Symud i'r prif gynnwys
On the left of this still image from the film 'Bureaucats' is an apple. Sniffing at the apple, from the right, are two plasticine cats, of similar size to the apple, one in the foreground that's pink, and one in the background that's blue.

Ysgrifennwyd gan Guy Edmonds

13 Mawrth 2025

Bob hydref mae archifau ffilm ledled y byd yn rhoi sylw i'w casgliadau o ffilmiau cartref mewn dathliad ar y cyd o wneud ffilmiau domestig a elwir yn Ddiwrnod Ffilmiau Cartref neu ‘Home Movie Day’. Yn awr, mae ymdrech debyg wedi dynodi diwrnod yn ystod y gwanwyn i gael ei alw'n Ddiwrnod Ffilmiau Amatur, neu ‘Amateur Movie Day’, a hynny er mwyn canolbwyntio sylw ar y mathau hynny o wneud ffilmiau nad oeddent yn broffesiynol ond lle roedd y cynnyrch yn dal wedi’i fwriadu ar gyfer cael ei arddangos yn gyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys ffilmiau a wnaed gan unigolion, grwpiau o ffrindiau neu aelodau o glybiau ffilmiau amatur lleol. Ffynnodd y mudiad clybiau ffilmiau yng nghanol yr ugeinfed ganrif yn sgil gwell mynediad at offer a gwybodaeth am wneud ffilmiau a datblygiad gweithgareddau hamdden wedi'u trefnu.  

Yn ei llyfr yn 1932, soniodd Marjorie Burgess am ddwy gymdeithas o'r fath oedd yn gweithredu yng Nghymru, sef Cymdeithas Ffilmiau Llandudno a Chlwb Ffilmiau Amatur Llandrillo-yn-Rhos. Er nas gwyddom am unrhyw ffilmiau gan y clybiau hyn sydd wedi goroesi, mae gwybodaeth ffilmograffig am rai o ffilmiau Llandrillo-yn-Rhos wedi cael ei chasglu a'i chyhoeddi gan y tîm sy’n gyfrifol am Ddiwrnod Ffilmiau Amatur ar wefan Amateur Cinema.

Roedd gwneud ffilmiau mewn grwpiau yn golygu bod modd rhannu cost deunyddiau ac roedd yn weithgaredd cymunedol pleserus. Gallai ffilmiau o'r fath efelychu unrhyw un o genres gwneud ffilmiau proffesiynol ond, boed yn ffilm ddogfen neu’n waith ffuglen, mae gan ffilmiau a wnaed mewn ffordd gyfranogol gan grwpiau o selogion rinwedd arbennig sy’n haeddu cael ei gwerthfawrogi yn ei hawl ei hun. Er mai'r demtasiwn, o bosibl, fyddai eu barnu mewn perthynas â'r ffurfiau ffilm proffesiynol y maent yn eu hefelychu, mae'n gwneud mwy o synnwyr i’w hystyried fel cofnod o weithgaredd cymunedol, er ei fod wedi’i adlewyrchu yn nrych y cyfryngau torfol.

Yn 1964, dangosodd ITV News eitem ynghylch un grŵp ffilmiau amatur o'r fath. Mae'n dangos aelodau yn gwneud ffilm yn arddull James Bond, sef From Wrexham with Love, flwyddyn yn unig ar ôl i'r ail ffilm Bond, From Russia with Love, ymddangos. Roedd yn deyrnged leol i ffenomenon fyd-eang yn y cyfryngau a oedd wedi cydio yn nychymyg pawb. Er bod From Russia with Love yn dal i fod ar gael yn eang ar sawl ffurf ddigidol, does neb yn gwybod ble mae From Wrexham with Love. Oeddech chi'n rhan o ffilmio From Wrexham with Love? Ydych chi'n cofio Cymdeithas Ffilmiau Amatur Wrecsam? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Cysylltwch â ni.

Diolch byth, mae llawer o enghreifftiau o wneud ffilmiau amatur yn dal i fodoli, fel y rhai sydd i'w gweld yn ein casgliadau archif ni. Un enghraifft o'r fath yw Bureaucats. Y cyfuniad hwn o ffilmio byw ac animeiddio gan Brian Anderson oedd prif enillydd Gŵyl Ffilmiau Amatur Ryngwladol Cymru, a drefnwyd gan Gymdeithas Ffilmiau Caerdydd, yn 1978. Ei ffrind, Bud Buzynski, a ddarparodd y gerddoriaeth, a chynorthwyodd hefyd â’r goleuo. Cafodd ei ffilmio ar ffilm Super 8mm, a gostiodd tua £9, gyda chost prynu clai ar gyfer yr animeiddio yn dod â chyfanswm cost gwneud y ffilm i £10. Aeth Brian yn ei flaen i fod yn Gyfarwyddwr Animeiddio Fireman Sam yn Bumper Films, Weston-Super-Mare.

Gellir gwylio'r ffilm, a llawer o ffilmiau amatur eraill, yn llawn ac yn rhad ac am ddim ar y BFI Player.  

Nid ni yw'r unig sefydliad sy'n diogelu ac yn dathlu ffilmiau o'r fath. Er enghraifft, roedd Sefydliad y Sinematograffwyr Amatur yn glwb cenedlaethol ar gyfer amaturiaid a chedwir ei gasgliad yn Archif Ffilm Dwyrain Anglia. Mae'r casgliad yn cynnwys dyddiadur taith yng Nghymru a ffilm stori.

Y ffilmiau amatur hyn yw’r oll sydd wedi goroesi o fuddsoddiad sylweddol o egni cymunedol ac maent yn gofnod gwerthfawr o foment gymdeithasol benodol. Yng Nghymru, maent yn helpu i ddarparu gwybodaeth am agweddau ar y diwylliant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddai'n wych casglu mwy o enghreifftiau o gynyrchiadau ffilm amatur o Gymru i'w hychwanegu at y casgliad, er mwyn diogelu’r enghreifftiau unigryw hyn o greadigrwydd cenedlaethol a'u rhannu ar Ddiwrnodau Ffilmiau Amatur yn y dyfodol. 

Cyfeiriadau

  • Burgess, Marjorie Agnes Lovell. A Popular Account of the Development of the Amateur Ciné Movement in Great Britain / With an Introduction by G.A. Atkinson. London: S. Low, Marston, 1932.
  • Nicholson, Heather Norris. “Local Lives and Communities.” Amateur Film. Manchester University Press, 2012.
  • Motrescu-Mayes, A., & Aasman, S. (2019). Amateur Media and Participatory Cultures: Film, Video, and Digital Media (1st ed.). Routledge.
  • Shand, Ryan, and Ian Craven, eds. Small-Gauge Storytelling : Discovering the Amateur Fiction Film / Edited by Ryan Shand and Ian Craven. Edinburgh: Edinburgh University Press, 2013.
     

Categori: Erthygl