Y tro diwethaf i mi ysgrifennu ar gyfer y blog hwn, cyflwynais brosiect Crowd Cymru, a oedd yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i weithio o bell ar gasgliadau archif digidol o Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Gallwch ei ddarllen yma: Croeso i Crowd Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae ein teulu wedi ehangu ers hynny ac rydym yn falch o gyflwyno Archifau Sir Gaerfyrddin, Archifau Conwy, Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe, a Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, fel partneriaid newydd i Crowd Cymru.
 ninnau wedi cael cyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn wreiddiol, roeddem yn ddigon ffodus wedyn i gael cyllid gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac rydym yn cael ein hariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.
Mae erthyglau blog blaenorol wedi adrodd am newyddion a chyflawniadau'r prosiect ond, yma, byddwn yn edrych ar enghraifft o archifau hygyrch ar eu gorau, wrth ddangos y ffordd trwy gasgliadau, a galluogi'r cysylltiadau hynny sydd mor hanfodol wrth ddod â straeon at ei gilydd.
Cysylltiad o'r fath yw testun y blog hwn, sef menyw fedrus iawn o'r enw Blanche Baker-Gabb sydd wedi dod i’r golwg ac wedi llifo trwy'r archifau, y casgliadau digidol ac ystorfeydd treftadaeth fel pelydrau o olau, mewn ffordd ddwys a boddhaus.
Cafodd ei darganfod yn wreiddiol mewn casgliad y mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio arno ar hyn o bryd, ac yna o fewn archif deuluol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac, yn olaf, o fewn deiseb heddwch 100-mlwydd-oed a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod o Gymru yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
![Llun pasbort Blanche Baker-Gabb 1920 [Llyfrgell Genedlaethol Cymru] Llun pasbort Blanche Baker-Gabb 1920 [Llyfrgell Genedlaethol Cymru]](/fileadmin/images_gwefan/new_structure/blog/2024/202412/blanche_passport_photo.jpg)
Gadewch i ni ddechrau gyda'n gwirfoddolwyr yn gweithio ar lyfrau cofnodion cynnar Sefydliad y Merched [WI] Llanwenarth. Pentref bychan yn Nyffryn Wysg yn Sir Fynwy yw Llanwenarth, ac mae’n agos i'r Fenni. Mae sawl grŵp WI o'r ardal hon wedi gosod eu cofnodion [cofnodion cyfarfodydd, llyfrau pwyllgorau, effemera cyffredinol, ffotograffau ac ati], yn nwylo medrus iawn Archifau Gwent.
Mae llyfrau cofnodion yn gronicl hynod ddiddorol o weithgareddau ac, i ddechrau, roedd ein gwirfoddolwyr wedi’u synnu gan y swmp enfawr o waith y llwyddodd y WI hwn i’w gyflawni, wrth iddynt drawsgrifio tudalen ar ôl tudalen. Cawson nhw eu swyno wrth gamu i "fyd anghofiedig", ac oes heb y dechnoleg ddigidol sy'n dominyddu ein bywydau ni heddiw. Mae'r llyfrau cynnar yn dechrau ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'r gweithgareddau'n cynnwys codi arian ar gyfer achosion da [a oedd bob amser yn brif flaenoriaeth], darlithoedd, cystadlaethau, ffeiriau, cyngherddau, diwrnodau allan, ac [wrth gwrs], y gyrfaoedd chwist yr oedd yn rhaid eu cynnal. Yna, wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, gwelwn y WI yn paratoi at yr Ail Ryfel Byd trwy dyfu llysiau, gwau menig i’r milwyr, a chymryd rhan mewn dosbarthiadau nyrsio cartref.
Elfen sy’n ailadrodd yn y cofnodion hyn yw’r enwau; aelodau pwyllgor y WI, y rheiny a oedd yn bresennol wrth alw’r gofrestr, y rhai a oedd ynghlwm ag is-bwyllgorau niferus a'r rheiny y diolchwyd iddynt am eu gwaith a’u caredigrwydd nodedig. Un enw o'r fath y mae’r adroddiadau yn frith ohono, yw ein Miss Blanche ni. Caiff ei chrybwyll dro ar ôl tro, a nodwyd ei bod yng ngwibdaith flynyddol gyntaf WI Llanwenarth ym mis Gorffennaf 1919 [ynghyd â'i nai], yn Is-lywydd am nifer o flynyddoedd, wedi cynnal nifer o bartïon gardd haf i godi arian ar dir hardd ei chartref, yn ymddangos ar is-bwyllgorau ar gyfer cyngherddau Nadolig, Gwyliau Pasg a Chynhaeaf ac wedi trefnu darlithoedd ac arddangosfeydd. Mae'n ymddangos ei bod wedi taflu ei hun yn llwyr i fusnes dyngarol y WI.
