Symud i'r prif gynnwys
Draig wlân ar glawr 'The Welsh Woolen Industry' gan Elsie Price

25 Tachwedd 2024

Yr amser yma o'r flwyddyn bydd llawer ohonom yn chwilio am y siwmperi gwlanog a'r carthenni i guro'r oerfel. Mae Cymru’n adnabyddus am ei diwydiant gwlân ac ar un adeg byddai’r rhan fwyaf o drefi wedi bod â’u melin eu hunain a hyd yn oed eu patrymau eu hunain yn unigryw i bob ardal neu sir.

Yn 2022 daeth archifau’r Llyfrgell i dderbyn cyfrol unigryw yn archwilio hanes melinau gwlân Cymru. Mae ‘The Welsh Woollen Industry’ a ysgrifennwyd ym 1969 gan Elise Price yn olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru gan gynnwys ffotograffau a hanesion a hefyd yn cynnwys samplau sy’n dangos y gwahanol wehyddion ac arddulliau a gynhyrchir gan wahanol felinau ledled Cymru. 

Credir bod un o'r cyfeiriadau cynharaf at wlân a gwehyddu i'w gael yng Nghyfreithiau Hywel Dda, y set o gyfreithiau brodorol Cymreig a godeiddiwyd gan Hywel Dda, brenin Deheubarth yn y 10fed ganrif. Roedd amgylchedd a thywydd garw ucheldiroedd Cymru yn fwy addas i ffermio defaid nag i dyfu cnydau, a daeth y sgil o nyddu a gwehyddu gwlân yn un o’i diwydiannau bythynnod mwyaf blaenllaw.

Yn y cyfnod canoloesol roedd ehangu’r mynachlogydd Sistersaidd yn hwyluso’r gwaith o gynhyrchu a chludo gwlân dros bellteroedd hwy, wrth i draciau a dorrwyd gan y mynachod gael eu defnyddio i fynd â gwlân i’r farchnad gan geffylau pwn yn ogystal ag i gysylltu rhwydweithiau Sistersaidd. Mae un llwybr o’r fath, sef ‘Llwybr y Mynach’, llwybr canoloesol sy’n cysylltu abatai Cwm-Hir (ger Llandrindod, Powys) ac Ystrad Fflur (ger Pontrhydfendigaid, Ceredigion) o’r ddeuddegfed ganrif, yn parhau i fod yn llwybr cyhoeddus poblogaidd hyd heddiw.

Dros y canrifoedd, daeth cynhyrchu gwlân yn fwy mecanyddol, gyda chyflwyniad y gwŷdd llorweddol a’r melinau bannu wedi’u pweru gan ddŵr a oedd yn gallu trin meintiau mwy o wlân, gan symud cynhyrchiant oddi wrth ei wreiddiau yn y diwydiant bythynnod a lleddfu’r broses lafurddwys o lanhau, cribo, a nyddu. Mae llawer o ystadau Cymru yn y cyfnod modern cynnar yn rhestru melinau ymhlith eu hasedau.

Yn y 18fed a'r 19eg ganrif gwelodd y Chwyldro Diwydiannol gynnydd aruthrol yn y gwaith o adeiladu ffatrïoedd Cymreig, gydag Elsie yn nodi i rai o'r ffatrïoedd gwlân cyntaf gael eu hadeiladu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1780, Machynlleth ym 1794, a Dolgellau yn 1806. Cyflwynwyd yr injan gardio ar ddechrau'r 19eg ganrif oedd hefyd yn gyfrifol am brosesu gwlân yn gyflymach. Parhaodd llawer o ffatrïoedd i gynhyrchu nwyddau gwlân ymhell i'r 20fed ganrif, ond gwelodd datblygiad mathau eraill o decstilau modern, yn enwedig deunyddiau synthetig, gostyngiad ym mhoblogrwydd torfol gwlân wrth i gau ffatrïoedd wthio'r costau cynhyrchu i fyny.

Ond fel yr ysgrifennodd Elsie, mae nwyddau gwlân yn ‘another facet of the unique character of Wales’, a heddiw mae gwlân Cymreig wrth gwrs yn parhau i gael ei nyddu, ei wau, ei ffeltio a’i wisgo fel deunydd amlbwrpas, gyda’i hanes hir wedi’i gadw yn yr archifau.

Lucie Hobson

Archifau a Llawysgrifau LlGC

Categori: Erthygl