Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i dros 60,000 o weithiau celf, yn amrywio o baentiadau dyfrlliw i gartwnau, a’n parhau i ehangu ei chasgliad celf trwy brosiectau amrywiol.
Un prosiect o’r fath yw Prosiect Gwrth-Hiliaeth y Llyfrgell, ble comisiynwyd pedwar artist – Joshua Donkor, Jasmine Violet, Mfikela Jean Samuel a Dr Adéọlá Dewis – i greu gweithiau celf newydd sy’n ymateb i gasgliadau’r Llyfrgell, gan wynebu rhai agweddau heriol o’n hanes.
Canlyniad hyn yw darluniau sy’n cyfrannu at waith y Llyfrgell i wella amrywiaeth o fewn i’r casgliad celf fel ei bod yn well adlewyrchiad o Gymru.
Mae’r gweithiau ar hyn o bryd i’w gweld naill ai yn arddangosfa Cymru i’r Byd yn oriel Glan yr Afon yn Hwlffordd, yn arddangosfa Myfyrdod ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu ac arddangosfa CYFOES sydd newydd agor yn y Llyfrgell.
Yn ôl Curadur Celf y Llyfrgell, Morfudd Bevan “Mae wedi bod yn brofiad gwych cyd-weithio gyda’r pedwar artist hynod dalentog yma ar y prosiect pwysig iawn yma. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal sgyrsiau agored a gonest am ein casgliadau er mwyn creu gwelliannau ac er mwyn addysgu ein hun am hanes cuddiedig Cymru.”
Categori: Erthygl