Symud i'r prif gynnwys
Portrait of Jimmy Wilde and title page of his book

Ysgrifennwyd gan Ian Evans

17 Mawrth 2025

Dros y misoedd diwethaf, mae ein catalogwyr wedi bod brwydro’r ddeuddeg rownd gyda’n casgliadau cudd, gan gloddio am deitlau sy’n gysylltiedig â paffio nad oeddent yn amlwg cyn hyn. Mae'r gwaith yn rhan o brosiect i agor ein casgliadau ac i ddarganfod trysorau nodedig. Yn anffodus, d’oes dim unrhyw wregysau aur pencampwriaeth wedi dod i'r golwg mor belled!

Mae rhai o’r teitlau hyn yn bencampwyr pwysau trwm go iawn, yn taro’n galed gyda’u gwerth hanesyddol, yn enwedig gan eu bod bellach allan o brint. Fe wnaethant symud yn ddeheuig i fewn i’n casgliad rhwng y 1940au a’r 1950au drwy adnau cyfreithiol, dim ond i gael eu gadael ar y rhaffau, wedi’u curo a’u briwio, yn aros am eu hail ddyfodiad.

Mae’r teitlau hyn bellach wedi sicrhau eu lle yn ein catalog a gellir eu darganfod mewn casgliad bach ond grymus o dan GV 1142 X. Dyma flas byr o’r hyn sydd ar gael:
- How to become a boxer (GV1142 X1).
- Scientific boxing and self defence / gan Tommy Burns (GV1142 X16).
- The complete boxer / gan "Gunner" James Moir (GV1142 X153).

Os hoffech fynd ychydig o rowndiau pellach gyda’n casgliad paffio bywiog, mae gennym hefyd nifer o deitlau sy’n gysylltiedig â Chymru. Felly, boed eich bod yn ffan o chwedlau’r sgwâr paffio fel Joe Calzaghe a Jimmy Wilde, neu’n chwilio am wella’ch sgiliau hunanamddiffyn, mae gennym ddeunyddiau a fydd yn taro’ch disgwyliadau!
- No ordinary Joe / Joe Calzaghe (2008 TA 2133)
- The story of Welsh boxing : prize fighters of Wales / Lawrence Davies (2018 XA 2323)
- Hitting and Stopping / Jimmy Wilde (Lleoliad i'w benderfynu)

Dyma'r adeg perffaith i dynnu sylw at ein hamrywiaeth o lyfrau paffio, yn dilyn y newyddion cyffrous fod Lauren Price wedi llwyddo i uno sawl teitl paffio yn ddiweddar. Mae ei chyflawniad anhygoel yn dyst i'w dawn, ei hymroddiad, a’i dyfalbarhad- nodweddion sy’n diffinio’r gamp ar ei gorau. Llongyfarchiadau, Lauren!

 

Categori: Erthygl