Yn ei gerdd ‘Song for Pythagoras’ ceir disgrifiad go unigryw gan Dannie Abse o’r ddeuoliaeth a fodolai gydol ei oes rhwng ei waith meddygol a’i yrfa lenyddol:
‘White coat and purple coat
a sleeve from both he sews.
…White coat and purple coat
can each be worn in turn’
Mae casgliad papurau Dannie Abse yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn datgelu’r ddeuoliaeth yma’n gyson, fel mewn erthygl yn dwyn y pennawd ‘Poet in a White Coat’, neu yn nheitl ei gasgliad rhyddieithol The Two Roads Taken, a gyhoeddwyd yn 2003. Yn un o lythyrau cynnar Abse at ei ddarpar wraig Joan Mercer, cawn ar y dechrau drafodaeth frwdfrydig gan y cyw feddyg am ei gleifion a’i gyd-weithwyr tra ‘roedd dan hyfforddiant ar wardiau prysur ysbytai Llundain, ond, erbyn ail baragraff y llythyr, mae’n llithro bron heb feddwl i drafod ei ddrama ddiweddaraf ac yn holi, yr un mor frwdfrydig, am farn Joan ohoni.
Ond nid dyma’r unig ddeuoliaeth oedd yn perthyn i’r bardd-feddyg. Er mai ym mhrifddinas Cymru y’i ganed ac yn ysgolion a cholegau de Cymru y derbyniodd ei addysg gynharaf, hanai Dannie Abse o deulu Iddewig, yn fab i Rudolph (Rudy) a Kate Abse ac yn frawd iau i’r gwleidydd Llafur Leo Abse. Fe gafodd Dannie a’i wraig Joan seremoni briodas mewn synagog yng Ngorllewin Llundain - mae tystysgrif eu priodas, dyddiedig 26 Hydref 1952, ymhlith papurau Rhagfyr 2022 - ac fe hyd yn oed dderbyniwyd Joan yn aelod o’r ffydd Iddewig mewn seremoni o fewn yr un synagog ar 1 Hydref 1952. Felly, yr oedd ffydd grefyddol ei rieni yn amlwg yn bwysig i Dannie, fel y gwelir mewn sawl un o’i gerddi a’i weithiau rhyddiaith, megis ei gasgliadau o gerddi Poems, Golders Green, a gyhoeddwyd ym 1962, a Running Late, a gyhoeddwyd yn 2006, y mynych erthyglau a gyfrannodd i’r Jewish Chronicle, a’i gyfeillgarwch ag unigolion Iddewig blaenllaw ym myd y celfyddydau, yn eu mysg y rheolwr theatr arloesol Alfred Emmet, yr arlunydd Milein Cosman a’i gŵr, y cerddor a’r awdur Hans Keller.
Mewn cerdd o’r enw ‘Case History’, mae Abse yn ymateb i sylwadau tramgwyddus a diarwybod un o’i gleifion meddygol, sylwadau sy’n targedu’r ddwy agwedd o’r ddeuoliaeth wrth graidd Abse:
‘…He did not
know I was Welsh.
…did not know
I was a Jew.’
Mae gweithiau hunangofiannol Abse yn aml yn mynegi’r ddeuoliaeth Gymreig/Iddewig mewn modd byw a digrif, fel yn ei stori fer ‘Sorry, Miss Crouch’, lle ceir darlun disgrifiadol o Rudy, tad Abse, yn chwarae cyfres o alawon ar ei ffidil, sy’n cynnwys ‘Men of Harlech, My Yiddisher Mama and Ash Grove’. Er hynny, hanes erchyll cenedl ei rieni sy’n amlygu ei hunan pan ddisgrifia Abse, yn y gerdd ‘In Llandough Hospital’, ei dad ar ei wely angau ‘thin as Auschwitz in that bed’.
Awgrymir yng nghyfaddefiad y gwpled ddadlennol ynghanol ‘Song for Pythagoras’ nad yn gwbl ddidramgwydd yr ymblethai gwahanol lwybrau bywyd Abse:
‘white coat and purple coat
few men can reconcile.’
Ond pan fu farw Joan, gwraig Dannie, mewn damwain car ym mis Mehefin 2005, nid meddyg na bardd na Chymro nac Iddew yn benodol a nododd yr un gair llwm, unig ‘Funeral’ yn y gofod ar gyfer y 13eg o’r mis hwnnw yn ei ddyddiadur ond gŵr a wnaethpwyd yn weddw ar amrant gan golled yr unpeth a lwyddodd i uno pob agwedd wahanol ohono at ei gilydd mewn undod cytûn. Ceir hanes colli Joan yn The Presence, y gyfrol ysgrifenwyd gan Dannie Abse fel cofnod ddirdynnol o’r misoedd wedi ei marwolaeth ac a gyhoeddwyd yn 2007.
Y lawes wen, ynteu’r lawes borffor … pa un wnewch chi roi plwc ynddi wrth bori drwy bapurau Dannie Abse?
Categori: Erthygl
