Ar Ddydd Sadwrn 28 Medi mae arddangosfa newydd sbon sy’n dathlu hanes cyfoethog Cymru’n ymwneud â gwaith a mentrau heddwch yn agor yn Oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd.
Trwy gelf ac archifau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae arddangosfa Heddychwyr, yn edrych ar y rôl ganolog y mae unigolion Cymreig wedi chwarae wrth hyrwyddo heddwch, ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.
O Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru a Gwersyll Heddwch Menywod Cymru, i’r ‘Neges Heddwch ac Ewyllys Da’ a phrotestiadau Gwrthwynebwyr Cydwybodol, mae’r arddangosfa hon yn dod â hanesion yr unigolion a’r mudiadau rhyfeddol hyn yn fyw.
Datganiad i'r wasg: Dathlu Heddychwyr Cymru yn Oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd