Neithiwr ar raglen Cyfrinachau’r Llyfrgell cafodd yr awdur Caryl Lewis gipolwg ar weithiau eiconig y darlunydd Margaret Jones sy’n cael eu cadw o fewn ein storfeydd. Daeth Margaret Jones yn enwog am y darluniau a greodd ar gyfer addasiad Gwyn Thomas o chwedlau’r Mabiniogion yn yr 80au ac fel y gwelwyd ar y rhaglen neithiwr mae nifer o drysorau eraill ganddi o fewn ein casgliadau. Yn ddiweddar roeddem yn hynod ddiolchgar i’w theulu am roi 200 o weithiau ychwanegol gan yr artist yn rhodd I’r Llyfrgell.
O fewn ein casgliadau mae darnau o waith sy'n cynrychioli holl yrfa’r artist, o’i map a’i darluniau eiconig yn dehongli chwedlau’r Mabinogion yn yr 80au, i’w darluniau yn seiliedig ar Chwedl Taliesin yn yr 1990au a’i darluniau o fywyd Llywelyn ein Llyw Olaf yn negawd cyntaf y ganrif hon. Yn ogystal â hyn mae gweithiau a grëwyd ganddi mewn cydweithrediad â’r cylchgrawn Americanaidd i blant Cricket rhwng 1997 a 2004, ynghyd â gweithiau nad ydynt wedi eu cyhoeddi erioed, gan gynnwys 12 darlun yn seiliedig ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym ar gyfer Gwasg Gregynog. Yn 2000 comisiynodd y Llyfrgell Margaret i ddarlunio llyfr gan Rhiannon Ifans a map i nodi chwe chan mlwyddiant teyrnasiad Owain Glyndŵr a phleser oedd dangos esiamplau o’r rhain i Caryl Lewis ar y rhaglen. Diddorol tu hwnt oedd clywed Caryl yn siarad o’i phrofiad helaeth o sut mae awdur a darlunydd yn mynd ati i gyd-weithio ar gyhoeddiad.
![[Translate to Cymraeg:] Branwen by Margaret Jones [Translate to Cymraeg:] Branwen by Margaret Jones](/fileadmin/images_gwefan/new_structure/blog/2025/202510/Branwen_blog.jpg)
MARGARET JONES
Ganed Margaret Dorothy Jones yn Bromley, Caint yn 1918. Dangosodd ddiddordeb mewn straeon tylwyth teg a dawn ym maes celf pan yn ifanc a chafodd ei hysbrydoli gan luniau darlunwyr fel Arthur Rackham. Yn 1941 hyfforddodd i fod yn athrawes mewn Coleg Methodistaidd yn Birmingham lle cyfarfu a’r gŵr Basil Jones. Aeth y ddau yn genhadon i Mizoram, India lle datblygodd ddiddordeb mawr yn chwedloniaeth y wlad. Yma dechreuodd beintio'r bobl a’r tirlun lleol, a chreu set o bypedau papier-mâché a‘u defnyddio ar gyfer sioeau mewn ysbytai ac ysgolion lleol. Daeth y ddau yn ôl i Gymru i fyw yn 1955 gan fagu chwech o blant, ac ymgartrefu yn ardal Aberystwyth.
Yng Nghymru blodeuodd ei sgiliau creadigol. Parhaodd i greu pypedau ar gyfer sioeau bychain lleol, a chreu pob math o deganau i’w phlant. Byddai’n mwynhau braslunio yng nghymoedd Rheidol ac Ystwyth, ac arddangos ei gwaith gyda Chymdeithas Celf Ceredigion. Wedi arddangosfa fechan o’i gwaith yn ei heglwys, Eglwys Dewi Sant, Stryd y Baddon yn Aberystwyth yn1974, magodd Margaret yr hyder i holi am arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac felly yn 1979 a hithau yn 64 oed agorodd ei harddangosfa broffesiynol gyntaf sef Tirlun a Chwedlau Cymru. Arweiniodd yr arddangosfa hon at gomisiwn gan Gyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddarlunio argraffiad lliw o’r Mabinogion gydag addasiad o’r chwedlau gan Gwyn Thomas. O hynny ymlaen cafodd Margaret ei chydnabod fel un o brif ddarlunwyr Cymru, a phrif ddarlunydd chwedlau’r Mabinogion. Yn 2004 daeth hefyd yn awdures gan ysgrifennu ei llyfr cyntaf, Nat pan oedd yn 86 oed.
Wedi gyrfa ffrwythlon a llwyddiannus mae’n deyrnged hyfryd ac addas iawn bod gweithiau Margaret Jones yn cael eu trysori o fewn y Casgliad Celf Cenedlaethol i’w hymchwilio a’u mwynhau gan genedlaethau i ddod.
Gallwch wylio rhaglen Cyfrinachau’r Llyfrgell ar S4C Clic neu BBC iPlayer.
Morfudd Bevan
Curadur Celf
Categori: Erthygl