![Llyfr Cofnodion W.I. Llanwenarth, Mehefin 1923 [Archifau Gwent] Llyfr Cofnodion W.I. Llanwenarth, Mehefin 1923 [Archifau Gwent]](/fileadmin/images_gwefan/new_structure/blog/2024/202412/llanwenarth_wi_minutes.jpg)
Mae'r llygedyn nesaf o olau yn ein tywys i archif y teulu Baker-Gabb, a adneuwyd mewn ystorfeydd amrywiol gan gynnwys Yr Archifau Gwladol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ystorfa’r Llyfrgell Genedlaethol mae papurau arferol y teulu a’r aelwyd, y byddech yn disgwyl dod o hyd iddynt. Ond, mae'r archif hon hefyd yn cynnwys casgliad o gofrestri o ddarlleniadau meteorolegol (thermomedr, baromedr a glaw) wedi eu hysgrifennu â llaw, a gofnodwyd ym mhreswylfa’r teulu Baker-Gabb, The Chain, yn ystod y cyfnod rhwng 1881 a 1947. Roedd The Chain yn dŷ hardd â gardd furiog Fictoraidd o ddwy erw yn y Fenni, a brynwyd gan Richard Baker Gabb ym 1918. Roedd Richard wedi priodi Rosa Mary Middleton yn 1863 a chawsant bedwar o blant, sef Richard Frederick, John Walter, Constance Mary a'r ieuengaf, Blanche Rosa Minnie (1874 - tua1953).
Rydyn ni'n dysgu mwy am Blanche yn y cofrestrau meteorolegol. Mae'n ymddangos bod y darlleniadau tywydd hyn wedi'u cofnodi gan frawd hŷn Blanche, Richard Frederick, gan fod pob aelod arall o'r teulu yn cael eu crybwyll yn y trydydd person. Ar waelod pob un o'r tablau sydd â manylder cymhleth, mae cofnod dyddiadur bach yn cofnodi bywyd bob-dydd y teulu. O'r dyfyniadau hyn rydym yn dysgu bod Blanche yn gallu mwynhau bywyd cyfforddus, heb bryder yn y byd, gyda digon o gyfleoedd i gymdeithasu, gan ei bod yn aelod o deulu cefnog. Mae'n ymweld â Chaerdydd, Llundain a'r Alban yn rheolaidd, yn ciniawa gyda rhestr hir o ffrindiau, yn chwarae llawer o golff a thenis ac yn teithio dramor yn helaeth i leoliadau fel y Tyrol yn Awstria, yr Eidal, Norwy, Sicily a'r Swistir.
![Papurau The Chain, 1780-1972 [teulu’r Baker-Gabb] cofnodion yn y gofrestr feteorolegol 30 Ionawr 1912 Papurau The Chain, 1780-1972 [teulu’r Baker-Gabb] cofnodion yn y gofrestr feteorolegol 30 Ionawr 1912](/fileadmin/images_gwefan/new_structure/blog/2024/202412/chain_papers.jpg)
Fodd bynnag, roedd mwy i Blanche na byw ar frig cymdeithas. Roedd hi'n swffragét, yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac wedi’i rhestru fel aelod o'r achos yn Women's Suffrage: The Common Cause of Humanity mor gynnar â 1914. Roedd hi'n aelod gweithgar o nifer o gymdeithasau gan gynnwys Ysgrifennydd cangen Y Fenni o Girls’ Friendly Society, ac yn mynychu cyfarfodydd cenedlaethol y gymdeithas yn Llundain yn rheolaidd. Roedd hi hefyd ar bwyllgor yr Eisteddfod leol ac o 1915 mynychai gyfarfodydd y Groes Goch, Merched ar y Tir, a Phwyllgor Amaethyddol y Rhyfel.
Wedi dweud hynny, yng Nghyfrifiad 1921, rydym yn dod o hyd iddi’n aros yn Llundain yn 31a Mortimer Street. Llofnodwyd ffurflen y cyfrifiad gan Mrs Octavia Boyd ac mae'r 38 enw ar y ffurflen yn hynod o ddiddorol. Mae'r mwyafrif yn staff, er enghraifft ceidwad y tŷ, morwyn y parlwr, gweinyddes, porthor ayb., ac yn rhestru eu cyflogwr fel Miss Debenham, Ladies Club yn 31a Mortimer Street. Mae'r rhai nad oeddent yn cael eu cyflogi yn y clwb, fel Blanche, wedi'u rhestru fel ymwelwyr ac er bod nifer, fel Blanche, wedi'u rhestru fel rhai nad ydynt yn gyflogedig, mae llawer ohonynt â chyflogaeth amrywiol fel Cymdeithas Gristnogol y Merched Ifanc, Awdurdod Addysg Salop, a Chyngor Wythnos Genedlaethol y Babanod. Ochr yn ochr â'r rhain hefyd mae darlunydd llyfrau, sawl nyrs, rhywun sy’n tylino’r corff fel bywoliaeth a cherddor. Yn anffodus, nid oes unrhyw wybodaeth ar gael ar hyn o bryd am Octavia Boyd a Chlwb Merched Miss Debenham ond mae gan Mortimer Street hanes diddorol. Mae'n ymddangos mai dyma leoliad rhai o'r tai cynharaf i fenywod yn unig yn y wlad, rhai wedi'u creu gan gwmnïau preifat, eraill gan sefydliadau elusennol fel Cymdeithas Gristnogol y Merched Ifanc (YWCA) a Girls’ Friendly Society.
