Mae enwau lleoedd Cymraeg wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar. Mae sawl stori negyddol wedi bod yn y wasg am enwau lleoedd canrifoedd oed yn cael eu disodli gan enwau Saesneg eu hiaith heb fawr o gysylltiad, os o gwbl, â hanes y lle. Tra bod enwau eraill yn diflannu’n llwyr o fapiau o blaid amrywiadau Saesneg mwy ‘poblogaidd’. Er hyn, mae yna dipyn o newid positif wedi bod hefyd. Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn arwain symudiad tuag at fabwysiadu enwau lleoedd Cymraeg gwreiddiol fel yr enw swyddogol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn fwyaf nodedig, cyhoeddwyd y byddai mynydd uchaf Cymru yn cael ei adnabod yn ffurfiol fel Yr Wyddfa yn y ddwy iaith. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dilyn Eryri trwy fabwysiadu’r enw Gymraeg fel y prif enw, fel y dangosir uchod.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio'n galed yn y gofod hwn hefyd, yn torfoli enwau Cymraeg ar safleoedd hanesyddol, yn gwella erthyglau Wicipedia am leoedd Cymraeg ac yn recordio clipiau sain o bobl leol yn ynganu eu henwau lleoedd. Mae'r Llyfrgell wedi sicrhau bod yr holl ddata hyn ar gael trwy Wikidata, sef chwaer brosiect i Wicipedia sy’n edrych i gasglu a rhannu gwybodaeth y byd fel data agored.
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn ganolog i’r ymdrechion hyn i godi proffil enwau lleoedd Cymraeg ac i dynnu sylw at bwysigrwydd eu diogelu ar gyfer y dyfodol. Maent yn cynnal ac yn datblygu cronfa ddata cynhwysfawr o filoedd o enwau lleoedd Cymraeg gyda sillafiadau safonol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i alinio’r set ddata yma gyda data torfol ar Wikidata. Mae'r aliniad hwn yn golygu y gallwn bellach gysylltu lleoedd a enwir yn nata’r Comisiynydd gyda chynnwys am y lleoedd hynny ar Wiki, gan gynnwys erthyglau Wicipedia, ffotograffau ac unrhyw setiau data eraill sydd eisoes wedi'u halinio â Wikidata, megis cofrestr CADW o adeiladau rhestredig. Rydym hefyd wedi cysoni’r data yn llawn â’n cronfa ddata rheoli awdurdod enwau arbrofol (SNARC) sy’n ceisio cysylltu data treftadaeth Cymru gyda’i gilydd mewn set ddata cysylltiedig, dwyieithog ac agored.

Un fantais fawr o ddefnyddio Wikidata fel hwb canolog ar gyfer cysylltu'r holl ddata hwn yw ei fod yn blatfform amlieithog, ac mae'n agored i unrhyw un ei olygu. Mae hyn yn golygu y gallwn gofnodi enwau lleoedd yn Gymraeg a Saesneg. Gallwn hefyd gofnodi nifer anghyfyngedig o amrywiadau neu nodi sillafiadau swyddogol neu sillafiadau hanesyddol. Ac oherwydd y gall unrhyw un olygu a gwneud sylwadau, mae'n ofod democrataidd. Efallai y bydd pobl leol sy’n cyfrannu yn teimlo’n gryf am ffurf benodol ar gyfer eu lle lleol, a allai fod yn wahanol i’r ffurf safonol swyddogol. Ond, oherwydd bod y data’n gysylltiedig â’i gilydd, gall defnyddwyr y data benderfynu pa fersiwn o enw maen nhw am ei ddefnyddio.
Mae manteision cysylltu ein setiau data gyda'i gilydd yn ddeublyg. Yn gyntaf, rydym yn gallu cyflwyno data cyfoethog am leoedd Cymreig mewn un lle, er bod y data yn dod o sawl ffynhonnell. Mae hyn yn ein galluogi i gyfuno data a gynhyrchir gan sefydliadau Cymreig â data torfol ar Wikidata. Mae hyn yn golygu y gall y cyhoedd a sefydliadau’r sector cyhoeddus gydweithio’n effeithiol i greu gwell adnoddau a gwasanaethau er budd pawb.
Yn ail, mae cysylltu ein holl ddata yn ei gwneud yn haws i ni gyflwyno ein data i safon gyffredin. Gydag enwau lleoedd, mae hyn yn golygu y gallwn ni i gyd gymhwyso sillafiadau safonol lleoedd, lle bo'n briodol, ar ein platfformau ein hunain. Mae hefyd yn ein helpu i adnabod camgymeriadau neu fylchau mewn setiau data unigol. Trwy'r broses hon daethom o hyd i nifer o gofnodion Wicipedia wedi'u dyblygu neu wedi'u cam-labelu a hyd yn oed ychydig o ddyblygiadau yn nata Comisiynydd y Gymraeg. Fodd bynnag, mae bellach yn llawer haws cywiro camgymeriadau ar draws yr holl setiau data.
Yn ddiweddar lansiodd Comisiynydd y Gymraeg wefan newydd ar gyfer chwilio eu rhestr o enwau lleoedd Cymraeg ac yr oedd yn awyddus i fanteisio ar y gwaith o gyfoethogi data gan y Llyfrgell. Mae'r wefan newydd yn cynnwys dolenni i erthyglau Wicipedia perthnasol, yn Gymraeg a Saesneg, delweddau a chlipiau sain o Wikidata, a dolenni i gofnodion perthnasol yn setiau data Coflein ac Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, a reolir gan CBHC. Roedd hyn yn bosibl i raddau helaeth oherwydd aliniad y data gyda Wikidata. Mae defnyddwyr y wefan newydd yn elwa nid yn unig o waith y Comisiynydd a’i bartneriaid ond hefyd gwaith miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi recordio clipiau sain, tynnu lluniau neu ysgrifennu erthyglau Wicipedia. Mae hyn yn creu profiad llawer cyfoethocach i’r defnyddiwr.

Rydym nawr yn edrych ar ffyrdd o gadw'r wefan yn gyfoes a chynnwys newydd o Wiki, a gwneud yn siwr bod data'n aros yn gyson yn y tymor hir. Mae'r Llyfrgell eisoes yn bwiradu cynnal digwyddiad gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gasglu a chofnodi enwau lleoedd o Barc Cenedlaethol Eryri ac i gofnodi pobl leol yn ynganu'r enwau hyn. Gobeithiwn ehangu'r model hwn o gydweithio ar draws y sector i wneud y gorau o'n data, i gydweithio a'r cyhoedd ar gasglu a chreu adnoddau gwybodaeth ac, yn bwysicaf oll, i hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
Jason Evans,
Rheolwr Data Agored
Categori: Erthygl