Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi ei hymgynghoriad ar Gynllun Strategol 2025-2030 ac mae’n gwahodd adborth gan y cyhoedd a’i phartneriaid.
Fel partner, rhanddeiliaid, neu gyfaill i'r Llyfrgell byddem yn gwerthfawrogi eich barn a sylwadau ar ddyfodol y Llyfrgell.
Bydd y Cynllun yn llywio sut rydym yn datblygu casgliadau cenedlaethol o gof y genedl ac yn ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd ym mhob rhan o’r wlad.
Gallwch lawrlwytho dogfen ymgynghori y Cynllun Strategol yma: Dogfen Ymgynghori Cynllun Strategol LlGC 2025-2030
Cyflwynwch eich ymatebion erbyn 23:59 ddydd Gwener, 21 Chwefror 2025, gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon: Ffurflen Ymatebion Dogfen Ymgynghori
Categori: Newyddion