Y llygedyn olaf o olau ar Blanche yw ei henw ar ddeiseb ymhlith 390,296 o lofnodion menywod Cymru a ymdrechodd i warchod heddwch ar ôl erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Trefnwyd y ddeiseb gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru [WLNU], ac mae’n ble gan ferched Cymru i ferched America i berswadio eu Harlywydd i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, a oedd newydd gael ei sefydlu, a’i arwain. Roedden nhw'n apelio ar America 'o gartref i gartref' ac o 'aelwyd i aelwyd' mewn galwad am 'GYFRAITH NID RHYFEL'.
Roedd yr ymgyrch hon yn ymdrech aruthrol ledled Cymru a oedd yn cynnwys bron i bob aelwyd, gydag actifyddion heddwch yn mynd o ddrws i ddrws. Teithiodd dirprwyaeth, dan arweiniad Cadeirydd WLNU, Annie Hughes-Griffiths, o Gymru i America ym mis Mawrth 1924 i gyflwyno'r ddeiseb i'r Arlywydd, Calvin Coolidge ac yna i gychwyn ar ddeufis o 'Daith Heddwch' o amgylch yr Unol Daleithiau, gan ennyn cefnogaeth trwy sefydliadau merched America a oedd yn cynnwys dros 60 miliwn o bobl.
"Inspired by Annie": Stori Deiseb Heddwch Menywod Cymru i America 1923 – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (wcia.org.uk)
Mae Hawlio Heddwch, prosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn dathlu canmlwyddiant y digwyddiad hwn, dan arweiniad Yr Academi Heddwch, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru [WCIA] a phartneriaid. Cynhaliwyd nifer o brosiectau cymunedol sy'n gysylltiedig â’r Ddeiseb, ac mae enwau a chyfeiriadau ar y Ddeiseb yn cael eu trawsgrifio gan wirfoddolwyr a'u lanlwytho i'r gronfa ddata y gellir ei chwilio'n llawn isod: Deiseb Heddwch Menywod Cymru - Hafan.
![Llofnod Blanche Baker-Gabb ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 [Llyfrgell Genedlaethol Cymru] Llofnod Blanche Baker-Gabb ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 [Llyfrgell Genedlaethol Cymru]](/fileadmin/images_gwefan/new_structure/blog/2024/202412/blanche_petition_signature.jpg)
I gloi, mae'r gwaith y mae ein gwirfoddolwyr Crowd Cymru yn ei wneud yn agor y drws i ymchwil fel hyn. Diolch i'r prosiect hwn fe ddaethon ni o hyd i Blanche ynghudd yng nghofnodion WI Llanwenarth. Arweiniodd hyn at ddod o hyd iddi yn archif teulu’r Baker-Gabb yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle dysgon ni fwy am ei bywyd gartref. Yna, fel diweddglo addas, daethpwyd o hyd i'w llofnod ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru. Ni phriododd Blanche erioed, ac roedd yn byw ar ei phen ei hun yn The Chain hyd nes iddi farw ym 1953, yn 79 oed. Nid oedd yn syndod dod o hyd i'w henw ar y ddeiseb, o ystyried ei gweithgareddau dyngarol diflino, a'i hangerdd dros achos y bleidlais, ond, serch hynny, rhoddodd wefr i ni.
Mae archifau'n llawn cymeriadau fel Blanche, sydd efallai'n ddi-nod yn y darlun mawr, ond y mae eu straeon yn dweud cymaint wrthym ni am y cyfnod yr oedden nhw’n yn byw ynddo; oes a oedd yn wahanol iawn i'n hoes ni. Roedd Blanche yn ffodus i gael ei geni i fywyd breintiedig a gallai fod wedi byw bywyd hamddenol yn hawdd, ond, yn lle hynny, llanwodd ei hamser gyda gweithredoedd da ac ymdrechion elusennol. Mae ei stori yn haeddu cael ei hadrodd, ac wrth i'n gwirfoddolwyr weithio i wella mynediad a’r gallu i chwilio’r archifau, edrychwn ymlaen at ddod o hyd i fwy o straeon a'u hadrodd.
Os hoffech chi ymuno â’n gwirfoddolwyr Crowd Cymru, da chi cysylltwch.
Jennifer Evans
Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Twitter: CrowdCymru
Email / E-bost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Blanche a’i theulu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yma: Personal papers of Blanche Rosa Minnie Baker-Gabb, 1874-c.1953
Gallwch ddarllen rhagor am hanes Mortimer Street yma: Safe spaces for working women: Mortimer Street in late Victorian and Edwardian times - The Fitzrovia News
Mae’r erthygl blog o’r enw Cysylltiadau trwy archifau digidol: bywyd Blanche Baker-Gabb trwy lygaid Crowd Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Deiseb Heddwch Menywod Cymru gan Jennifer Evans wedi’i thrwyddedu o dan Drwydded Priodoliad Rhyngwladol 4.0 Creative Commons
Categori: Erthygl