Symud i'r prif gynnwys
Dwy fenyw yn gweithio ar safle Crowd Cymru

18 Mehefin 2024

Helô! Fy enw i yw Jen a fi yw Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol CrowdCymru.

Lansiwyd y prosiect gwirfoddoli archifau digidol hwn nôl yn 2022 gyda chyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Daeth cam cyntaf y prosiect i ben ym mis Tachwedd 2023 ac wrth edrych yn ôl, rwy'n dal i ryfeddu at yr hyn rydyn ni wedi llwyddo i'w gyflawni.

Gallwch fynd at y pum blog a bostiwyd ar wefan Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, sy'n olrhain y cyfnod hwn, trwy roi "Crowd Cymru" yn y blwch chwilio ar ochr dde uchaf y dudalen ‘Cartref’.

Ond, dyma grynodeb byr o 16 o fisoedd anhygoel!

Sefydlwyd y prosiect hwn i dreialu cymuned dorfoli fyd-eang i Gymru drwy waith ar y cyd rhwng Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y nod oedd adeiladu platfform torfoli a chymuned ar gyfer archifau yng Nghymru; dull cenedlaethol, cydlynol na welwyd ei debyg o'r blaen yn y DU, i ffrwyno gwybodaeth ac amser dinasyddion byd-eang i gyfoethogi metadata sylfaenol a oedd eisoes yn bodoli, sicrhau bod y casgliadau archif sylfaenol hyn yn fwy gweledol, ac ennyn ymchwil newydd.

Treuliwyd yr ychydig fisoedd cyntaf yn chwilio am gronfa o wirfoddolwyr a oedd yn hapus i weithio o bell, gartref, ac ar hyn o bryd mae gennym 87 gwirfoddolwr. Ar ôl sefydlu'r grŵp, dan arweiniad Paul McCann [Rheolwr Prosiectau Ymchwil, Llyfrgell Genedlaethol Cymru] trefnais sesiynau hyfforddi ar-lein er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â'r platfform digidol y byddai'r holl waith yn cael ei wneud arno.

Yn y cyfamser, roedd Paul hefyd yn gweithio gydag Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, a  Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd i uwchlwytho’u casgliadau archifau i'r platfform. 

Casgliad o lythyrau gan Edward Thomas, bardd rhyfel o’r Rhyfel Byd Cyntaf, oedd y casgliad cyntaf y gofynnwyd i'r gwirfoddolwyr ei drawsgrifio. Nid oedd y casgliad hwn, a gadwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ddechrau hawdd gan fod y cynnwys yn sensitif ac roedd yn anodd darllen ei lawysgrifen. Fodd bynnag, profodd hefyd i fod yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd, a defnyddiodd un gwirfoddolwr stori a geiriau Thomas fel rhan o'i gwaith tuag at radd MA mewn Celfyddyd Gain. Fe'u defnyddiodd fel testun ar gyfer un o gyfres o gylchgronau wedi'u gwneud â llaw a grëwyd fel rhan o archwiliad o archif a chof, a'r ffordd y mae bywydau'r gorffennol yn cael eu cadw a'u cofnodi. 

I ddilyn, cafwyd casgliad arall i’w drawsgrifio, sef dyddiaduron amser rhyfel Priscilla Scott-Ellis, nyrs wirfoddol yn Rhyfel Cartref Sbaen a’r Ail Ryfel Byd. Roedd ei llawysgrifen gymaint yn gliriach ond llwyddodd ei chydymdeimlad â Ffasgiaeth Franco i hollti'r ystafell!

Roedd y partneriaid hefyd wedi rhoi casgliadau ffotograffig i'r gwirfoddolwyr er mwyn eu disgrifio a'u tagio. Ychwanegodd Archifau Morgannwg Gasgliad Cymuned Dociau Caerdydd, sef portreadau o unigolion a grwpiau gan gynnwys menywod a phlant, o gymuned dociau Caerdydd, a dynnwyd rhwng 1900 a 1920. Ychwanegodd Archifau Gwent Archif Rygbi ac Athletau Casnewydd, sy'n olrhain hanes y clwb ynghyd â chasgliad pwysig iawn o effemera gan grŵp lesbiaidd a hoyw o ddechrau'r 1980au. 

Rydym wedi cael sylw mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys cylchgrawn Who Do You Think You Are a chylchgrawn Archive & Records Association Members [ARC] a hefyd wedi recordio podlediad ar gyfer The Archives & Records AssociationGwrandewch ar ein pennod.

Cawsom sylw hefyd yn Adroddiad Agor yr Archifau 2023 Archifau Cymru a A Year in Archives 2023 Yr Archifau Gwladol.

Gall rheoli a chefnogi tîm o wirfoddolwyr sy’n gweithio o bell fod yn heriol, gan fod ein grŵp wedi'i wasgaru'n llythrennol ledled y byd! Felly, rydym wedi cynnig sesiynau hyfforddi grŵp ar-lein a chyfleoedd i ddod at ein gilydd yn gymdeithasol, ynghyd â chylchlythyr wythnosol a grŵp Facebook

Rydym bellach yn dechrau ar gam dau CrowdCymru ac mae arian y Loteri Genedlaethol wedi dod i ben a chyllid newydd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dechrau ac yn ein cario ni hyd ddiwedd mis Mai 2024. Mae hyn yn rhan o waith y Llyfrgell ar brosiect Ein Treftadaeth, Ein Straeon sy'n cysylltu cynnwys digidol a gynhyrchir gan y gymuned, ac yn chwilio drwyddo, i ddatblygu casgliad cenedlaethol y werin. 

Felly, gall ein gwirfoddolwyr craff barhau i weithio i wella mynediad i'r casgliadau hyn a'n symud tuag at y camau nesaf yn ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol hygyrch, cysylltiedig a byd-eang ar gyfer archifau cudd ac ymchwil newydd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd maen nhw'n gweithio ar gasgliad o lyfrau cofnodion cynnar gan gangen Llanwenarth o Sefydliad y Merched [a gedwir yn Archifau Gwent] ac maen nhw eisoes yn gweiddi am fwy! Mae trawsgrifio'r hyn sydd, yng geiriau un gwirfoddolwr, "yn fyd coll o fywyd rhwng y rhyfeloedd" wedi dal eu dychymyg ac ymddengys ei fod wedi rhoi lloches dros dro iddynt rhag ansicrwydd a chynnwrf yr oes sydd ohoni.

Fel y soniwyd uchod, gellir dod o hyd i holl allbynnau ein cam cyntaf, gan gynnwys llawlyfr y prosiect, ar dudalen y prosiect.      

Mae yna ragor o gasgliadau ar droed, a byddaf yn postio eto yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. 

Yn y cyfamser, os hoffech chi ymuno â'n criw llawen o wirfoddolwyr, neu, os ydych chi'n rhan o grŵp hanes cymunedol ac eisiau i fi ddod i siarad â chi, da chi, cysylltwch.

Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Twitter: CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450
Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae'r blog hwn o'r enw Croeso i Crowd Cymru gan Jennifer Evans wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Priodoliad 4.0.

Categori: Erthygl