiad o baratoi ar gyfer yr arddangosfa hon?

Roedd paratoi'r arddangosfa hon yn eithaf anodd mewn rhai ffyrdd oherwydd i ni ei gwblhau mewn blwyddyn, fel arfer byddech chi yn cael cwpl o flynyddoedd i wneud arddangosfa o'r maint hwn.  Mae’n arddangosfa fawr iawn gyda dros 250 o weithiau’n cael eu harddangos.  Er ei fod ychydig yn haws oherwydd mae tua 150 o weithiau sy’n cael eu harddangos wedi dod o fy nghasgliad personol a thua 100 o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Felly nid oedd yn rhaid i ni fynd drwy’r broses arferol o ddod o hyd i eitemau mewn orielau ar hyd a lled Cymru ac weithiau yn Lloegr.  Roedd y broses yn un gyffrous er ei bod yn anodd dychmygu sut i drawsnewid y llun bach a wnes i’n wreiddiol a’i throi mewn i arddangosfa gan lenwi oriel enfawr a hardd, fel Oriel Gregynog.

Pa mor bwysig yw'r arddangosfa hon?

Yr hyn yr oeddwn yn ceisio gwneud gyda’r arddangosfa yma oedd creu model. Model ar gyfer oriel genedlaethol ar gyfer celf hanesyddol Gymreig sydd ddim gyda ni ar hyn o bryd. Rhywbeth sydd yn drist iawn i ni yng Nghymru, ac mae'n ein gwneud yn eithaf unigryw yn Ewrop! Mae gan bron bob gwlad, hyd yn oed cenhedloedd bach, oriel o'r math hwn. Nid yw wedi bod yn bosibl gwneud hynny yng Nghymru hyd yn hyn, felly mae hwn yn fodel o’r hyn y gallem ei wneud a chredaf fod y potensial yn enfawr. Felly dyna pam rwy’n meddwl bod yr arddangosfa hon yn bwysig oherwydd mae’n dangos potensial yr hyn y gallem ei gael ac mae’n dangos cyfoeth y diwylliant gweledol sydd gennym yma yng Nghymru yr wyf yn mawr obeithio y byddwn yn gallu ei ddangos rywbryd yn y dyfodol.

Pam oeddech chi'n teimlo mai nawr oedd yr amser iawn ar gyfer arddangosfa o'r fath?

Teimlaf ei bod yn briodol inni gael yr arddangosfa o'r math hwn yn awr oherwydd teimlaf fod y sylfeini wedi'i gwneud yn awr. Sylfaen ymchwil yn hanes celf Cymru. Nid fi yn unig sy’n ysgrifennu am hanes ein celf ar hyn o bryd, mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae llawer o gwestiynau cyfoes i’w gofyn ac er na fydd yr arddangosfa’n gallu ateb popeth, rwyf yn credu y bydd yn sicr yn creu trafodaeth.

Pa ddarn sy'n crynhoi neges yr arddangosfa?

Rwy’n meddwl bod ‘Tŷ Haf’ gan Peter Davies, a oedd yn un o sylfaenwyr Grŵp Beca, yn crynhoi’r hyn rwyf am ei weld yn digwydd gyda’r arddangosfa hon, sef i herio pobl. Gwneud i bobl feddwl pwy ydyn ni, pwy oedden ni a phwy rydyn ni am fod yn y dyfodol. Cafodd y llun yma ei chreu yn yr 1980au.  Cyfnod anodd a llawn straen, yn enwedig yng Nghymru. Roeddwn i yno ac roeddwn yn rhan o hynny, ac fe gafodd ddylanwad aruthrol arnaf. Mae’r llun hwn felly yn crynhoi i mi'r hyn y mae’r arddangosfa gyfan yn ceisio ei wneud, sef gofyn cwestiynau amdanom ni ein hun, am ein perthynas â chenhedloedd eraill ac i ble yr awn yn y dyfodol.

Categori: Erthygl