Heddiw, rydym yn falch i gyhoeddi y bydd Profiad Kyffin Experience yn cael ei leisio gan Syr Bryn Terfel, un o gantorion opera enwocaf y byd. Daw hyn ar ôl i docynnau am ddim gael eu rhyddhau ddoe (2 Tachwedd) ar gyfer y daith drochol, greadigol, ymarferol, 30 munud hon i fyd yr artist enwog o Gymru, Syr Kyffin Williams.
Nid arddangosfa draddodiadol mo arddangosfa Profiad Kyffin Experience – mae'n cyfuno technoleg weledol arloesol, a gaiff ei chysylltu fel arfer â sioeau trochol enfawr tebyg i brofiadau Van Gogh a Cézanne, gyda straeon rhyngweithiol a gweithiau ac eitemau gwreiddiol o archif Kyffin.
Wedi'i defnyddio am y tro cyntaf ar gyfer artist poblogaidd o Gymru, mae hwn yn brofiad trochol newydd sbon, sy’n rhad ac am ddim ac sy'n mapio, yn ail-greu ac yn taflunio gweithiau celf dethol Kyffin yn ddigidol o amgylch yr ymwelwyr ar ffurf sain a golau. Mae'r dechnoleg, a ddatblygwyd gan y partneriaid creadigol Focal Studios a Leo & Hyde, yn cyfleu gwead a chymeriad pob strôc o frwsh Kyffin, a hyn oll wedi'i ddyrchafu gan naratif Syr Bryn Terfel.
Wrth sôn am ei gyfraniad, dywedodd Syr Bryn Terfel, casglwr gwaith Kyffin Williams ers tro byd: “Mi ydw i wrth fy modd yn lleisio Profiad Kyffin Experience. Kyffin oedd llysgennad mwyaf blaenllaw Cymru ym maes y celfyddydau gweledol, ac mae helpu i'w gyflwyno i genhedlaeth newydd sbon yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle bu iddo ymddiried gymaint o’i waith oes, yn golygu llawer iawn i mi.
“Prynais fy ngwaith cyntaf gan Kyffin yn fy ugeiniau cynnar, pan oeddwn i’n fyfyriwr yn Llundain yn ceisio ennill bywoliaeth drwy ganu. Gweithiais yn hynod galed i gynilo swm a fyddai, gobeithio, yn fy ngalluogi i wneud cynnig o leiaf. I fy syndod mawr, syrthiodd y morthwyl ac roeddwn i’n berchen ar y darlun. Atgof na fyddaf byth bythoedd yn ei anghofio. Bydd gweld ei waith yn dod yn fyw yn brofiad a hanner."
Caiff Syr Kyffin Williams (1918–2006) ei ystyried fel arlunydd Cymreig amlycaf yr 20fed ganrif. Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn, a’i hyfforddi yn Ysgol Gelf Slade cyn dychwelyd i Gymru, lle treuliodd ei yrfa yn paentio ei thirlun a’i phobl, yn aml yn yr awyr agored, gyda chyllell palet. Roedd ei bynciau’n amrywio o fôr a mynyddoedd Ynys Môn i gŵn defaid ffermydd mynydd Cymru. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1999. Ar ei farwolaeth yn 2006 gadawodd ei ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd bellach yn dal y casgliad mwyaf o'i waith yn y byd.
Yn ôl Carys Ifan, Cyfarwyddwr Profiad y Llyfrgell Genedlaethol: “Mae hwn yn beth newydd arloesol i Gymru. Mae'r dechnoleg sydd wedi dod â Van Gogh a Cézanne yn fyw i gynulleidfaoedd ledled y byd bellach, yn dathlu am y tro cyntaf meistr o Gymru, yn yr union leoliad y bu i Kyffin ymddiried ei waith oes.
“Mae’n hynod briodol mai Syr Bryn Terfel sy’n lleisio’r profiad hwn. Roedd Kyffin yn edmygu ei waith yn fawr, gan ddewis un o recordiadau Bryn ar gyfer Desert Island Discs. Y gobaith yw y bydd dwyn ynghyd dau artist o Gymru sydd wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled y byd, yn ffordd addas o anrhydeddu gwaddol Kyffin a chyflwyno ei waith nodedig i genhedlaeth newydd o ymwelwyr.
“Gyda Syr Bryn fel eich tywysydd, fe welwch chi Kyffin mewn ffordd na welsoch chi mohono erioed o'r blaen. Gyda dim ond deg o bobl ym mhob sesiwn, mae disgwyl y bydd galw mawr amdano, felly archebwch eich tocynnau am ddim nawr a byddwch ymhlith y cyntaf drwy'r drws. Dewch draw!”
Mae golygfeydd gwledig ac anifeiliaid Syr Kyffin yn gwneud y profiad cwbl ddwyieithog newydd sbon hwn yn addas i deuluoedd ac ymwelwyr iau yn ogystal ag edmygwyr hirsefydlog o waith yr artist. Mae hefyd yn cynnig diwrnod allan perffaith, gyda glan môr, y castell a chynnig diwylliannol ehangach Aberystwyth, gan gynnwys dynodiad diweddar y dref fel Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.
Mae'r profiad yn bosibl diolch i’r prif gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Meddai ei sylfaenydd a'i chadeirydd Mathew Prichard: "Mae Ymddiriedolaeth Colwinston yn falch iawn o ddathlu 30 mlynedd o gydweithio â nifer o sefydliadau celfyddydol blaenllaw ledled y DU, drwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i gefnogi'r profiad trochol hwn o waith Kyffin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
"Rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r profiad trochol nodedig hwn yng Nghymru, yn y sefydliad lle ymddiriedodd Kyffin ei waith oes. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, teimlwn mai dyma’r amser i helpu cenhedlaeth newydd i ddarganfod a mwynhau gwaith yr arlunydd Cymreig gwych hwn."
Mae'r profiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Profiad Kyffin yn agor i'r cyhoedd o ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026.
___Diwedd___
Am wybodaeth ychwanegol ac i drefnu cyfweliad:
Carys Mair Thomas
[email protected]
07702 096704
Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Hyrwyddo a Marchnata
[email protected]
01970 632871
Categori: Newyddion
