Ychydig yn gynt na’r arfer, cynhaliwyd darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar ddydd Gwener 18 Hydref eleni yn y Llyfrgell Genedlaethol gyda phwyllgor ymgynghorol yr Archif yn cwrdd yn gynt yn y prynhawn. Roedd y Drwm yn llawn a thros 80 yn gwylio ar-lein; cynulleidfa deilwng iawn.
Yr Athro Charlotte Williams oedd y ddarlithwraig eleni, ac yn ei darlith, dan y teitl “From 'a tolerant nation?' to an 'anti-racist nation?' The politics of race equality in Wales” roedd hi'n cynnig dadansoddiad amserol o ddyfodol gwleidyddiaeth hil yng Nghymru, a pha mor unigryw ydyw. Soniodd am y gwahaniaeth oedd polisïau llywodraethau Cymru ers 1999 wedi effeithio ar y drafodaeth ac i ba raddau roedd hyn wedi cael effaith ar brofiadau byw pobl o liw yng Nghymru. Roedd hi wedi son am nodweddion polisïau yng Nghymru sef Hynodrwydd (Dŵr Coch Clir); Anghydlyniad (Decoherence, cyfnod deddfwriaethol cydraddoldeb newydd); a Dadgoloneiddio (Black Lives Matter a thu hwnt). Yn Dilyn y ddarlith, lansiodd Yr Athro Williams ei chyfrol Newydd, Globalising Welsh Studies: Decolonising history, heritage, society and culture - Race, Ethnicity, Wales and the World gyda’i golygydd Neil Evans a chafwyd trafodaeth fywiog.

Fel rhan o’r digwyddiadau roedd arddangosfa dros dro yn ystafell Summers ac erbyn hyn mae’r testun ar dudalennau gwe'r Archif Wleidyddol Gymreig.
Rob Phillips
Categori: Erthygl