Symud i'r prif gynnwys
Cyflwyno Llyfr Cofio newydd Aberfan i'r gymuned cyn digwyddiadau coffáu 60 mlynedd

20 Gorffennaf 2026

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cwblhau prosiect coffa arbennig i greu copïau newydd o Lyfr Cofio Aberfan, gan sicrhau y bydd cof am y 116 o blant a'r 28 o oedolion a gollodd eu bywydau yn Nhrychineb Aberfan ar 21 Hydref 1966 yn parhau i gael ei anrhydeddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect yn dod â chymuned Aberfan, crefftwyr arbenigol a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ynghyd wrth i'r paratoadau barhau er mwyn nodi 60 mlynedd ers y Drychineb yn 2026.  

Yr wythnos hon, ymwelodd Mr David Davies, Cadeirydd Elusen Goffa Aberfan, â'r Llyfrgell Genedlaethol i dderbyn y Llyfrau Cofio newydd ar ran y gymuned.  

Dywedodd Owain Roberts, Cyfarwyddwr Casgliadau a Gwasanaethau Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Wrth inni nesáu at 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan, mae’n fraint i Lyfrgell Genedlaethol Cymru weithio ochr yn ochr â phobl Aberfan ar brosiect mor arwyddocaol. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn perthyn i bobl Cymru, ac nid gofalu am gasgliadau yn unig yw ein rôl, ond hefyd gweithio gyda chymunedau i ddiogelu, datblygu a rhannu cof a diwylliant y genedl.

Drwy ein casgliadau, harbenigedd a’n sgiliau cadwraeth arbenigol, rydym yn helpu cymunedau i ddiogelu’r straeon, y gwrthrychau a’r cofnodion sydd bwysicaf iddynt. Mae’r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau a sefydliadau diwylliannol yn cydweithio.

Mae’r Llyfr Cofio hwn yn deyrnged deilwng i’r rhai a gollwyd ac i gryfder a gwydnwch parhaus cymuned Aberfan.”  

Dywedodd Mr David Davies, goroeswr a Chadeirydd Elusen Goffa Aberfan:

“Mae’r Llyfr Cofio hwn o bwysigrwydd aruthrol i bobl Aberfan. Hoffwn ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru a phawb a fu’n rhan o’r prosiect am eu hymrwymiad a’u gofal drwy gydol y gwaith.

Cyflawnwyd y prosiect gyda pharch mawr tuag at y rhai a gollodd eu bywydau, a bydd yn helpu i sicrhau bod eu cof yn parhau am genedlaethau i ddod. Bydd y Llyfrau yn cael eu harddangos mewn casys gwydr yn y gymuned, gyda'r tudalennau'n cael eu troi bob mis i ddangos enwau a dyddiadau geni ein hanwyliaid a gollwyd ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw.”  

Yn gweithio'n agos gyda Mr Davies, ymddiriedolwyr yr Elusen a staff y Llyfrgell Genedlaethol, oedd y caligraffydd Tanja Bolenz. Cafodd tri chopi o'r Llyfr Cofio newydd eu cynhyrchu, a rhwymwyd y tair cyfrol gan Adran Gadwraeth y Llyfrgell Genedlaethol, gan arddangos y sgiliau crefft treftadaeth arbenigol sy'n cael eu diogelu a'u hymarfer yn y Llyfrgell.

Dywedodd Dilwyn Williams, Rheolwr ac Arbenigwr Cadwraeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio ar y cyfrolau hyn. Roedd pob cam o’r broses rwymo, o ddewis deunyddiau i gwblhau’r llyfrau gorffenedig, yn gofyn am sgiliau arbenigol, technegau traddodiadol a sylw manwl i fanylion.

Mae prosiectau fel hyn yn dangos pwysigrwydd diogelu'r sgiliau crefft hyn a'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Rydym yn falch y gellir ymgymryd â gwaith o'r fath yma yng Nghymru ac yn y Llyfrgell Genedlaethol.”  

Mae’r Llyfr Cofio yn un elfen o raglen ehangach o waith sy’n cael ei chyflawni gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan.  

Yn gynharach eleni, lansiodd y Llyfrgell Trychineb Aberfan 1966, adnodd ymchwil ar-lein newydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Archifau Morgannwg ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio deunyddiau o gasgliadau'r Llyfrgell, mae'r adnodd yn helpu i adrodd hanes y drychineb a gwydnwch rhyfeddol y gymuned yn ei sgil.  

Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynllunio arddangosfa am Aberfan, a fydd yn agor yn Hydref 2026 ac yn cynnwys un o’r Llyfrau Cofio newydd. Gyda’i gilydd, nod y prosiectau hyn yw sicrhau bod profiadau’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y Drychineb, a chryfder y gymuned a’i goddefodd, yn parhau i gael eu cofio a’u deall gan genedlaethau’r dyfodol. 

Categori: Newyddion